Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 228 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

18.

Diweddariadau Cynllun Gwaith. (Llafar) (Cadeirydd)

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd sawl diweddariad i'r pwyllgor mewn perthynas â'r canlynol: -

 

·       Polisi Tegwch Gwyrdd (PTG) - Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn trafod cynnwys y PTG fel adran mewn Polisi Coed Corfforaethol newydd, gydag Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd.  Cyflwynir adroddiad cynnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

·       Polisi Credyd Fforddiadwy - Roedd cynnydd yn araf oherwydd pwysau gwaith a gobeithiwyd y byddai adroddiad cynnydd yn cael ei ddarparu'n fuan.

 

·       Polisi Dyledion Corfforaethol - roedd Julian Morgans, Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau wedi hysbysu'r Cadeirydd nad fu unrhyw effaith ar incwm, ond bod ôl-ddyledion wedi cynyddu.  Derbyniwyd gwell ymateb gan y llythyr 'mwy cyfeillgar' ac roedd cyfranogiad wedi cynyddu.  Roedd llythyrau atgoffa'n cael eu dosbarthu, roedd Cyngor ar Bopeth wedi cael mwy o atgyfeiriadau a chafwyd cynnydd yn nifer yr hawliadau Gostyngiad Person Sengl.  Byddai perchnogion ail gartrefi'n talu premiymau 100% o 1 Ebrill 2021.

 

Cynigiwyd y bydd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau'n darparu adroddiad diweddaru ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

·       Dyletswydd economaidd-gymdeithasol - Byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal mewn cyfarfod o'r gweithgor er mwyn cael eglurder ynghylch y sefyllfa bresennol.  Trafododd y pwyllgor y ddyletswydd yn fanylach a'r goblygiadau i'r cyngor a phreswylwyr

 

·       Hawlio Budd-daliadau - byddai cyflwyniad yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 22 Chwefror 2021.

 

·       Cludiant Cymunedol - Daeth yr ymgynghoriad ynghylch y strategaeth newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i ben ar 25 Ionawr 2021.  Trafododd y pwyllgor effaith bosib y strategaeth ar gymunedau a chwmnïau  Nodwyd bod Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd (PDP) yn ystyried datblygu Polisi Trafnidiaeth Gynaliadwy ac y byddai'r Cadeirydd yn gofyn i'r PDP ystyried cynnwys Cludiant Cymunedol yn y polisi.  

 

·       Polisi Credyd Fforddiadwy - roedd y polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy bron yn barod i'w ddosbarthu i ymgynghori arno.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    y bydd cynnwys yr adroddiad a'r diweddariad yn cael eu nodi;

2)    y darperir cyflwyniad ar y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd, sef 22 Chwefror 2021;

3)    y bydd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau yn darparu adroddiad diweddaru mewn cyfarfod yn y dyfodol mewn perthynas â'r Polisi Dyled Corfforaethol