Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: - Datganodd y Cynghorydd L V Walton gysylltiad personol â chofnod rhif 14 – Trafodaeth ynghylch Tyfu Bwyd Cymunedol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2020 fel
cofnod cywir. |
|
Trafodaeth - Tyfu Bwyd Cymunedol. PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Joanne
Portwood, Swyddog Polisi a Strategaeth a'r Cadeirydd adroddiad a roddodd
wybodaeth i'r Pwyllgor am Bolisi Cynllun Tyfu Bwyd Cymunedol a gynhaliwyd gan
Gyngor Sir Fynwy. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Modelau/enghreifftiau
o'r prosiectau a'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir; ·
Enghreifftiau
o faterion a wynebwyd gan brosiectau blaenorol, e.e. diogelwch safleoedd; ·
Llwyddiant
cynllun Sir Fynwy a sut yr oedd wedi dod â'r gymuned at ei gilydd; ·
Llwyddiant
Prosiect Tyfu Bwyd Todmorden; ·
Tir/safleoedd
y gellir/na ellir eu defnyddio, enghreifftiau o safleoedd agored a'r dull a
fabwysiedir yn y safleoedd hyn; ·
Sicrhau
bod y bobl â'r angen mwyaf yn elwa o'r bwyd; ·
Y
gwahanol fodelau sy'n cael eu defnyddio ledled Cymru, enghreifftiau o
gefnogaeth a dderbyniwyd a diffyg tîm tyfu cymunedol o fewn Cyngor Abertawe; ·
Cydnabod
maint y gwaith sydd ei angen yn Abertawe o'i gymharu â chymunedau mwy gwledig,
y materion gwirioneddol sy'n gysylltiedig â thlodi sy'n wynebu pobl yn Abertawe
a'r angen am archwiliad o'r holl dir addas; ·
Cydnabod
pwysigrwydd addysgu pobl, yr adnoddau sydd eu hangen a chynllunio ymlaen llaw; ·
Y
defnydd o gyfleusterau banc bwyd cyfredol gan brosiectau e.e. Clydach, diffyg
sgiliau unigol pobl i ddefnyddio bwyd ffres a chysylltu â banciau bwyd i'w
dosbarthu i'r rheini y mae ei angen fwyaf; ·
Cyflwyno
cymhellion ariannol ar gyfer offer etc., y diffyg cyllid sydd ar gael i
ganiatáu i'r cyngor ddarparu cymorth ariannol; ·
Sicrhau
bod y tir sydd ar gael o ansawdd digonol i dyfu arno, yr angen am strategaeth cydnerthedd bwyd ar gyfer Abertawe, y swm mawr o dir sy'n
eiddo i'r cyngor a goresgyn biwrocratiaeth i ddatblygu’r mater; ·
Manteision
tyfu/bwyta bwyd ffres i les ac iechyd meddwl; ·
Cysylltu
unrhyw brosiectau tyfu bwyd cymunedol â'r Rhwydwaith Tlodi Bwyd/landlordiaid
lleol; ·
Ymwybyddiaeth
o lygredd a ffactorau amgylcheddol eraill. Penderfynwyd nodi cynnwys y trafodaethau. |
|
Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 200 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2020-2021. Rhoddodd
ddiweddariadau i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Polisi Tegwch Gwyrdd, y Polisi
Dyledion Corfforaethol, y defnydd o fudd-daliadau, Polisi Credyd Fforddiadwy
a'r rhwydwaith cydgynhyrchu. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r diweddaraf. |