Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636016 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

16.

Strategaeth Digartrefedd ddrafft a Chynllun Gweithredu. pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Steve Porter, Rheolwr Gweithrediadau - Gwasanaethau Tai Cymunedol a Rosie Jackson, Uwch-swyddog Rheoli Polisi a Lesddaliad gyflwyniad manwl, llawn gwybodaeth ar y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Digartrefedd Drafft.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: -

 

·         Diben

·         Deddf Tai (Cymru) 2014

·         Cynnydd hyd yn hyn

·         Themâu sy'n dod i'r amlwg

·         Blaenoriaethau allweddol

·         Nod drafft

·         Egwyddorion allweddol

·         Amcanion a chamau gweithredu drafft

·         Amcanion 1 i 5

·         Cynllun Gweithredu

·         Camau Nesaf

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau ynghylch cynnwys y cyflwyniad, yr ymatebwyd iddynt yn unol â hyn.  Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Mynediad i wasanaethau a sut roedd anghenion person yn wahanol, a'r gofyniad i'r gwasanaeth a ddarparwyd fod yn hyblyg; 

·         Edrych ar yr agwedd ymarferol ar gael systemau i weithio gyda'i gilydd;

·         Agweddau cadarnhaol a negyddol hosteli a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol;

·         Darpariaethau ar waith i barau a'r anawsterau a wynebir wrth ymdrin â rhai amgylchiadau e.e. cam-drin domestig

·         Pwysigrwydd cael cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol;

·         Pwysigrwydd cynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn ymgynghoriadau a sut mae eu barn wedi'i chynnwys yn y cynllun gweithredu;

·         Y maint enfawr o ymchwil a wnaed yn y maes hwn gyda sefydliadau'r trydydd sector.

·         Proses adrodd y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad a'r trafodaethau.

 

17.

Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi Abertawe - Adborth ar ymchwiliadau i gynnydd mewn meysydd eraill.(Llafar)

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd nad oedd angen cyflwyno adroddiad i'r Cabinet am Gomisiwn y Gwirionedd am Dlodi.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Tlodi a'i Atal er nad oedd yr awdurdod yn gallu arwain ar y prosiect, y byddai'n dal i fod yn rhan ohono fel partner.  Hysbysodd y cyfarfod o'r cynnydd a wnaed ac ychwanegodd y byddai'r cyfarfod â chynrychiolwyr o feysydd eraill yn cael ei drefnu ac y byddai'n cynnwys aelodau'r pwyllgor.

 

Ychwanegodd y byddai'r pwyllgor yn cael gwybod am y cynnydd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

18.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Trafododd y pwyllgor Fenthyca Llog Uchel, cyflogadwyedd, Dinas Hawliau Dynol a thlodi bwyd.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi'r Cynllun Gwaith wedi'i ddiweddaru ac y byddai'r Cadeirydd yn cwrdd â Rachel Moxey i'w fireinio;

2)    Y gellir tynnu Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi o Gynllun Gwaith 2018-19;

3)    Gwahodd Undeb Credyd Celtic i'r cyfarfod nesaf a drefnir i drafod Benthyca Llog Uchel.