Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.

12.

Cyflwyniad - Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi.

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Tlodi a'i Atal gyflwyniad i'r pwyllgor am y Gwirionedd am Dlodi. Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: -

·         Nothing about Us, without Us, is for Us;

·         Meysydd eraill;

·         Heb fod yn eiddo i'r cyngor;

·         Egwyddorion;

·         Yr Alban a Leeds;

·         6 cham allweddol enghreifftiol;

·         Camau allweddol enghreifftiol;

·         Cynnig Abertawe;

·         Adnodd.

 

Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth a gynhwysir yn y cyflwyniad fel a ganlyn: -

 

·         Llwyddiant y prosiectau yn yr Alban ac yn Leeds;

·         Yr angen i gynnwys pobl sydd mewn tlodi ar hyn o bryd;

·         Mae'r angen i fod yn annibynnol ar y cyngor yn hanfodol;

·         Y costau isel posib dan sylw;

·         Sefydliadau â diddordeb a sut gallant gyfrannu mewn ffordd nad yw'n ariannol, e.e. trwy ddarparu adnoddau;

·         Darparu adroddiad sy'n amlygu'r camau nesaf ac yn amlinellu’r cylch gorchwyl;

·         Defnyddio profiad o ddigwyddiadau'r gorffennol a drefnwyd gan yr awdurdod i ddatblygu'r cynigion;

·         Cyflymder araf newid, a chefnogi pobl yn awr pan mae angen cymorth arnynt fwyaf;

·         Deall y bydd Comisiwn y Gwir am Dlodi'n brosiect mwy generig a fyddai'n ceisio deall y rhesymau dros pam mae pobl yn gwneud penderfyniadau, a hefyd yn eu cysylltu ag arweinyddiaeth y cyngor;

·         Effaith bosib caledi parhaus ar wasanaethau anstatudol;

·         Ni wnaed llawer o gynnydd yn y maes hwn dros yr 20 o flynyddoedd diwethaf;

·         Yr effaith gadarnhaol y gallai'r prosiect ei chael a sut gellir ehangu hyn;

·         Y stigma sy'n wynebu pobl sy'n byw mewn tlodi ac annog mwy o onestrwydd;

·         Trefnu diwrnod agored a gwahodd arweinwyr prosiectau tebyg eraill i gyfrannu.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Darparu adroddiad drafft gan y Cabinet sy'n amlinellu'r argymhelliad gan PDP i eirioli datblygu cynigion ar gyfer Comisiwn y Gwir am Dlodi Abertawe, ynghyd â darparu camau nesaf yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

Darparu adborth am ymchwiliadau a chynnydd mewn meysydd eraill yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

13.

Cynllun Gwaith 2018-2019. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019.

 

Ychwanegu adborth am ymchwiliadau a wnaed ar gynnydd mewn meysydd eraill ac adroddiad drafft y Cabinet mewn perthynas â Chomisiwn y Gwir am Dlodi i'w gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.