Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Cyhoeddodd y Cynghorwyr D W Helliwell ac L R Jones gyswllt personol â chofnod 42, "Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel". |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2018 fel
cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Ymatebion Cadarnhaol i Egwyddorion Diwygio Lles. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad am yr atebion cadarnhaol i'r Egwyddorion
Diwygio Lles. Amlinellodd brif
ganfyddiadau data'r Single Household Benefit Extract (SHBE) mewn perthynas â'r
canlynol: ·
Mawrth
2017 - 17,500 o aelwydydd; ·
Mawrth
2018 - 25,000 o aelwydydd; ·
Medi
2018 - 24,500 o aelwydydd. Amlinellodd
ragfynegiad o'r sefyllfa yn 2020 yn seiliedig ar drywydd data o fis Mawrth a
mis Medi 2018, yr oedd canlyniadau'r ddau'n destun pryder mawr. Mae'r gwaith a
wnaed hyd yn hyn yn cynnwys y canlynol: ·
Ymagwedd
sy'n seiliedig ar 'Dîm Abertawe'; ·
Gweithio
gydag adrannau amrywiol megis Tlodi a'i Atal, Tai, a Refeniw a Budd-daliadau er
mwyn ehangu'r ymagwedd; ·
Cynnig
cefnogaeth gyllidebu a chefnogaeth ddigidol er mwyn helpu pobl gyda'u hawliadau
(cefnogaeth gyllidebu'n symud i Gyngor Ar Bopeth Abertawe o fis Ebrill 2019); ·
Gweithio
gyda phartneriaid i ddarparu cefnogaeth ychwanegol; ·
Cyhoeddwyd
arweiniad hawdd ar ffurf taflen; ·
Cynigir
cefnogaeth wrth ddatblygu sgiliau a chyflogadwyedd; ·
Partneriaethau
cadarnhaol â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Waith; ·
Gweithio'n
agos gyda Coastal Housing i gynnig cefnogaeth ar gyfer tai cymdeithasol; ·
Adolygu'r
gefnogaeth a ddarperir gan y Tîm Hawliau Lles a sut y gellir gwella
hyfforddiant drwy ddefnyddio gweminarau etc er mwyn cyrraedd ystod ehangach o
bobl. Mae'r camau nesaf
yn cynnwys: ·
Cadarnhau'r
polisi defnydd data; ·
Cynnig
cefnogaeth ariannol i'r rheiny sydd mewn angen megis i leihau dyled o ran rhent
er mwyn lleihau'r niferoedd sydd mewn perygl o gael eu troi allan; ·
Nifer
yr oriau gofal plant ychwanegol ar gyfer 157 o aelwydydd; ·
Targedu
aelwydydd mewn perthynas â'r trydydd plentyn/plentyn dilynol na fyddai'n derbyn
Credydau Treth Plentyn; ·
Targedu'r
teuluoedd sydd mewn perygl. Gallai'r
cynghorwyr helpu drwy gyfeirio eu hetholwyr i'r wybodaeth berthnasol. Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o greu dogfen
wybodaeth maint cerdyn credyd sy'n cynnwys rhifau ffôn defnyddiol. Soniodd Pennaeth
Tlodi a'i Atal am y newyddion cadarnhaol gan Julie Mallinson, Undeb Credyd
Celtic, a oedd yn bresennol yng nghyfarfod mis Medi. O ganlyniad i'r gwaith yn Abertawe a
Chastell-nedd Port Talbot, roedd gwerth £2.5m ychwanegol i'r economi leol drwy
fenthyciadau a chynilion. Diolchodd y
Cadeirydd i Bennaeth Tlodi a'i Atal am y cyflwyniad. Byddai Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell -
Pobl yn darparu fersiwn â mwy o fanylder i'r cyngor ar 20 Rhagfyr 2018. Penderfynwyd: 1.
Y
dylid nodi'r cyflwyniad: 2.
