Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Ebrill a 9 Mai 2019 fel cofnod cywir.

7.

Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth) pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Adroddwyd am Gylch Gorchwyl y pwyllgor ‘er gwybodaeth’.

 

8.

Cynllun Gwaith 2019-2020. (Drafodaeth)

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y pynciau arfaethedig i'r Pwyllgor eu hystyried yn ystod Blwyddyn Ddinesig 2019-2020 a dosbarthodd Gynllun Gwaith Drafft i'w drafod. Yna cafwyd trafodaethau manwl ynghylch y Cynllun Gwaith a oedd yn cynnwys -

 

·         Cyfathrebiadau - Gofynnodd y Cadeirydd os gellir sefydlu Grŵp ar Microsoft Teams er mwyn rhannu gwybodaeth ynghylch y Pwyllgor, yn enwedig yr holl lythyron i'r Cabinet a'r cyflwyniadau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol.

 

·         Comisiwn Gwirionedd Tlodi

 

Derbyniwyd cais i gynnwys y pwnc hwn fel eitem sefydlog wrth symud ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet i roi'r camau nesaf ar waith. Trefnwyd cyfarfod sefydlu grŵp ar gyfer 17 Gorffennaf 2019.

 

·         Benthyca llog uchel

 

Cynigiodd y cadeirydd i drosglwyddo'r Cynllun Gweithredu presennol i bolisi drafft, i'w drafod yn y cyfarfod nesaf a drefnir. Trafodwyd hyfforddiant staff ynghylch y pwnc hefyd.

 

·         Tlodi bwyd

 

Dosbarthwyd manylion am dlodi bwyd: newyn ac ansicrwydd bwyd. Soniodd y Cadeirydd am unigolion sy'n gymwys am brydiau ysgol am ddim sydd ddim yn eu hawlio, rôl yr awdurdod/3ydd Sector o ran darparu cefnogaeth, gwasanaeth a ddarparwyd gan Fareshare Cymru, gweithgor trawsbleidiol y Cynulliad yn ystyried argymhellion ar gyfer cynghorau lleol.

 

·         Cynyddu Isadeiledd Gwyrdd mewn cymdogaethau difreintiedig.

 

Cynigiodd y Cadeirydd y dylid gwahodd Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i gael ei gyfethol ar y Pwyllgor ar gyfer y pwnc hwn yn unig/gweddill y flwyddyn ddinesig. Ychwanegodd fod cysylltiad clir rhwng anghydraddoldebau iechyd a diffyg mannau/isadeiledd gwyrdd. Cynigwyd hefyd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru/GIG ddarparu cyflwyniadau ar anghydraddoldebau iechyd. Trafododd y Pwyllgor gyfranogaeth y gymuned mewn cynlluniau/prosiectau a gwaith y sefydliadau 'cyfeillion'

    

·         Hawlio Budd-dal

 

Trafododd y Pwyllgor Gyfarwyddeb Taliadau'r UE (2014 /92/EU)/banciau'n gwrthod unigolion rhag agor cyfrifon banc, unigolion nad ydynt yn hawlio eu hawliadau oherwydd cywilydd, gwiriadau ariannol a wnaed gan y cyngor, anelu am hyfforddiant staff gorfodol ar y pwnc, achrediad cyflog byw,

 

·         Llythyron i Hawlwyr budd-daliadau

 

Amlygodd y Pwyllgor y defnydd o jargon, newid yr eirfa er mwyn galluogi'r derbynnydd i ddeall/lleihau'r neges a gaiff ei chyflwyno, gan dargedu Treth y Cyngor/llythyron Budd-daliadau Tai, gan ddefnyddio enghreifftiau o sefydliadau eraill a sut y mae eraill, e.e. CThEM wedi gwneud arbedion trwy symleiddio eu gohebiaeth.

 

 

 

 

 

 

Penderfynwyd ar y canlynol:    -

 

1)    Bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu Grŵp Microsoft Teams ac yn rhannu'r holl lythyron/cyflwyniadau a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol;

2)    Cynnwys y Comisiwn Gwirionedd Tlodi fel eitem sefydlog ar agendâu'r dyfodol;

3)    Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd Gweithgor trawsbleidiol y Cynulliad am fwy o wybodaeth ynghylch eu cynigion ar dlodi bwyd;

4)    Trafod tlodi bwyd yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

5)    Trafod enghreifftiau o lythyrau yn y cyfarfod a drefnir ar gyfer 25 Medi 2019;

6)    Gwahodd Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i'r pwyllgor ar gyfer y pwnc hwn yn unig/gweddill y flwyddyn ddinesig;

7)    Gwahodd GIG/Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu cyflwyniadau ar anghydraddoldebau iechyd yn y cyfarfod nesaf a drefnir/cyfarfod yn y dyfodol;

8)    Cynnwys adborth o'r Fforwm Tlodi mewnol fel eitem sefydlog ar agendâu'r dyfodol;

9)    Ychwanegu Polisi Cyflog Byw drafft i'r Cynllun Gwaith;

10) Bydd y Prif Gyfreithiwr yn darparu adborth i'r Cadeirydd ynghylch Cyfarwyddeb Taliadau'r UE (014/92/EU).