Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022 fel
cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022 fel cofnod
cywir. |
|
Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe. PDF 322 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Joanne
Portwood, Swyddog Strategaeth a Pholisi adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe (CGTA). Roedd yr adroddiad yn amlinellu manylion cefndir a'r cynnydd a wnaed gan
CGTA ac yn tynnu sylw at waith y Tîm Hwyluso a oedd wedi bod yn gwneud y gorau
o allu'r Comisiynwyr Cymunedol i gymryd rhan yn y Comisiwn Gwirionedd Tlodi gan
ddefnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar drawma.
Ychwanegwyd bod y Tîm Hwyluso bellach yn gweithio gyda grŵp o
ddeuddeg Comisiynydd Cymunedol a oedd wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd ar-lein i
feithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth wrth ddechrau rhannu eu straeon. Mae'r grŵp yn amrywiol o ran oedran, ethnigrwydd,
cefndir diwylliannol, profiadau o dlodi a daearyddiaeth yn Abertawe. Yn ogystal, roedd y themâu sy'n dod i'r amlwg y gallai'r Comisiwn
ganolbwyntio arnynt yn cynnwys: Iechyd
Meddwl, Tai a Digartrefedd, Stigma, Cyfiawnder Teuluol, Plismona, cysondeb
ymagweddau a chyngor ac arweiniad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, Addysg,
dosbarth a mudoledd cymdeithasol, cyfrifoldebau gofalu, tlodi gwledig a
chudd. Er nad oedd y canlyniadau ar
gyfer CGTA yn hysbys ar hyn o bryd, roedd yr hyn a ddysgwyd gan Rwydwaith y
Comisiwn Gwirionedd Tlodi yn nodi y gallai canlyniadau ddigwydd ar nifer o
lefelau, gan gynnwys unigolion, sefydliadau, polisi a chymdeithas ehangach. Trafododd y Pwyllgor y canlynol: - · Dulliau
comisiynwyr o adrodd/ddarparu adborth; · Pwysigrwydd
cynnwys stigma fel thema sy'n dod i'r amlwg gan ei fod yn fater enfawr; · Adolygu sut mae
pobl yn cael gwybod am Gomisiynwyr a chymryd rhan fel Comisiynwyr a siarad â
hwy fel rhan o'r broses; · Yr angen
hanfodol i Gomisiynwyr Cymunedol gael y profiad priodol; · Y camau nesaf
wrth nodi'r meysydd blaenoriaeth. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad a gofynnodd i'r
Pwyllgor gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn rheolaidd. |
|
Diweddariad ar Bolisi Tyfu Bwyd Cymunedol. PDF 226 KB Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
Dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Sefydlu Gweithgor o Gynghorwyr/Swyddogion i ddatblygu'r
Polisi. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi ddiweddariad 'er gwybodaeth' ar
y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol. Amlinellwyd bod Polisi Bwyd Cymunedol drafft wedi'i ddatblygu gan y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi (PDP) yn 2020. Fe'i llywiwyd gan adolygiad o bolisïau tebyg
ledled Cymru, yn enwedig y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol a fabwysiadwyd gan Gyngor
Sir Fynwy. Cafodd y polisi drafft ei
lywio hefyd gan weithdy ar gyfer PDP gydag arbenigwyr tyfu cymunedol o'r
trydydd sector ar draws Abertawe a thrafodaethau dilynol â'r PDP. Amlinellwyd
nodau'r Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol fel a ganlyn: - · Sicrhau bod tir addas a thir a danddefnyddir sydd
dan ei feddiant ar gael ar gyfer tyfu bwyd cymunedol · Hyrwyddo cyfleoedd i unigolion a grwpiau dyfu bwyd mewn cymunedau lleol er
budd cymunedol a chymdeithasol, · Gweithio gyda'i bartneriaid a'r trydydd sector i gefnogi tyfu bwyd
cymunedol, · Sicrhau bod gweithgareddau tyfu bwyd cymunedol ar dir sy'n eiddo i'r cyngor
yn cefnogi ac o fudd i'r rheini sydd fwyaf agored i dlodi bwyd, · Cefnogi datblygiad cadernid bwyd lleol a mynd i'r afael â thlodi bwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai gweithredu Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol yn
gofyn am adnoddau i hyrwyddo, gweithredu a monitro'r polisi. Darparwyd enghreifftiau o'r gefnogaeth bosib
sydd ei hangen. Ychwanegwyd bod y gwaith sydd ei angen i gefnogi'r gwaith o roi Polisi Tyfu
Bwyd Cymunedol ar waith yn torri ar draws nifer o wasanaethau a thimau'r
cyngor. Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw adnoddau penodol i gefnogi'r gwaith o
roi'r polisi hwn ar waith. Felly, argymhellwyd y dylid sefydlu Gweithgor o
Swyddogion ac Aelodau i archwilio sut y gellid rhoi'r Polisi ar waith o fewn yr
adnoddau presennol a/neu a fyddai angen adnoddau ychwanegol i’w roi ar waith Trafododd y Pwyllgor y canlynol: - · Siom ynghylch nifer y materion y mae angen mynd i'r afael â hwy er mwyn
symud ymlaen; · Cysylltu â grwpiau gwirfoddol ledled Abertawe; · Defnyddio cyllidebau ar gyfer busnesau newydd; · Manteision maethol, iechyd ac amgylcheddol cyflwyno'r polisi; · Sicrhau bod y bobl sy'n derbyn bwyd ei angen mewn gwirionedd; · Meddwl 'y tu allan i'r bocs' i ddatblygu'r polisi. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am y diweddariad ac ychwanegodd y byddai
cynnydd pellach yn y Flwyddyn Ddinesig nesaf. Penderfynwyd: - 1)
Dylid nodi cynnwys yr
adroddiad; 2)
Sefydlu Gweithgor o
Gynghorwyr/Swyddogion i ddatblygu'r Polisi. |
|
Tegwch mewn Polisi Iechyd Gwyrdd. (Llafar) Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf; 2) Sefydlu Gweithgor i ddatblygu'r trafodaethau Polisi. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Strategaeth a Pholisi ddiweddariad llafar ynghylch cynnydd. Ychwanegodd fod
angen mwy o eglurder gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r Gyfraith er mwyn symud
materion yn eu blaenau. Cynigiwyd sefydlu
Gweithgor i ddatblygu'r trafodaethau Polisi. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf; 2)
Sefydlu
Gweithgor i ddatblygu'r trafodaethau Polisi. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 224 KB Penderfyniad: Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith diweddaredig ar gyfer
2021-2022. Ychwanegodd fod y
Polisi Credyd Fforddiadwy wedi cael ei dderbyn a'i fabwysiadu gan y
Cabinet. Diolchodd i'r Pwyllgor a'r
Swyddogion am eu gwaith ar ddatblygu'r Polisi. Yn ogystal,
nododd y byddai Adroddiad y Pwyllgor Blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
yn y cyfarfod nesaf. Nododd hefyd, pe
bai popeth yn llwyddiannus, y byddai diweddariad i'r Polisi Adennill Dyledion
Personol hefyd yn cael ei ddarparu. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |