Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Election of Chair Pro-Tem.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd S J Gallagher yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

 

(Bu'r Cynghorydd S J Gallagher (Cadeirydd) yn llywyddu)

 

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2018 fel cofnod cywir.

 

43.

Cydlynu Ardaloedd Lleol. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Jane Tonks, Jon Franklin, Richard Davies a Peter Field gyflwyniad ar Gydlynu Ardaloedd Lleol.  Amlinellwyd mai Abertawe oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Cydlynu Ardaloedd Lleol, a oedd yn rhan o'r agenda ataliol.  Diben hyn oedd mynd i'r afael ag unigrwydd, arwahanrwydd a gwella iechyd a lles.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: -

 

·       Cydlynu Ardaloedd Lleol yn Abertawe

·       Cydlynu Ardaloedd Lleol yn 2017

·       Swydd Datblygu BGC

·       Cydlynu Ardaloedd Lleol yn hwyr yn 2017

·       Cydlynu Ardaloedd Lleol erbyn Ebrill 2018

·       Cydlynwyr Ardaloedd Lleol 2018

·       Ffynonellau arian

 

Cyflwynwyd ffilm fer i'r pwyllgor hefyd, a oedd yn amlinellu stori am fywyd go iawn preswylydd a oedd wedi derbyn help gan Gydlynydd Ardal Leol ac wedi dod yn rhan o grŵp cymunedol. Arweiniodd y newid at y preswylydd yn peidio ag ymweld â'i feddygfa'n wythnosol, gan felly wneud lles i'r GIG.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion ac atebwyd yn briodol iddynt.  Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·       Canlyniadau'r Cydlynu Ardaloedd Lleol gan gynnwys preswylwyr yn teimlo'n fwy gwerthfawr ac yn fwy o ran o'u cymunedau a'r llai o alw ar wasanaethau o ganlyniad i hyn;

·       Ehangu gwasanaethau i ardaloedd nad oes ganddynt Gydlynwyr Ardaloedd Lleol ar hyn o bryd;

·       Pwysleisio ar fanteision iechyd sy'n deillio o effaith gadarnhaol y Cydlynwyr Ardaloedd Lleol.

 

Penderfynwyd  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor.

 

44.

Adolygu Polisi Diogelu Corfforaethol. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd Simon Jones, Arweinydd Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Ddeddf Llesiant, Bolisi Diogelu Plant ac Oedolion Corfforaethol Drafft Cyngor Abertawe i'w drafod.

 

Cyfeiriodd at y Fframwaith Polisi Diogelu Corfforaethol ac amlygodd y meysydd canlynol yn y ddogfen ddrafft: -

 

1)    Llywodraethu diogel

2)    Cyflogaeth ddiogel

3)    Gweithlu diogel

4)    Arfer diogel

5)    Partneriaethau diogel

6)    Llais diogel

7)    Yr hyn y mae angen i Gyngor Abertawe ei gyflawni

 

Yn ychwanegol, darparodd fanylion y strwythur Llywodraethu Diogelu Corfforaethol.

 

Trafododd y pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd ac amlygwyd y canlynol: -

 

·       Bod yn ymwybodol o sut i fwydo materion i'r system;

·       Sut mae materion yn rhan o Raglen Waith y Strwythur Llywodraethu Diogelu Corfforaethol;

·       Swyddogaethau grwpiau yn y Strwythur Diogelu Corfforaethol;

·       Cyflwyno siart llif i symleiddio'r broses.

 

Penderfynwyd  -

 

1)    Nodi cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf;

2)    Cyflwyno'r Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig i'r pwyllgor yn y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu.

 

</AI5>

 

45.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017-2018.

 

Penderfynwyd, yn amodol ar ychwanegu cofnod rhif 44 uchod, nodi cynnwys yr adroddiad.