Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

44.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

45.

Cofnodion. pdf eicon PDF 127 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

46.

Cyflwyniad - Y Diweddaraf ar Ddinas Hawliau Dynol (DHD).

Dr Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe.

Cofnodion:

Rhoddodd Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe, gyflwyniad ar y diweddaraf am statws Dinas Hawliau Dynol.

 

Rhoddodd gefndir y gwaith yr oedd wedi'i gyflawni a phwysleisiodd yr angen i gael canlyniadau gweladwy ac amcanion tymor hir. Ychwanegodd fod y gwaith yn ymwneud yn bennaf â hawliau cymdeithasol mewn cyd-destun Cymreig a bu'n ymwneud â chynnwys a chyfranogiad.

 

Cyfeiriodd at y gwaith yr oedd wedi'i wneud ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, yn enwedig sefydlu Grŵp Llywio a Chynllun Cyflawni. Canolbwyntiodd ar gynnwys y Datganiad o Fwriad a'r Cynllun Cyflawni a dywedodd y byddai'n hapus i roi diweddariad i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau ynghylch y cyflwyniad, ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Amserlen Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol;

·         Y gallu oedd ei angen i Abertawe ddod yn Ddinas Hawliau Dynol;

·         Sut i ddatblygu materion drwy'r cyngor, y BGC a grwpiau dan anfantais;

·         Cysylltu â materion/grwpiau cydraddoldeb;

·         Enghreifftiau o ddinasoedd eraill, e.e. Efrog;

·         Yr angen i statws Dinas Hawliau Dynol weithio i bawb.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Dr Simon Hoffman am ddarparu'r cyflwyniad.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Gwahodd Dr Simon Hoffman i ddarparu diweddariad pellach yng nghyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 27 Mawrth 2019.

 

 

47.

Ymatebion Cadarnhaol i Egwyddorion Diwygio Lles. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyflwyniad a ddarparwyd gan Rachel Moxey yn y cyfarfod blaenorol ynghylch Ymatebion Cadarnhaol i Egwyddorion Diwygio Lles. Cyfeiriodd at y canlynol a oedd yn rhan o’r cyflwyniad a dywedodd fod ymwybyddiaeth gan gynghorwyr a'r cyhoedd yn bwysig: -

 

·         Polisi defnydd data mewnol.

·         Cefnogaeth ariannol - y rhai y mae angen iddynt leihau dyledion rhent, gan leihau'r posibilrwydd o droi allan (Tai Coastal ac Abertawe).

·         Clustnodi aelwydydd lle na fyddai'r trydydd plentyn/plant dilynol yn derbyn Credydau Treth Plant bellach.

·         Clustnodi'r teuluoedd sydd mewn perygl.

·         Cynghorwyr yn nodi pobl yn eu ward y gallent eu helpu.

 

Mynegodd y pwyllgor bryder bod y Pennaeth Tlodi a'i Atal yn gadael yr awdurdod yn fuan a gofynnodd am eglurder ynghylch dyfodol y swydd.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y trafodaethau;

2)    Y bydd y Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet i geisio eglurder ynghylch swydd Pennaeth Tlodi a'i Atal.

48.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Gofal Plant Estynedig - derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

·         Abertawe'n Gweithio a'r Fargen Ddinesig – rhoi’r cyflwyniad ar y cyd yng nghyfarfod mis Chwefror.

·         Y Diweddaraf am statws Dinas Hawliau Dynol - Dr Simon Hoffman yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i gyfarfod mis Mawrth.

·         Benthyca Llog Uchel - Penderfynu faint mae'r cyhoeddusrwydd ychwanegol wedi gweithio.

·         Cynllun Rhoi'n Gall - Llythyr drafft i'w ddosbarthu i'r pwyllgor ar gyfer sylwadau/cytundeb.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn penderfynu pwy fydd yn mynd i'r cyfarfod nesaf i roi diweddariad ynghylch Gofal Plant Estynedig;

3)    Rhoi’r cyflwyniad ynghylch Abertawe'n Gweithio a'r Fargen Ddinesig yng nghyfarfod mis Chwefror;

4)    Y bydd Dr Simon Hoffman yn darparu'r diweddaraf am statws Dinas Hawliau Dynol yng nghyfarfod mis Mawrth;

5)    Dosbarthu llythyr drafft y Cynllun Rhoi'n Gall i'r pwyllgor am sylwadau/gytundeb.