Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 fel
cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Cyflwyniad Abertawe'n Gweithio a'r Fargen Ddinesig. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd gan Rachel Moxey,
Pennaeth Tlodi a'i Atal ac Elliott Williams, Rheolwr Ariannu Allanol ar Adfywio
Dinas Abertawe ac Abertawe'n Gweithio. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: - ·
Rhaglen adfywio'r ddinas; ·
Safleoedd blaenoriaeth allweddol; ·
Cynnydd yng ngham y sector preifat/cynigion hyd yn hyn; ·
Man cyhoeddus Ffordd y Brenin ·
Buddion rhaglen a buddsoddiadau adfywio canol y ddinas; ·
Abertawe'n Gweithio -
sefydliadau ac adfywio. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol:
- ·
Swyddi gwag yn cael eu llenwi gan bobl leol, nodi'r bwlch
sgiliau a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyfateb er mwyn galluogi sgiliau; ·
Effaith - cael amgylchedd gwell a chyfoeth cyffredinol; ·
Cael y di-waith/rhai sy'n derbyn tâl isel i gyrraedd y
lefel nesaf/cyflogaeth a chael eu hyfforddi'n well; ·
Canolbwyntio ar y bobl y maent yn anos eu cyrraedd; ·
Sefydliadau'n prynu eiddo yn ardal Ffordd y Brenin a
gwella rhai hen adeiladau yn yr ardal. Penderfynwyd: - 1)
Nodi cynnwys y cyflwyniad; 2)
Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Cyflwyniad - Gofal Plant Estynedig. Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad ar Ofal Plant Estynedig gan Allison Williams, Rheolwr Adnoddau
Teuluoedd, Roedd y manylion
a ddarparwyd yn cynnwys: - ·
Y
Cynnig Gofal Plant i Gymru; ·
Cyflwyniad; ·
Grantiau
yn Abertawe; ·
Beth
yw'r Cynnig Gofal Plant? ·
Ein
hymagwedd; ·
Beth
sydd ar gael, cyfalaf etc; ·
Anghenion
Dysgu Ychwanegol; ·
Ffigurau
hyd yn hyn/dadansoddiad o geisiadau o godau post; ·
Camau
nesaf. Gofynnodd y pwyllgor
gwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol.
Cafwyd trafodaethau am y canlynol: - ·
Costau
penodol a gwersi a ddysgwyd o'r model a ddefnyddiwyd yn Lloegr; ·
Sut
mae'r cynllun yn cefnogi rhieni sy'n gweithio; ·
Y swm
enfawr o waith a gwblhawyd gan staff; ·
Dethol
wardiau llwyddiannus yn Abertawe; ·
Rhesymau
pam y bu rhai wardiau'n aflwyddiannus. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2) Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 105 KB Cofnodion: Rachel Moxey -
Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Rachel Moxey - Pennaeth Tlodi a'i Atal. Cofnodion: Diolchodd y
Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, i Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal am ei
gwaith gyda'r pwyllgor gan ddymuno'n dda iddi yn ei rôl newydd gyda Chyngor Sir
Penfro. |