Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Medi 2020 a 1 Hydref 2020
fel cofnod cywir. |
|
Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth) PDF 258 KB Cofnodion: Darparwyd cylch
gorchwyl y 5 Pwyllgor Datblygu Polisi er gwybodaeth. Penderfynwyd y dylid nodi'r Cylch Gorchwyl. |
|
Cyfethol Andrew Davies. Cofnodion: Atgoffodd y
Cadeirydd y Pwyllgor fod Andrew Davies wedi'i gyfethol i'r Pwyllgor Datblygu
Polisi Lleihau Tlodi yn ystod 2019-2020 a'i fod wedi gwneud cyfraniad
amhrisiadwy. Penderfynwyd y dylid cyfethol Andrew Davies i’r Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. |
|
Dyddiadau ac amserau cyfarfodydd yn y dyfodol. (Trafodaeth) Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi fel arfer yn cwrdd am
3.30pm ar ddydd Llun olaf y mis.
Cynigiodd fod y Pwyllgor yn ceisio aildrefnu'r cyfarfodydd hynny sy'n
dod o fewn gwyliau'r ysgol. Yn ogystal,
teimlai y byddai angen cyfarfodydd Gweithgor bob mis yn ogystal â chyfarfodydd
ffurfiol y pwyllgor er mwyn ystyried adroddiadau "Drafft" a sicrhau
bod y gwaith yn ystod y flwyddyn yn cael ei gwblhau'n brydlon. Trafodwyd sawl opsiwn a theimlwyd y dylid
cynnal cyfarfodydd Gweithgor yn syth ar ôl cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu
Polisi ffurfiol. Gofynnodd yr Aelodau os
nad oedd angen y Gweithgor, y dylid eu cynghori yn unol â hynny. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Gwasanaethau
Democrataidd yn ail-drefnu unrhyw gyfarfodydd sy'n dod o fewn cyfnodau gwyliau
ysgol; 2) Cynhelir Gweithgorau bob mis yn syth ar ôl y Pwyllgor Datblygu Polisi ffurfiol. |
|
Cyflwyniad - Diweddariad am bolisïau sy'n cael eu datblygu. Cofnodion: Rhoddodd Jo
Portwood, Swyddog Polisi a Strategaeth ddiweddariad drwy gyflwyniad ar y
polisïau sy'n cael eu datblygu.
Ystyriwyd y pynciau hyn gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi yn
ystod 2019-2020: •
Hyrwyddo
Polisi Credyd Fforddiadwy Nod y Polisi yw rhoi terfyn ar dargedu credyd cost uchel, atal benthyca
cost uchel a hyrwyddo mynediad at gredyd tecach a fforddiadwy. Dywedodd fod Aelod y Cabinet wedi'i lofnodi
cyn ymgynghori â'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
Y gobaith oedd y byddai wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis
Ionawr 2021. Mynegodd y
Pwyllgor ei siom nad oedd y Polisi hwn wedi'i weithredu cyn cyfnod y Nadolig,
adeg pan roedd teuluoedd yn fwyaf anghenus ac y gallent fod yn ystyried rhyw
fath o gredyd. Trafodwyd ffyrdd amrywiol o hyrwyddo opsiynau credyd ac arbedion
fforddiadwy er mwyn helpu
pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm a'r hawliau megis hysbysebu ar slipiau cyflog
staff, mewnrwyd staff a blog y Prif Weithredwr.
Yn allanol, gellid ei hyrwyddo drwy wefan y cyngor, llythyrau Treth y
Cyngor a'r gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Nodwyd y byddai Cynllun
Benthyciad Arbed Tenantiaeth Llywodraeth Cymru hefyd ar gael tan 31 Mawrth 2021
i denantiaid y sector rhentu preifat sydd ag ôl-ddyledion rhent a'r rheini sy'n
ei chael hi'n anodd talu rhent misoedd y dyfodol o ganlyniad i Coronafeirws. •
Polisi
Dyledion Corfforaethol Nod y Polisi yw ei gwneud hi'n hawdd talu biliau, annog cyswllt cynnar,
cynnig cymorth pan fo angen, osgoi gweithredu pellach a sicrhau arfer teg a
chyson wrth gasglu dyledion. Roedd y Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau wedi
datblygu Polisi drafft ac roedd datganiad polisi byrrach hefyd wedi'i
ddrafftio. Roedd angen datblygu
ymhellach gan weithgor. Byddai'r
Cadeirydd a'r Cynghorwyr Ryland Doyle, Christine Richards a Lesley Walton yn
cyfarfod i ystyried y materion a oedd yn weddill cyn cael trafodaeth lawn
gyda’r Gweithgor ar y polisi hwn. •
Polisi
Tegwch Gwyrdd Nod y Polisi yw ceisio gwella tegwch gwyrdd drwy gynyddu cyfleoedd i bobl
elwa ar gysylltiad â natur a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Datblygwyd
polisi drafft gan weithgor a phartneriaid eraill ac roedd cysylltiad â
gweithgor Gweithio gyda Natur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddai drafft terfynol yn cael ei adolygu cyn
cyflwyno argymhellion i'r Aelod(au) Cabinet. Bu ymholiad
ynghylch sut y byddai'r canlyniadau'n cael eu mesur a phwy fyddai'n gyfrifol
amdanynt. Dywedodd y Cadeirydd y byddai
angen ystyried hyn a'i gynnwys yn y cam cynllunio gweithredu. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe. PDF 344 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Anthony Richards, Rheolwr Datblygu'r Strategaeth Tlodi a'i Atal
adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn amlinellu sefydlu Rhwydwaith
Tlodi Bwyd Abertawe. Darparodd gefndir o ran pam y bu angen y Rhwydwaith, y broses a gynhaliwyd
a gwybodaeth am yr ymatebion a gafwyd gan aelodau'r Rhwydwaith i'r 2 gwestiwn
canlynol: 1)
Sut y gallai Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe gefnogi eu
gwaith; 2)
Sut y gallai Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe fod o fudd i
Ddinas Abertawe. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y rhwydwaith o bell ar 6 Hydref 2020, roedd
cyfres o flaenoriaethau a chamau gweithredu wedi'u nodi ac amlinellwyd y rhain
yn yr adroddiad. Byddai'r Rhwydwaith yn cyfarfod yn fisol ac yn cael ei gydgysylltu a'i
hwyluso gan y Gwasanaeth Trechu Tlodi. Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Datblygu'r Strategaeth Tlodi a'i Atal am yr
wybodaeth ddiweddaraf. Byddai'n
dosbarthu'r adroddiad i'r Cydlynydd Ardal Leol i ystyried unrhyw
sefydliadau/unigolion ychwanegol i'r grŵp Facebook a allai gefnogi'r
Rhwydwaith. Byddai hefyd yn gofyn i
Aelod y Cabinet ofyn i bob Cynghorydd am wybodaeth debyg. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Trafod Cynllun Gwaith 2020-2021. PDF 121 KB Cofnodion: Amlinellodd y Cadeirydd y pynciau arfaethedig i'r
Pwyllgor eu hystyried yn ystod Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. Yna cafwyd
trafodaethau manwl ynghylch y Cynllun Gwaith a oedd yn cynnwys: ·
Polisïau/rhaglenni
trechu tlodi sy'n dod i'r amlwg Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cael eu
cyflawni drwy Asesiadau Effaith Cydraddoldeb yn Abertawe Gallai'r Pwyllgor
ymgyfarwyddo â dyletswydd economaidd-gymdeithasol y cyngor fel rhan o'r Ddeddf
Cydraddoldebau nad oedd wedi'i deddfu eto drwy gyflwyniad gan swyddogion
perthnasol. ·
Cludiant
cyhoeddus (Mynediad at Drafnidiaeth fforddiadwy/Cynlluniau Trafnidiaeth
Gymunedol) Derbyn gwybodaeth gan swyddogion am y
cyfyngiadau gyda'r cynnig presennol/rôl trafnidiaeth gymunedol mewn gwledydd
eraill/ceir cymunedol (ystyriwch system Redibus Reading a Chynllun Ring &
Ride Exeter). ·
Tyfu
bwyd cymunedol Cynnwys rhannu gerddi drwy baru'r
gerddi mawr hynny nad ydynt yn cael eu defnyddio â'r rheini nad oes ganddynt
fynediad i rywle i dyfu bwyd. Ystyried y
cynllun "Lle i Dyfu". Sut y
gellid defnyddio mannau a rennir mewn datblygiadau tai gan gynnwys mannau
Cymdeithasau Tai. ·
Undebau
Credyd Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y
cynllun gweithredu, etc. Hyrwyddo undebau credyd ac annog pobl i gynilo a
rheoli eu harian eu hunain. ·
Y
diweddaraf am Fudd-daliadau Sicrhau bod y gwaith hyd yn hyn wedi'i gwblhau ac ymchwilio i pam roedd nifer
yr aelodau'n isel. Trafodwyd prydau
ysgol am ddim ac roedd angen sesiwn ychwanegol ar hawliau lles hefyd. Yn ogystal,
tynnodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion sylw at waith sy'n
gysylltiedig â'r cynllun adfer mewn perthynas â thlodi annisgwyl/sydyn. Gofynnodd a fyddai'r pwyllgor yn cysylltu hyn
â'r cynllun gwaith y cytunwyd arno. Penderfynwyd ar y canlynol 1)
Mae'r
eitemau uchod yn ffurfio'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2021; 2)
Dylid
trefnu Gweithgor ar Ddyled Gorfforaethol cyn gynted â phosib; 3) Amserlennu cyfarfodydd pellach y Gweithgor. |