Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y
Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 23 Ebrill
a 9 Mai 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Darparwyd y Cylch
Gorchwyl er gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith 2019-2020. PDF 94 KB Cofnodion: Amlygodd y
Cadeirydd bynciau posib i'r pwyllgor eu trafod a gofynnodd am awgrymiadau gan y
pwyllgor am eitemau posib ar gyfer y cynllun gwaith ar gyfer Pwyllgor Datblygu
Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol 2019-2020. Trafododd y
pwyllgor yr awgrymiadau canlynol a gynigiwyd gan y Cadeirydd:- Ymgynghoriad a
Chydgynhyrchu - awgrymwyd
yr eitem hon i ddilyn gwaith cydgynhyrchu'r flwyddyn flaenorol ac i gynyddu'r
cwmpas i archwilio gweithgarwch ymgynghori a chyfathrebu'r cyngor. Gallai'r
gwaith hwn gynnwys archwilio sut gall y cyngor ddefnyddio technoleg ddigidol yn
well a gwella mynediad at wasanaethau i'r rhai sydd wedi'u heithrio'n ddigidol
ac/neu sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio technoleg ddigidol. Byddai'r gwaith
hwn yn cysylltu â'r Strategaeth Cynhwysiad Digidol, y Strategaeth Ymgynghori a
Chynnwys a'r Strategaeth Cydgynhyrchu. Byddai'r Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid
yn gweithio gyda'r Swyddog Strategaeth a Pholisi ar amserlenni posib er mwyn
cyflwyno'r strategaethau uchod i'r pwyllgor. Amrywiaeth yn
y gweithlu - roedd yr
eitem hon i ddilyn gwaith ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau'r flwyddyn
flaenorol i ehangu'r cwmpas eleni er mwyn archwilio sut gall y cyngor wella ar
gasglu data mewn perthynas ag amrywiaeth. Dywedodd y Comisiynydd Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol y byddai angen i'r cyngor gasglu data ar unrhyw nodweddion
gwarchodedig eraill yn y dyfodol megis anabledd a hil. Dinas Hawliau
Dynol - cynigiwyd hyn fel
eitem newydd i gynnal brîff gwylio ar gynnydd o ran bod yn Ddinas Hawliau
Dynol. Yn dilyn trafodaethau, teimlwyd i raddau helaeth y byddai'n well i
bwyllgor neu faes arall ymdrin â'r eitem hon. Polisi
Datblygu Cynaliadwy -
cynigiwyd hyn fel eitem newydd i ailddatblygu Polisi Cynaladwyedd y cyngor er
mwyn cydymffurfio â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cafwyd awgrym
arall i ystyried Sosialaeth Ddinesig fel eitem gan edrych ar Fodel Preston ac a
allai fod yn berthnasol neu a ellid ei addasu. Torrodd y cyfarfod am 2.30pm Torrwyd cyfarfod
y pwyllgor oherwydd larwm tân Ailalwyd y cyfarfod am 2.50pm Gofynnodd y
pwyllgor i wybodaeth ysgrifenedig gael ei darparu cyn y cyfarfod pwyllgor i alluogi
aelodau i ystyried yr eitemau cyn y cyfarfod. Trafododd y Prif
Swyddog Digidol a Thrawsnewid amseru'r cyfarfodydd a'r posibilrwydd o gynnal
gweithdai. Penderfynwyd y byddai'r Cynllun Gwaith ar gyfer
2019-2020 yn cynnwys y canlynol: 1)
Ymgynghori
a Chydgynhyrchu; 2) Amrywiaeth yn y Gweithlu; a 3) Pholisi Datblygu Cynaliadwy. |