Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

38.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Cyhoeddodd y Cynghorwyr D W Helliwell ac L R Jones gyswllt personol â chofnod 42, "Cynllun Gweithredu Benthyca Llog Uchel".

39.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

40.

Cyflwyniad - Ymatebion Cadarnhaol i Egwyddorion Diwygio Lles.

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad am yr atebion cadarnhaol i'r Egwyddorion Diwygio Lles.

 

Amlinellodd brif ganfyddiadau data'r Single Household Benefit Extract (SHBE) mewn perthynas â'r canlynol:

 

·                 Mawrth 2017 - 17,500 o aelwydydd;

·                 Mawrth 2018 - 25,000 o aelwydydd;

·                 Medi 2018 - 24,500 o aelwydydd.

 

Amlinellodd ragfynegiad o'r sefyllfa yn 2020 yn seiliedig ar drywydd data o fis Mawrth a mis Medi 2018, yr oedd canlyniadau'r ddau'n destun pryder mawr.

 

Mae'r gwaith a wnaed hyd yn hyn yn cynnwys y canlynol:

 

·                 Ymagwedd sy'n seiliedig ar 'Dîm Abertawe';

·                 Gweithio gydag adrannau amrywiol megis Tlodi a'i Atal, Tai, a Refeniw a Budd-daliadau er mwyn ehangu'r ymagwedd;

·                 Cynnig cefnogaeth gyllidebu a chefnogaeth ddigidol er mwyn helpu pobl gyda'u hawliadau (cefnogaeth gyllidebu'n symud i Gyngor Ar Bopeth Abertawe o fis Ebrill 2019);

·                 Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cefnogaeth ychwanegol;

·                 Cyhoeddwyd arweiniad hawdd ar ffurf taflen;

·                 Cynigir cefnogaeth wrth ddatblygu sgiliau a chyflogadwyedd;

·                 Partneriaethau cadarnhaol â'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Waith;

·                 Gweithio'n agos gyda Coastal Housing i gynnig cefnogaeth ar gyfer tai cymdeithasol;

·                 Adolygu'r gefnogaeth a ddarperir gan y Tîm Hawliau Lles a sut y gellir gwella hyfforddiant drwy ddefnyddio gweminarau etc er mwyn cyrraedd ystod ehangach o bobl.

 

Mae'r camau nesaf yn cynnwys:

 

·                 Cadarnhau'r polisi defnydd data;

·                 Cynnig cefnogaeth ariannol i'r rheiny sydd mewn angen megis i leihau dyled o ran rhent er mwyn lleihau'r niferoedd sydd mewn perygl o gael eu troi allan;

·                 Nifer yr oriau gofal plant ychwanegol ar gyfer 157 o aelwydydd;

·                 Targedu aelwydydd mewn perthynas â'r trydydd plentyn/plentyn dilynol na fyddai'n derbyn Credydau Treth Plentyn;

·                 Targedu'r teuluoedd sydd mewn perygl.

 

Gallai'r cynghorwyr helpu drwy gyfeirio eu hetholwyr i'r wybodaeth berthnasol.  Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o greu dogfen wybodaeth maint cerdyn credyd sy'n cynnwys rhifau ffôn defnyddiol.

 

Soniodd Pennaeth Tlodi a'i Atal am y newyddion cadarnhaol gan Julie Mallinson, Undeb Credyd Celtic, a oedd yn bresennol yng nghyfarfod mis Medi.  O ganlyniad i'r gwaith yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, roedd gwerth £2.5m ychwanegol i'r economi leol drwy fenthyciadau a chynilion.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Tlodi a'i Atal am y cyflwyniad.  Byddai Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell - Pobl yn darparu fersiwn â mwy o fanylder i'r cyngor ar 20 Rhagfyr 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1.               Y dylid nodi'r cyflwyniad:

2.               Cyhoeddi dogfen wybodaeth maint cerdyn credyd sy'n cynnwys rhifau ffôn defnyddiol.

 

41.

Cyflwyniad - Rhoi'n Gall.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu gysyniad y Cynllun Rhoi'n Gall - "Have a Heart - Give Smart".

