Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir, yn amodol ar ddiwygio cofnod 8 (6) sef estyn y gwahoddiad i Andrew Davies, cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar gyfer naill ai un pwnc yn unig (Tlodi) neu ar gyfer y flwyddyn gyfan. Bydd Mr Davies yn penderfynu ar sail ei gyfetholiad yn seiliedig ar ei ymrwymiadau.

 

11.

Cyfethol Andrew Davies.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019, lle cytunwyd i gyfethol Andrew Davies, cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i'r pwyllgor ar gyfer naill ai un eitem benodol (Tlodi) neu ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/2020.

 

Penderfynwyd cyfethol Andrew Davies, cyn-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i'r pwyllgor ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/2020 yn ei chyfanrwydd.

12.

Diweddariad ar y Comisiwn Gwirionedd Tlodi. (Llafar)

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Tlodi a'i Atal fod y Cabinet wedi cwrdd ar 20 Mehefin 2019 a chymeradwywyd cyfranogaeth y cyngor yn y Comisiwn Gwirionedd Tlodi.

 

Dywedodd y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp tasg a gorffen. Rôl y grŵp tasg a gorffen oedd sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi yn Abertawe a thrafod materion ynghylch rolau a chyfrifoldebau, cefnogaeth swyddogion etc, er mwyn trefnu lansiad cyhoeddus o fewn 6-9 mis. Manylodd ar aelodaeth y grŵp a oedd yn cynnwys yr Arweinydd, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell a chynrychiolwyr o'r trydydd sector.

 

Cododd yr aelodau faterion ynghylch: angenrheidrwydd derbyn adroddiadau ysgrifenedig cyn y cyfarfod er mwyn rhoi ystyriaeth lawn i'r mater; trefniadau llywodraethu ac adrodd; yr angen i sicrhau annibyniaeth o'r cyngor; cyngor Mr A Gravell ar arfer gorau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg yr adroddiad i'r Cabinet ar 20 Mehefin 2019;

2.     Y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg adroddiad gwreiddiol yr Ymchwiliad Craffu; a

3.     Er na nodwyd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe fel pwnc ar gyfer y cynllun gwaith, hoffai aelodau dderbyn diweddariadau rheolaidd er gwybodaeth.

 

13.

Cyflwyniad - Seilwaith Gwyrdd a'i Gysylltiadau ag Iechyd - Fran Rolfe, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cofnodion:

Rhoddodd Fran Rolfe, Cyfoeth Naturiol Cymru, gyflwyniad ar yr Isadeiledd Gwyrdd a'i gysylltiadau ag iechyd.

 

Nododd y cyflwyniad:

 

·       Esboniad o'r Isadeiledd Gwyrdd.

·       Y Naw Ffin Blanedol.

·       Heriau Trefol Abertawe.

·       Gwasanaethau Ecosystem yr Isadeiledd Gwyrdd.

·       Busnes fel arfer.

·       Bioamrywiaeth

·       Egwyddorion Gwyrdd.

·       SuDS.

·       Astudiaeth Dichonoldeb - Y Gallu i Greu.

·       Mannau gwyrdd trefol a iechyd.

 

Roedd trafodaethau'r aelodau'n cynnwys: diffyg mannau gwyrdd yn ward y Castell; y dystiolaeth i gefnogi bod pobl sy'n gwella o salwch yn cael budd o fannau gwyrdd; y gwahaniaeth rhwng ymrwymiad a pholisi; annog plannu coed mewn cymunedau ledled Abertawe, yn enwedig cymunedau difreintiedig; rolau PDP eraill wrth archwilio'r Isadeiledd Gwyrdd; archwilio rôl partneriaid wrth gynorthwyo'r cyngor â'r strategaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Fran Rolfe am ei chyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

14.

Adborth gan y Fforwm Tlodi Mewnol. (Llafar)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y fforwm wedi cwrdd ac ailffocysu er mwyn gwneud yr amcanion yn rhai CAMPUS.

 

15.

Dyddiadau ac Amseroedd Cyfarfodydd y Dyfodol. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at drafodaethau blaenorol a dywedodd mai'r amser a'r diwrnod mwyaf cyfleus ar gyfer y cyfarfod oedd 3.30pm ar ddydd Llun neu ddydd Iau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cynnal y cyfarfod nesaf ddydd Llun 30 Medi am 3.30pm.

2)    Y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â'r Cadeirydd ynghylch amserlen dyddiadau ar gyfer gweddill y Flwyddyn Ddinesig.

 

 

16.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n cysylltu â Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch amserlennu pynciau ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig.