Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

Contractau yn ôl y galw/cyflenwi

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion ddiweddariad i'r pwyllgor am gontractau yn ôl y galw/cyflenwi.  Cadarnhawyd ganddi fod 109 o staff yn gweithio i RST, ac roedd hynny'n cynnwys 67 o staff allanol a 42 a oedd eisoes yn cael eu cyflogi gan y cyngor.

 

Cyflwynwyd canlyniadau'r Holiadur Contractau Cyflenwi a oedd yn rhoi adborth staff ar fanteision ac anfanteision y system contractau cyflenwi.  Ar y cyfan, roedd yr adborth yn gadarnhaol oherwydd roedd gan staff gontractau a oedd yn addas i'w ffordd o fyw.  Yn ogystal, darparwyd enghreifftiau o sut y dyrannwyd amser rhai o'r gweithwyr RST dros gyfnod o 3 mis, ynghyd ag oriau a lleoliadau RST a weithiwyd yn ystod mis Awst 2017.

 

Gofynnwyd cwestiynau gan y pwyllgor mewn perthynas â'r canlynol: -

 

·       Os oedd gweithwyr RST yn gweithio yn rhywle arall, cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd ganddynt a'u patrymau gweithio;

·       Ymgymryd â gwiriadau mewn perthynas â'r oriau a weithiwyd gan staff a oedd hefyd yn gweithio i'r awdurdod;

·       Trefniadau gweithio hyblyg i staff.

 

Penderfynodd y pwyllgor nad oedd am gynnal sesiwn gyda staff yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 20 Rhagfyr 2017, wedi ystyried yr wybodaeth a adroddwyd iddo gan Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion.

 

O ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd gan Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, penderfynwyd y dylai'r cadeirydd adrodd am y canfyddiadau i Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles.

 

22.

Cyflwyniad ar Gynllun Partneriaeth Strategol PPI.

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad i'r pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Pobl ynghylch y Cynllun Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc.  Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·       Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015;

·       Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc;

·       Cefndir;

·       Gweledigaeth;

·       Dyheadau;

·       Blaenoriaethau Plant a Phobl Ifanc;

·       Fframwaith y Cynllun;

·       Amcanion Strategol y Cynllun;

·       Gwaith y 12 mis diwethaf;

·       Edrych ymlaen at y dyfodol a chamau nesaf.

 

Gofynnodd cynghorwyr gwestiynau ynghylch cynlluniau monitro; amserlenni penodol; anghenion cefnogaeth pobl ifanc ddiamddiffyn; penaethiaid yn ymdrin â materion diogelu, ac ysgolion a oedd wedi ymrwymo i CCUHP.

 

Cadarnhawyd gan y Cyfarwyddwr Pobl mai 3 ysgol yn unig nad oedd wedi ymrwymo i CCUHP.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor.

 

23.

Trosolwg Cynnydd Cyfredol yr Adolygiad Comisiynu Cefnogi Teuluoedd. (Ar lafar)

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad trosolwg o'r cynnydd cyfredol o ran yr Adolygiad Comisiynu Cefnogi Teuluoedd gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.  Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·       Continwwm Cefnogi Teuluoedd – y Darlun Mwy;

·       Gweledigaeth a diben cymorth i deuluoedd;

·       Cefnogi lles a diogelwch plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Abertawe;

·       Continwwm Cefnogi Teuluoedd – Adolygiad Comisiynu;

·       Amcanion;

·       Casgliadau – gwasanaethau cymorth i deuluoedd – dan 11 oed ac 11+ oed;

·       Casgliadau – gwasanaethau cymorth cam-drin domestig i deuluoedd;

·       Camau nesaf.

 

Canolbwyntiodd trafodaethau ar effaith gadarnhaol cydlynwyr ardaloedd lleol; yr angen am ymagwedd fwy cydlynol o ran mynd i'r afael ag anghenion dysgu ychwanegol wrth bontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach; cyfrifoldeb rheolwyr i gadw plant yn ddiogel.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol yn monitro plant sy'n derbyn gofal er mwyn sicrhau canlyniadau da ac amddiffyn plant.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad.

 

24.

Cynllun Gwaith 2017-2018. pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017/2018.

 

Cyfeiriodd at adroddiad am weithrediad y PDChP yn y dyfodol a gaiff ei drafod yng Ngweithgor y Cyfansoddiad a'r cyngor ym mis Tachwedd.  Ychwanegodd y byddai'r pwyllgor yn trafod sut yr oedd am weithio yn y dyfodol yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

 

Trafodwyd pynciau trafod posib gan y pwyllgor a sut y gellid trefnu cyfarfodydd y dyfodol.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Trafodir sut y mae'r pwyllgor yn dymuno gweithredu yn y dyfodol yn y cyfarfod nesaf a drefnir.