Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2019 fel
cofnod cywir. |
|
Llythyrau'r Cyngor at breswylwyr. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Joanne
Portwood, y Swyddog Strategaeth a Pholisi, gyflwyniad i'r pwyllgor ar
lythyrau'r cyngor at breswylwyr. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: - ·
Llythyrau'r cyngor - defnyddio Saesneg clir, iaith hawdd
ei darllen a'r Ddamcaniaeth Hwb i wella cyfathrebu; ·
Yr Angen am Newid; ·
Manteision newid; ·
Enghreifftiau o effaith llythyrau sydd wedi'u
hysgrifennu'n wael; ·
Arfer da: Saesneg clir; ·
Arfer da: Fersiwn hawdd ei darllen; ·
Damcaniaeth Hwb; ·
Enghraifft 1: Wedi'i threialu gan CThEM; ·
Enghraifft 2: Cyngor Bwrdeistref Colchester; ·
Enghraifft 3: Cyngor Wigan; ·
Camau nesaf. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Symleiddio'r neges a gwella edrychiad y llythyrau gydag
e.e. gwaith celf; ·
Yr angen i wneud llythyrau'n haws i'w deall ac edrych ar lythyrau
enghreifftiol a anfonwyd gan y cyngor; ·
Sut mae peidio â deall llythyrau'n arwain at breswylwyr
yn cael eu herlyn; ·
Sut mae Shelter Cymru wedi nodi problem preswylwyr yn
cael eu herlyn ac am fynd i'r afael â'r sefyllfa a sut gallai newid i eirio symlach osgoi erlyniadau, costau llys a dyled. Penderfynwyd:
- 1)
Y byddai'r Adran Cyllid yn darparu cyflwyniad sy'n rhoi
enghreifftiau o lythyrau sy'n cael eu hanfon at breswylwyr; 2)
Bydd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion yn
adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar drafodaethau â Shelter Cymru a'r Adran Tai ac yn
darparu llythyrau enghreifftiol i'w hystyried. |
|
Hawliau dynol Dinas a Sir Abertawe. (Llafur) Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Mo Sykes ddiweddariad i'r pwyllgor am gynnydd ynghylch Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol. Rhoddodd
ddiweddariad a oedd yn cynnwys y diffiniad o Ddinas Hawliau Dynol, ei
chenhadaeth a'i hamcanion. Roedd hefyd yn amlygu'r datganiad ar gyfer Dinas
Efrog, y bobl a oedd yn ymwneud â hyn, yr hyn yr oeddent yn ei wneud a phedair
elfen allweddol eu strategaeth. Amlygwyd yr
ystyriaethau ar gyfer Abertawe hefyd, gan gynnwys yr agenda weithredu a oedd yn
manylu ar y canlyniadau a'r adnodau angenrheidiol. Dywedodd os oedd Abertawe'n dymuno bod yn Ddinas Hawliau Dynol y byddai'n
gorfod gwneud pethau'n wahanol ac roedd angen ymrwymiad lefel uchaf yr
awdurdod. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Yr
angen i gyflwyno datganiad o genhadaeth trosgynnol; ·
Ysgolion
yn edrych ar y mater Hawliau Dynol, gofyn iddynt amlinellu'r hyn y dylai Dinas
Hawliau Dynol fod a thrafod y mater yn uniongyrchol ag un o ysgolion Abertawe; ·
Cynnwys
grwpiau/unigolion eraill yn Abertawe a'u cynnwys mewn trafodaethau; ·
Trafod
y mater â grwpiau swyddogion yn y cyngor: ·
Cabinet
/Tîm Rheoli Corfforaethol yn ymrwymo iddo. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Mo Sykes am ddarparu ei hadroddiad. Penderfynwyd: - 1)
Y
bydd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion yn drafftio llythyr at y
Cabinet/TRhC ac yn ei gylchredeg i'r pwyllgor er mwyn
ei gymeradwyo; 2) Ymchwilio ymhellach i'r syniad o drefnu ymweliad ar y cyd gyda'r Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau ag un o ysgolion Abertawe. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 104 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019. Darparodd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion ddiweddariad ar y
cynnydd ynghylch Benthyca Llog Uchel. Amlinellodd y camau gweithredu a gymerwyd
mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel. Tynnodd sylw at y ffaith bod cynghorwyr wedi gofyn am
hyfforddiant ymwybyddiaeth o fenthycwyr arian didrwydded/ymwybyddiaeth o
weithredoedd twyllodrus ychwanegol. Penderfynwyd:
- 1)
Nodi
cynnwys y Cynllun Gwaith diweddaredig ar gyfer
2018-2019; 2)
Y
bydd Rheolwr y Gwasanaeth Lles a Ffyniant Oedolion yn cylchredeg crynodeb o'r
cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel; 3)
Ymchwilio ymhellach i'r opsiynau ar gyfer
hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o fenthycwyr arian didrwydded/ymwybyddiaeth o
weithredoedd twyllodrus. |