Cyhoeddi
dogfen wybodaeth maint cerdyn credyd sy'n cynnwys rhifau ffôn defnyddiol. |
|
Cyflwyniad - Rhoi'n Gall. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr
Partneriaeth a Chomisiynu gysyniad y Cynllun Rhoi'n Gall - "Have a Heart -
Give Smart". Rhoddodd Paul
Evans, Swyddog Prosiect Diogelwch Cymunedol, gyflwyniad a oedd yn amlinellu'r
canlynol: •
Cysyniad
a ddatblygwyd yng Nghanada yn 2005; •
Llawer
o gynlluniau Rhoi'n Gall eraill drwy'r DU; •
Model
ar gyfer Abertawe sy'n seiliedig ar fenter BID Guildford; •
Bod y
cynllun wedi'i gyflwyno i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel
i'w gymeradwyo ym mis Hydref 2017; •
Lansiwyd
ym mis Ionawr 2018 fel cynllun peilot; •
Wedi'i
ariannu ar y cyd gan Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel drwy gronfeydd
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a BID Abertawe; •
Ni
ddefnyddiwyd cronfeydd craidd y cyngor; •
Cyfnod
prawf ar draws canol dinas Abertawe. Esboniodd y
sefyllfa bresennol: •
Medi
2018 - Wedi'i ehangu i gynnwys Abertawe gyfan; •
Mae
Castell-nedd a Phort Talbot wedi ymuno â'r cynllun drwy eu Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol; •
Hyd
yn hyn, codwyd £700; •
Un
cais gan Y Wallich i ariannu'r clybiau brecwast; •
Mae'r
rownd ariannu nesaf ar agor; •
Casgliad
ar ddiwrnod gêm y Gweilch ym mis Rhagfyr; •
Hyrwyddir
y cynllun gan Heddlu De Cymru ac asiantaethau partner eraill Abertawe Mwy
Diogel. Nododd fod y
canlynol yn rhan o'r cynllun: ·
21 o
fusnesau yng nghanol dinas Abertawe; ·
20 o fusnesau
gyda'r hwyr yng nghanol y ddinas; ·
6
busnes yn Uplands; I gloi, gofynnodd
i'r pwyllgor ystyried a ydynt am newid y neges ar y brandio. Os felly, mae angen iddynt awgrymu neges
newydd. Byddai goblygiad
o ran cost os yw'r brandio'n cael ei addasu. Fodd bynnag, byddai angen i unrhyw
benderfyniad gael ei ystyried gan BID, y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd,
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel a Phartneriaeth Diogelwch
Cymunedol Castell-nedd Port Talbot. Mynegodd y
pwyllgor bryderon mewn perthynas â'r cysyniad cyffredinol, yn enwedig y geiriad
ar y brandio (y gair "problem"), y ffaith mai £700 yn unig a godwyd
mewn blwyddyn ac mai dim ond un sefydliad oedd wedi cyflwyno cais am
gyllid. Mynegwyd pryderon hefyd am nad
oedd y Bwrdd Iechyd wedi'i gynrychioli ar y Gynhadledd Amlasiantaeth Atgyfeirio
Asesu Risg. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad. Penderfynwyd: 1.
Y
dylid nodi'r cyflwyniad: 2. Llunio llythyr i Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel sy'n amlinellu pryderon y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi ac yn awgrymu y gellid gwneud rhai gwelliannau i'r cynllun. |
|
Benthyca Llog Uchel Gweithrediad Cynllun. PDF 48 KB Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Polisi a Strategaeth gamau gweithredu a chynnydd ar gyfer benthyca llog
uchel. Awgrymodd y
pwyllgor fod angen cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas ag Undeb Credyd Bae
Abertawe, credyd fforddiadwy, grantiau a rheoli debyd ar y wefan ac ar
dudalennau Facebook ac ar filiau Treth y Cyngor (os yw'n bosib); Byddai'r Undeb
Credyd hefyd ar gael cyn cyfarfod y cyngor ar 20 Rhagfyr 2018 i ddosbarthu ffurflenni
aelodaeth i'r Cynghorwyr eu lledaenu i'w hetholwyr. Cadarnhaodd y
Cadeirydd fod y llythyr i'r Cabinet wedi'i lunio. Fodd bynnag, roedd yn dal i aros am gynllun
gweithredu i gyd-fynd â'r llythyr. Diolchodd y Cadeirydd
i'r Swyddog Polisi a Strategaeth am y diweddariad. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 105 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |