Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 238 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

32.

Cyflwyniad - Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Cofnodion:

Darparodd Anthony Richards, Rheolwr Strategaeth Trechu Tlodi a'i Atal a Datblygu, ynghyd ag Amy Hawkins, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi, gyflwyniad am Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer 2019.

 

Cyhoeddwyd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2019) diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd 2019.  MALlC yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.  Dyma'r mynegai newydd cyntaf am bum mlynedd ac mae'n disodli MALlC 2014.

 

Roedd MALlC yn defnyddio daearyddiaeth 'Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is' (ACEHI) y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n rhannu'n 1,909 o ardaloedd daearyddol gwahanol â phoblogaeth o 1,600 ar gyfartaledd, fel ei uned adrodd.  Ar hyn o bryd roedd 149 o ACEHI yn Abertawe, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn y 36 o Ardaloedd neu Wardiau Etholiadol sydd yn Abertawe. 

 

Roedd MALlC yn cynnwys 8 parth (neu fath) o amddifadedd gwahanol: incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol ac amgylchedd ffisegol.  Lluniwyd pob parth drwy ddefnyddio nifer o ddangosyddion gwahanol.

 

Gellid cael rhagor o wybodaeth ar y gwefannau canlynol:

 

Llywodraeth Cymru:

 

https://llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymru-diweddariad-llawn-ir-mynegai-gyda-graddfeydd-2019

https://gov.wales/welsh-index-multiple-deprivation-full-index-update-ranks-2019

 

Map Rhyngweithiol:

 

https://wimd.gov.wales/geography/la/W06000011?lang=cy#&min=0&max=10&domain=overall

https://wimd.gov.wales/geography/la/W06000011?lang=en#&min=0&max=10&domain=overall

 

Cyngor Abertawe:

 

https://www.abertawe.gov.uk/mallc

https://www.abertawe.gov.uk/MALlC

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddogion yn briodol.  Nodwyd bod MALlC yn un o nifer o adnoddau a ddefnyddiwyd gan yr awdurdod a sefydliadau lleol eraill i lywio cyflwyno gwasanaethau, dyrannu adnoddau, ariannu ceisiadau a gwneud penderfyniadau. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

33.

Rhaglen Waith ar Gyfer 2019-2020. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig 'er gwybodaeth’.