 

Rhoddodd Paul Evans, Swyddog Prosiect Diogelwch Cymunedol, gyflwyniad a oedd yn amlinellu'r canlynol:

 

                  Cysyniad a ddatblygwyd yng Nghanada yn 2005;

                  Llawer o gynlluniau Rhoi'n Gall eraill drwy'r DU;

                  Model ar gyfer Abertawe sy'n seiliedig ar fenter BID Guildford;

                  Bod y cynllun wedi'i gyflwyno i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel i'w gymeradwyo ym mis Hydref 2017;

                  Lansiwyd ym mis Ionawr 2018 fel cynllun peilot;

                  Wedi'i ariannu ar y cyd gan Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel drwy gronfeydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a BID Abertawe;

                  Ni ddefnyddiwyd cronfeydd craidd y cyngor;

                  Cyfnod prawf ar draws canol dinas Abertawe.

 

Esboniodd y sefyllfa bresennol:

 

                  Medi 2018 - Wedi'i ehangu i gynnwys Abertawe gyfan;

                  Mae Castell-nedd a Phort Talbot wedi ymuno â'r cynllun drwy eu Partneriaeth Diogelwch Cymunedol;

                  Hyd yn hyn, codwyd £700;

                  Un cais gan Y Wallich i ariannu'r clybiau brecwast;

                  Mae'r rownd ariannu nesaf ar agor;

                  Casgliad ar ddiwrnod gêm y Gweilch ym mis Rhagfyr;

                  Hyrwyddir y cynllun gan Heddlu De Cymru ac asiantaethau partner eraill Abertawe Mwy Diogel.

 

Nododd fod y canlynol yn rhan o'r cynllun:

 

·                 21 o fusnesau yng nghanol dinas Abertawe;

·                 20 o fusnesau gyda'r hwyr yng nghanol y ddinas;

·                 6 busnes yn Uplands;

 

I gloi, gofynnodd i'r pwyllgor ystyried a ydynt am newid y neges ar y brandio.  Os felly, mae angen iddynt awgrymu neges newydd.

 

Byddai goblygiad o ran cost os yw'r brandio'n cael ei addasu. Fodd bynnag, byddai angen i unrhyw benderfyniad gael ei ystyried gan BID, y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot.

 

Mynegodd y pwyllgor bryderon mewn perthynas â'r cysyniad cyffredinol, yn enwedig y geiriad ar y brandio (y gair "problem"), y ffaith mai £700 yn unig a godwyd mewn blwyddyn ac mai dim ond un sefydliad oedd wedi cyflwyno cais am gyllid.  Mynegwyd pryderon hefyd am nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi'i gynrychioli ar y Gynhadledd Amlasiantaeth Atgyfeirio Asesu Risg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad.

 

Penderfynwyd:

 

1.               Y dylid nodi'r cyflwyniad:

2.               Llunio llythyr i Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel sy'n amlinellu pryderon y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi ac yn awgrymu y gellid gwneud rhai gwelliannau i'r cynllun.

 

42.

Benthyca Llog Uchel Gweithrediad Cynllun. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog Polisi a Strategaeth gamau gweithredu a chynnydd ar gyfer benthyca llog uchel.

 

Awgrymodd y pwyllgor fod angen cyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas ag Undeb Credyd Bae Abertawe, credyd fforddiadwy, grantiau a rheoli debyd ar y wefan ac ar dudalennau Facebook ac ar filiau Treth y Cyngor (os yw'n bosib);

 

Byddai'r Undeb Credyd hefyd ar gael cyn cyfarfod y cyngor ar 20 Rhagfyr 2018 i ddosbarthu ffurflenni aelodaeth i'r Cynghorwyr eu lledaenu i'w hetholwyr.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y llythyr i'r Cabinet wedi'i lunio.  Fodd bynnag, roedd yn dal i aros am gynllun gweithredu i gyd-fynd â'r llythyr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Polisi a Strategaeth am y diweddariad.

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

43.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.