Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

10.

Cofnodion: pdf eicon PDF 69 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.

 

11.

Uned Datblygu a Chyflwyno Polisi Corfforaethol.

Richard Rowlands a Sarah Caulkin

Cofnodion:

Cyflwynwyd trosolwg o'r Uned Cyflwyno a Datblygu Polisi Corfforaethol ('yr Uned') gan y Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad. Nodwyd ganddo fod y broses o sefydlu'r Uned eisoes wedi cychwyn a rhoddwyd trosolwg ganddo o'r canlynol: -

 

·         Yr hyn fyddai'r Uned yn ei ddarparu

·         Yr hyn na fyddai'r Uned yn ei ddarparu

·         Cyfrifoldebau'r Uned

·         Sut ffurf fyddai ar yr Uned

·         Camau nesaf yr Uned

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, ac ymatebodd yn briodol.

 

Gofynnwyd am gopi ysgrifenedig o swyddogaeth, rolau a chyfrifoldebau'r Uned. Nodwyd hefyd bod yr Uned o hyd yn datblygu a byddai'n cael ei hadolygu a'i haddasu yn briodol er mwyn sicrhau ei bod yn effeithiol.

 

Penderfynwyd: -

1)    nodi'r diweddariad; ac

2)    y byddai swyddogaeth, rolau a chyfrifoldebau'r Uned yn cael eu darparu’n ysgrifenedig.

 

12.

Cwmpas yr Adolygiad Caffael.

Andrew Hopkins

Cofnodion:

Darparwyd cwmpas amlinellol o'r Adolygiad Caffael gan Andrew Hopkins, Cynghorydd Gwella Busnes o'r Tîm Trawsnewid.

 

Roedd cwmpas arfaethedig yr Adolygiad Caffael yn cynnwys y canlynol: -

 

·         Adolygiad o wariant y cyngor mewn perthynas â busnesau bychain a chanolig (SMEs)

·         Gwariant Trydydd Parti

·         Contractau fframwaith presennol a'u heffaith ar BBaCh

·         Adolygiad o'r gwasanaeth sydd ar gael i BBaCh mewn perthynas â'r broses dendro/cyflwyno cais

·         Adolygiad cyffredinol o reoli contractau

·         Lefelau gwariant nad yw'n cydymffurfio

·         Ffyrdd i hyrwyddo cyflenwad lleol

 

Nodwyd mai adolygiad corfforaethol yn unig oedd yr adolygiad arfaethedig ac nid oedd yn cynnwys ysgolion.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch cwmpas arfaethedig yr Adolygiad Caffael, a oedd yn canolbwyntio ar:

 

·         Sut caiff contractau eu hysbysebu i BBaCh a ph'un ai oes modd hysbysebu contractau ar wefan y cyngor

·         Porth Gwerthwch i Gymru

·         Adolygiadau caffael blaenorol

·         Ystyried cynnwys Addysg/Ysgolion yn yr Adolygiad

·         Yr angen i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau/nwyddau a ddarperir yn cael ei gynnal wrth ystyried cost

·         Sicrhau ni chaiff unrhyw orgyffwrdd ag adolygiadau neu bwyllgorau eraill.

 

Penderfynwyd darparu cwmpas amlinellol yr Adolygiad Caffael yn ysgrifenedig i'w ystyried yn llawn.

 

13.

Cynllun Gwaith Diwygiedig 2017/2018.

Cofnodion:

Darparwyd Cynllun Gwaith diweddaredig gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro a bydd yn darparu rhaglen ar gyfer y flwyddyn maes o law.

 

 

Penderfynwyd: -

1)    Nodi'r cynllun gwaith; a

2)    llunio rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn a'i dosbarthu ymhlith aelodau'r pwyllgor. 

 

14.

Cylch Gorchwyl.

Cofnodion:

Darparwyd fersiwn ddrafft o'r Cylch Gorchwyl gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dros Dro at ystyriaeth y pwyllgor.