Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 112 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

34.

Y Diweddaraf - y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiectau adroddiad am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a rhoddodd ddiweddariad ychwanegol i'r adroddiad ysgrifenedig.

 

Cafodd y Strwythur Cyflog Cenedlaethol ei roi ar waith ac arweiniodd hyn at leihad gwerth bron 2% yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

 

Mae'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol wedi comisiynu'r gweithredoedd canlynol o'r cynllun gweithredu a osodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig:- 

 

·                Dadansoddi dyraniadau graddau gwaith sy'n seiliedig ar ryw yn y graddau is er mwyn deall os yw'r rolau hyn yn cael eu trefnu yn deg a heb gael eu trefnu i wahardd/gynnwys un rhyw dros y llall.

·                Dadansoddi dyraniadau graddau rolau uwch yn ôl rhyw, patrymau gweithio, etc.

 

Argymhellwyd y dylai'r Swyddog Prosiectau gyflwyno'r diweddaraf am y canfyddiadau unwaith bydd y tasgau uchod wedi'u cwblhau.   

 

Diolchodd y pwyllgor i'r Swyddog Prosiectau a'i chydweithwyr am eu gwaith.

 

Penderfynwyd:-

1)        Nodi cynnwys y cyflwyniad a'r trafodaethau; a

2)        cheir diweddariad ychwanegol ym mis Medi 2019.

35.

Adborth o'r Gweithdy am Gydgynhyrchu.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi ddiweddariad byr am gydgynhyrchu yn dilyn gweithdy ar 26 Mawrth 2019.

36.

Hunan-werthusiad - Adolygiad o 2018/2019.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Strategaeth a Pholisi gyflwyniad ar 'Hunanfyfyrio - Pwyllgor Datblygu Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol' a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·                Cylch gorchwyl

·                Rôl a Fframwaith

·                Perthynas gyda Chraffu

·                Proses Hunanfyfyrio

·                Cynllun Gwaith ar gyfer 2018/19

·                Beth Ddigwyddodd - Llwyddiannau Allweddol

·                Hunanfyfyrio

 

Cafwyd trafodaeth am yr hyn oedd wedi gweithio'n dda, yr hyn oedd heb weithio cystal a meysydd i'w gwella. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·                Dealltwriaeth well o gontractau AD gwahanol

·                Cynnwys y cyhoedd yn fwy

·                Darparu hyfforddiant ar gydgynhyrchu

·                Mynd i'r afael â'r broblem o gydraddoldeb a gwneud penderfyniadau ar gyfer cydgynhyrchu a phwysigrwydd rheoli'n gywir er mwyn bod yn llwyddiannus ac yn ystyrlon

·                Ymdeimlad cadarnhaol y gweithdai ar gaffael a chydgynhyrchu

·                Gwasanaethau yn y gymuned ac ymdrin â'r gwersi a ddysgwyd

·                Ffyrdd o adolygu effaith y gwaith sy'n cael ei wneud

·                Defnydd o seinyddion allanol ar arfer gorau

·                Mentrau polisi a arweinir gan y gymuned

·                Ffocws ar ddatblygu polisi

 

Diolchodd y pwyllgor i'r Cadeirydd am ei gwaith dros y flwyddyn. Diolchodd y Cadeirydd i'r pwyllgor a'r Swyddog Strategaeth a Pholisi.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.