Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cyflwyno a Datblygu Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2017 fel cofnod
cywir. |
|
Sut Gall Y Cyngor Gydweithio Mwy â Phlant a Phobl Ifanc? (Trafodaeth) Cofnodion: Dywedodd y Cyfarwyddwr
Pobl mai'r dasg oedd ystyried ymrwymiad polisi'r cyngor. Cyfeiriodd at
gyflwyniadau blaenorol i'r pwyllgor ynghylch y cynnydd gyda'r Adolygiad
Comisiynu Cefnogaeth i Deuluoedd, y Cynllun Partneriaeth Strategol ar gyfer
Plant a Phobl Ifanc a rôl y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol. Ychwanegodd fod
yr awdurdod wedi cofrestru gyda rhwydweithiau arfer da o ran diogelu. Trafododd yr
aelodau bwysigrwydd adborth o ymgynghoriadau gyda gwneuthurwyr polisi ac
unigolion y mae angen eu diogelu; cynnwys yr holl gynghorwyr a llywodraethwyr
ysgol yn y broses, gan gynnwys yr holl hyfforddiant perthnasol; anghysondeb
mewn ysgolion o ran trafod PDG yng nghyfarfodydd llywodraethwyr a'r angen i
gynnwys plant â datganiad a phlant ag anableddau corfforol yn y broses. Cyfeiriodd Prif
Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol at y cyfrifoldeb magu plant corfforaethol a
roddir ar lywodraethwyr ac mewn rhai achosion, eu taerineb am ofyn gormod o
gwestiynau am unigolion penodol sy'n groes i'r hyn y mae'r cyngor yn ceisio ei
gyflawni. Cyfeiriodd at
blant ag anghenion ymlyniad/ymddygiad/gwendidau ychwanegol (gan gynnwys plant
wedi'u mabwysiadu) gan holi a oedd ysgolion yn gwneud digon i helpu'r plant
hynny. Roedd gofyniad i weithio gyda rhieni, gofalwyr a phobl ddefnyddiol eraill
i sicrhau bod yr awdurdod yn gwneud ei orau glas. Cyfeiriodd y
cadeirydd at ymatebion gan ysgolion penodol gan annog yr aelodau i olrhain
ymatebion eu hysgolion unigol i'r ymgynghoriad. Diolchodd y
cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y dylai’r Cyfarwyddwr Pobl baratoi
adroddiad sy'n nodi gweithdrefnau/egwyddorion cyfredol o ran cyrff llywodraethu
ysgolion a diogelu i'w hystyried yn y cyfarfod ar 21 Chwefror 2018. |
|
Adolygu Diogelu Corfforaethol. (Llafar) Cofnodion: Cyfeiriodd Prif Swyddog
y Gwasanaethau Cymdeithasol at archwiliad a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio
Cymru ar drefniadau diogelu yng nghynghorau Cymru. Roedd archwiliad
SAC wedi canfod rhai heriau o ran defnyddio cyfrifoldebau diogelu corfforaethol
mewn ffordd gydlynol (e.e. trefniadau recriwtio diogel ar waith, cyfrifoldebau
diogelu tuag at bobl ifanc yn cael eu cyflawni gan aelodau a swyddogion y
cyngor a phresenoldeb fframwaith rheoli perfformiad). Nodwyd bod y
cyngor wedi sgorio'n gymharol dda. Serch hynny, roedd angen mwy o waith ar
drefnu gweithdrefnau. Cyfeiriodd at y
Polisi Diogelu Corfforaethol a oedd yn nodi'r holl weithdrefnau hyn yn
rhesymegol. Roedd y Grŵp Diogelu
Corfforaethol (a gadeiriwyd ar y cyd rhwng Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Aelod y Cabinet) wedi datblygu e-ddysgu, dangosyddion perfformiad ar gyfer
diogelu ac anghenion diogelu ym mhob maes yn y cyngor. Ailymwelwyd â
chysylltiadau i sicrhau bod elfen ddiogelu wedi'i chynnwys yn yr holl
wasanaethau a gomisiynwyd. Roedd disgwyliad
pan fyddai'r SAC yn dychwelyd, y byddai'r cyngor yn fwy trefnus. Nododd fod y
polisi wedi'i lunio rai blynyddoedd yn ôl, ac ar yr adeg honno, roedd ymrwymiad
y byddai'n cael ei adolygu'n rheolaidd. Serch hynny, nid oedd y polisi wedi
cael ei ddiweddaru ac felly nid oedd y polisi'n adlewyrchu sut roedd pethau
wedi symud ymlaen neu pa mor uchelgeisiol yr oedd yr awdurdod hwn o ran
canolbwyntio. Gofynnodd bod
gweithgor bach o aelodau'r pwyllgor yn archwilio'r polisi (gyda chymorth Simon
Jones, Swyddog Perfformiad) i sicrhau ei fod yn addas at y diben a gwneud
argymhellion angenrheidiol i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol i ddatblygu
hynny. Cyfeiriodd Prif
Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol at y cyfyng-gyngor a wynebir er mwyn cael y
cydbwysedd cywir. Pe bai camau gweithredu'n rhy ddramatig, roedd risg o
orlwytho ein gwasanaethau drws blaen gyda channoedd o atgyfeiriadau a allai
chwalu ein system. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Pobl at CCUHP a hawliau plant. Nodwyd bod yr adborth gan ysgolion wedi
bod yn gadarnhaol. Serch hynny, roedd
mesur effaith y llwyddiant wedi bod yn heriol. Mae mwy o waith yn cael ei wneud
ynghylch cynyddu ymwybyddiaeth yn y cyd-destun meithrin (grŵp oedran 0 i
5). Cafwyd adborth
cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Plant. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau am y canlynol: y broses a rôl Bwrdd Diogelu Bae'r Gorllewin;
arfer gorau mewn awdurdodau eraill a chysylltu â phobl ifanc, mewn ffordd sy'n
hwylus i blant; yr angen i weithio gyda phlant meithrin i gynyddu
ymwybyddiaeth; sicrhau bod gwaith y dyfodol yn genedliadol,
gan gynnwys pobl ifanc a fyddai’n datblygu'n rhieni. Nodwyd nad yw'r
Polisi Diogelu Corfforaethol presennol yn adlewyrchu'r CCUHP na pholisi'r
cyngor. Roedd angen ychwanegiad sy'n nodi uchelgais y cyngor i hyrwyddo
diogelwch a lles ymhlith y boblogaeth. Yn y ffordd honno, byddai'n fwy cyson ag
uchelgais y cyngor. Dylai'r cyngor hwn
fod yn falch o'i gyflawniadau. Penderfynwyd: 1.
Y
dylai’r Cynghorwyr C R Doyle, E T Kirchner ac E K Elliott gymryd rhan wrth
adolygu'r Polisi Diogelu Corfforaethol ac adrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y
dyfodol; a 2.
Dylai
swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd ddosbarthu Polisi Diogelu'r cyngor. |
|
Cynllun Gwaith 2017-2018. PDF 95 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017/2018. Penderfynwyd: 1.
Gohirio’r
Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Dydd a’r Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau
Preswyl, a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod ar 21 Chwefror 2018, ar gyfer cyfarfod
yn y dyfodol; 2.
Cyflwyno
adroddiad i'r pwyllgor nesaf o ran arfer presennol cyrff llywodraethu ysgolion
ac egwyddorion diogelu; 3.
Bydd
y Cynghorwyr C R Doyle, E T Kirchner ac E J King yn adrodd yn ôl i gyfarfod y
dyfodol ynghylch eu hadolygiad o'r Polisi Diogelu Corfforaethol. |