Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2018 fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: -

 

Cofnod Rhif 34 - Adolygiad o Ddiogelu Corfforaethol - Penderfyniad 1 - diwygio sillafiad enw'r Cynghorydd E K Elliott i'r Cynghorydd E J King

38.

Cefnogaeth Addysg ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. pdf eicon PDF 250 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth yr Uned Cefnogi Ysgolion adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth â'r nod o wella uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

 

Cyfeiriodd at ddogfen arweiniol Llywodraeth Cymru - Gwneud Gwahaniaeth – Canllaw i’r person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion a'i ddisgwyliadau.

 

Ychwanegodd fod awdurdod lleol Abertawe'n cyflogi Cydlynydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (CAPDG).  Fodd bynnag, ymddeolodd deiliad y swydd yn gynnar ym mis Hydref 2017, ac roedd cydlynydd newydd wedi'i benodi yn ei le a oedd fod i ddechrau ar ei ddyletswyddau ar 1 Ebrill 2018.  

 

Esboniodd fod Cyngor Abertawe hefyd wedi cyflogi Dirprwy Gydlynydd PDG a phedwar Gweithiwr Prosiect PDG, un Gweinyddwr PDG rhan-amser ac un Swyddog Lles Addysg PDG rhan-amser.  Roedd un Gweithiwr Prosiect PDG a'r Swyddog Lles Addysg PDG wedi'u cyllido gan arian craidd ac ariannwyd y 3 Gweithiwr Prosiect PDG arall a'r Gweinyddwr PDG rhan-amser drwy'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD PDG).  

 

Amlinellwyd fod Person Dynodedig ar gyfer PDG wedi'i benodi ym mhob ysgol yn Abertawe.  Athro oedd hwn fel arfer, ond mewn rhai ysgolion cynradd, y Pennaeth yw'r Person Dynodedig ar gyfer PDG. Amlinellodd Atodiad B broffil rôl ar gyfer pob person dynodedig ar gyfer PDG mewn ysgol, ac mae hyn wedi'i fabwysiadu gan ERW. Roedd gan bob ysgol yn Abertawe berson PDG dynodedig, hyd yn oed oes nad oedd PDG yn mynd i'r ysgol honno er mwyn sicrhau y gellid sicrhau cefnogaeth pe bai disgybl PDG yn dechrau yn yr ysgol ar unrhyw adeg. 

 

Hysbyswyd y pwyllgor ei bod yn ofynnol ers mis Medi 2013 i bob corff llywodraethu ddynodi llywodraethwr i fod yn gyfrifol am blant sy'n derbyn gofal (PDG) yn yr ysgol, a dosbarthwyd nodiadau atgoffa bob blwyddyn i benaethiaid a chadeiryddion cyrff llywodraethu a oedd yn amlinellu'r angen i glustnodi llywodraethwr â chyfrifoldeb am PDG.

 

Eglurwyd llywodraethu'r Grŵp Rheoli Addysg PDG hefyd a darparwyd y cylch gorchwyl yn Atodiad B.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·       Statws swydd y Dirprwy Gydlynydd PDG;

·       Niferoedd cyffredinol plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys cefnogi plant sy'n derbyn gofal o oed ysgol o awdurdodau eraill.

·       Perfformiad ysgol plant sy'n derbyn gofal ac uchelgeisiau cael yr holl PDG i addysg brif ffrwd;

·       Roedd EOTAS yn darparu ar gyfer plant sy'n derbyn gofal;

·       Yr angen i sefydlogi bywydau plant er mwyn iddynt berfformio'n well yn yr ysgol;

·       Camau gweithredu ysgolion pan fyddai materion yn codi gyda PDG;

·       Argaeledd gwybodaeth berthnasol am PDG i Gynghorwyr/y cyhoedd;

·       Tynnu sylw at arfer da/meysydd i'w datblygu;

Penderfynwyd: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn cadarnhau a ellir cyhoeddi papurau'r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol heb gyfyngiadau;

3)    Cynnwys agweddau perthnasol o'r adroddiad mewn trafodaethau 'Cyd-weithio dros Blant'.

 

39.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017/2018.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Ychwanegu'r canlynol at y cynllun gwaith ar gyfer 21 Mawrth 2018:

·       Sut gall y cyngor gydweithio'n well mewn perthynas â phlant a phobl ifanc;

·       Cyflwyniad - Cydlynwyr Ardaloedd Lleol;

·       Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

2)    Ychwanegu'r canlynol at y Cynllun gwaith ar gyfer 18 Ebrill 2018:

·       Adolygiad Comisiynu’r Gwasanaethau Dydd

·       Adolygiad Comisiynu’r Gwasanaethau Preswyl

·       Model y Gwasanaethau i Oedolion