Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 23 Ebrill a 9 Mai 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

7.

Cylch Gorchwyl. pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Darparwyd y Cylch Gorchwyl er gwybodaeth.

8.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Amlygodd y Cadeirydd bynciau posib i'r pwyllgor eu trafod a gofynnodd am awgrymiadau gan y pwyllgor am eitemau posib ar gyfer y cynllun gwaith ar gyfer Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol 2019-2020.

 

Trafododd y pwyllgor yr awgrymiadau canlynol a gynigiwyd gan y Cadeirydd:-

 

Ymgynghoriad a Chydgynhyrchu - awgrymwyd yr eitem hon i ddilyn gwaith cydgynhyrchu'r flwyddyn flaenorol ac i gynyddu'r cwmpas i archwilio gweithgarwch ymgynghori a chyfathrebu'r cyngor. Gallai'r gwaith hwn gynnwys archwilio sut gall y cyngor ddefnyddio technoleg ddigidol yn well a gwella mynediad at wasanaethau i'r rhai sydd wedi'u heithrio'n ddigidol ac/neu sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio technoleg ddigidol. Byddai'r gwaith hwn yn cysylltu â'r Strategaeth Cynhwysiad Digidol, y Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys a'r Strategaeth Cydgynhyrchu. Byddai'r Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid yn gweithio gyda'r Swyddog Strategaeth a Pholisi ar amserlenni posib er mwyn cyflwyno'r strategaethau uchod i'r pwyllgor.

 

Amrywiaeth yn y gweithlu - roedd yr eitem hon i ddilyn gwaith ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau'r flwyddyn flaenorol i ehangu'r cwmpas eleni er mwyn archwilio sut gall y cyngor wella ar gasglu data mewn perthynas ag amrywiaeth. Dywedodd y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y byddai angen i'r cyngor gasglu data ar unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill yn y dyfodol megis anabledd a hil. 

 

Dinas Hawliau Dynol - cynigiwyd hyn fel eitem newydd i gynnal brîff gwylio ar gynnydd o ran bod yn Ddinas Hawliau Dynol. Yn dilyn trafodaethau, teimlwyd i raddau helaeth y byddai'n well i bwyllgor neu faes arall ymdrin â'r eitem hon.

 

Polisi Datblygu Cynaliadwy - cynigiwyd hyn fel eitem newydd i ailddatblygu Polisi Cynaladwyedd y cyngor er mwyn cydymffurfio â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Cafwyd awgrym arall i ystyried Sosialaeth Ddinesig fel eitem gan edrych ar Fodel Preston ac a allai fod yn berthnasol neu a ellid ei addasu.

 

Torrodd y cyfarfod am 2.30pm

 

Torrwyd cyfarfod y pwyllgor oherwydd larwm tân

 

Ailalwyd y cyfarfod am 2.50pm

 

Gofynnodd y pwyllgor i wybodaeth ysgrifenedig gael ei darparu cyn y cyfarfod pwyllgor i alluogi aelodau i ystyried yr eitemau cyn y cyfarfod.

 

Trafododd y Prif Swyddog Digidol a Thrawsnewid amseru'r cyfarfodydd a'r posibilrwydd o gynnal gweithdai.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2019-2020 yn cynnwys y canlynol:

 

1)        Ymgynghori a Chydgynhyrchu;

2)        Amrywiaeth yn y Gweithlu; a

3)        Pholisi Datblygu Cynaliadwy.