Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

Nodwyd y byddai sylwadau'r Cadeirydd mewn perthynas â'r diwygiadau i adroddiad Cyfansoddiad y Cyngor yn cael eu trafod yng nghyfarfod y cyngor ar 23 Tachwedd 2017. Ychwanegodd fod yr adroddiad yn cynnwys diwygiadau arfaethedig i aelodaeth a chylch gorchwyl y Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisïau. Yn amodol ar benderfyniad yng nghyfarfod y cyngor, byddai'r pwyllgor yn trafod sut y mae'n dymuno symud ymlaen yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

 

27.

Cyflwyniadau aelodau am gasgliadau o'u hymchwil i'w hardaloedd ac awdurdodau eraill (Llafur)

Cofnodion:

Dim.

 

28.

Cyflwyniad - Fforwm Magu Plant Corfforaethol - Rôl a Chyfrifoldebau.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gyflwyniad manwl ac addysgiadol am Rolau a Chyfrifoldebau Magu Plant Corfforaethol. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Pwy sy'n gyfrifol?

·         Y diffiniad 'swyddogol'

·         Rôl y prif swyddogion

·         Gweithwyr proffesiynol unigol

·         3 rôl allweddol fel aelod etholedig

·         Mae'r holl gyfrifoldebau magu plant corfforaethol yn cael eu cyflawni

·         Pa mor dda mae'r plant sy’n derbyn gofal yn ei wneud?

·         Adborth mae'r cyngor wedi’i dderbyn gan blant a theuluoedd

·         Nodi'r hyn y mae angen ei wella a gwneud gwahaniaeth

 

Roedd y trafodaethau'n ymwneud yn bennaf ag ymgynghori â phobl ifanc; sut mae gwaith y strategaeth yn cael ei gyflawni ar draws yr awdurdod; diogelu ar gyfer lleoliadau y tu allan i'r awdurdod; pobl ifanc yn cyflwyno i'r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol; mentora a ddarparwyd gan blant a oedd yn arfer derbyn gofal; rhoi gwybod i gyrff llywodraethu ysgolion; cyflwyno cynllun gweithredu ar y cyd; nifer y plant sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal; a defnyddio cyflwyniad rhith-ysgol ar y we.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)    Rhannu’r ddolen i'r cyflwyniad ar y rhith-ysgol â'r pwyllgor.

 

29.

Cyflwyniad - Barn Plant am Wasanaethau - Canlyniadau'r Arolwg Mawr a'r Sgwrs Fawr.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cydlynydd Ymagwedd ar sail Hawliau gyflwyniad manwl ac addysgiadol am Farn Plant am Wasanaethau – Canlyniadau'r Arolwg Mawr a'r Sgwrs Fawr. Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Cefndir a Throsolwg

·         Dadansoddiad Oed a Rhyw

·         Presenoldeb mewn Addysg

·         Barn am yr Ysgol – Pethau Gorau/Gwaethaf

·         Teimlo'n Ddiogel yn yr Ysgol a Throsglwyddo i'r Ysgol Uwchradd

·         Barn a Hawliau Plant

·         Cynghorau Ysgol

·         Iechyd Cyffredinol, Lles Emosiynol a Meddyliol

·         Sigaréts, Alcohol a Chyffuriau

·         Iechyd Rhywiol, Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

·         Barn am Ardal Leol, Diogelwch Cymunedol a Dioddefwyr Troseddau

·         Gofalwyr Ifanc

·         Bwlio a Cham-drin yn y Cartref

 

Gofynnodd y cynghorwyr gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad, ac ymatebwyd i'r cwestiynau'n briodol. Roedd trafodaethau'n canolbwyntio ar ddefnyddio Info-Nation a gweithio mewn partneriaeth ag Info-Nation; disgyblion a ddewiswyd ar gyfer Fforwm Llais y Disgybl; ydy plant yn cwblhau'r arolwg PPI; ysgolion sydd heb gofrestru ar gyfer CCUHP; llywodraethwyr ysgol yn cael mynediad i'r adroddiad a'r arolwg trosgynnol; a mathau o fwlio sy'n digwydd.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)    Dosbarthu'r cyflwyniad a'r adroddiad i'r pwyllgor.

 

30.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017/2018.

 

Cyfeiriodd at y cyfarfod nesaf ar 20 Rhagfyr 2017 ac amlinellodd y byddai'r pwyllgor yn trafod sut y mae'n dymuno parhau, a fyddai’n llywio’r cynllun gwaith rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2018.

 

Ychwanegodd fod cyfarfod anffurfiol wedi’i drefnu am 3pm ar

23 Tachwedd i drafod Adolygiad y Gwasanaethau i Oedolion o Strategaethau Comisiynu ar gyfer Anableddau Dysgu, Anableddau Corfforol ac Iechyd Meddwl.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.