Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

28.

Cofnodion. pdf eicon PDF 112 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

29.

Post Hybrid.

Cofnodion:

Darparodd Anthony Evans, Rheolwr Designprint, gyflwyniad ar 'Arweiniad i Bost Hybrid' a oedd yn cynnwys: -

 

·                Swyddfa ddi-bapur

·                Trawsnewidiad digidol yn yr amgylchedd printio

·                Beth yw post hybrid?

·                Costau caled - mewnosod â llaw

·                Costau cudd

·                Llif gwaith

·                Allbwn argraffu

·                Trawsnewidiad digidol

·                Nodweddion digidol ac e-bostio

·                Sicrhau bod y system yn addas i'r dyfodol

·                Post Hybrid

·                Sut mae'n gweithio

·                Manteision

 

Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddog Cyflwyno a ymatebodd yn briodol. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar: -

 

·                Ddiogeledd a chyfrinachedd

·                Llofnodion electronig

·                Dosbarthu post hybrid - angen achos busnes i gymharu opsiynau

·                Arbedion post hybrid

·                Cyflymder post hybrid

 

Diolchodd y pwyllgor i Reolwr Designprint am y cyflwyniad.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

30.

Gwasanaethau yn y Gymuned / Fy Nghlydach.

Cofnodion:

Darparodd Geoff Bacon, Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo ddiweddariad am y Gwasanaethau yn y Gymuned/Fy Nghlydach.

 

Sefydlwyd gwasanaethau yn y gymuned â'r nod o wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy hygyrch. Y gobaith oedd y byddai trydydd partïon fel yr heddlu, y Gwasanaeth Iechyd ac elusennau'n rhan o hyn ynghyd â chysylltu Swyddfeydd Tai Rhanbarthol a llyfrgelloedd. Roedd angen cyrraedd targed arbedion hefyd gyda'r fenter hon.

 

Sefydlwyd y Gwasanaethau yn y Gymuned cyntaf yng Nghlydach fel cynllun peilot a fyddai'n helpu i ddatblygu model ar gyfer Gwasanaethau yn y Gymuned yn y dyfodol. Fe'i sefydlwyd yn Llyfrgell Clydach a'i ail-frandio’n Fy Nghlydach.

 

O ran y gwersi a ddysgwyd o Fy Nghlydach, nid yw'r ymgysylltu wedi bod mor gadarnhaol ag y gobeithiwyd. Cafwyd problemau hefyd o ran integreiddio a rheoli rolau. Nid yw cynllun yr adeilad presennol wedi'i newid, ac awgrymwyd y byddai addasu'r cynllun yn ogystal â mwy o arwyddion yn ddefnyddiol.

 

Roedd angen datblygu Gwasanaethau yn y Gymuned a chyrraedd y targed arbedion. Gorseinon fyddai'r ardal nesaf i sefydlu Gwasanaethau yn y Gymuned. Roedd angen ystyried gweithrediad a rheolaeth Gwasanaethau yn y Gymuned er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r gwersi a ddysgwyd o Fy Nghlydach.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Cyfranogaeth aelodau ward yn y fenter Gwasanaethau yn y Gymuned a rhinweddau cynnwys aelodau wardiau cyfagos yn y broses.

·                Ystyried gwelliannau i gynllun yr adeilad yn Fy Nghlydach a'r Gwasanaethau yn y Gymuned yn y dyfodol.

·                Ystyried lleoliad ardaloedd cyfrifiaduron/Skype er mwyn rhoi preifatrwydd a chaniatáu i ddinasyddion ymdrin â materion preifat.

·                Hyrwyddo a hysbysebu Gwasanaethau yn y Gymuned gan gynnwys arwyddion yn y lleoliad.

·                Disgrifiadau swydd ac integreiddio'r rolau amrywiol sy'n rhan o'r Gwasanaethau yn y Gymuned

·                Newid mewn diwylliant o ran y gwasanaethau a ddarperir a'r defnydd o'r adeilad

·                Yr angen am arwyddion neu staff i gyfeirio pobl i wneud yr hyn y gallant ei wneud ac i ba ardaloedd y mae angen iddynt fynd

·                Ailystyried yr enw Fy Nghlydach a Gwasanaethau yn y Gymuned yn y dyfodol i fynd i'r afael yn well â'r hyn ydyw a pheidio â rhwystro dinasyddion o ardaloedd cyfagos rhag defnyddio'r gwasanaeth.

 

Penderfynwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol yn ysgrifennu at y Cabinet a Phennaeth y Gwasanaethau Eiddo i amlinellu argymhellion y pwyllgor hwn.

31.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor Gynllun Gwaith 2018/2019.

 

Cytunwyd y caiff gweithdy ei sefydlu ym mis Mawrth ar Gydgynhyrchu ac y dylid canslo'r cyfarfod pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 26 Mawrth 2019.

 

Adroddwyd nad oedd yr Ap Dinasyddion yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac y byddai'n cael ei dynnu oddi ar Gynllun Gwaith 2018/2019.

 

Penderfynwyd nodi'r diweddariadau i'r Cynllun Gwaith.