Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Pwyllgor
Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 24
Ebrill 2018 a chofnodion Pwyllgor Trawsnewid a Datblygu Polisi a gynhaliwyd ar 24
Mai 2018 fel cofnod cywir, yn amodol ar y pwynt canlynol y dylid rhoi sylw
iddo: - · Cofnod 46 - Nid oedd y pwyllgor wedi derbyn diweddariad ynghylch amrywiaeth y contractau cyflogaeth yn y Ganolfan Gyswllt. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Cylch
Gorchwyl. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 71 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr y Rhaglen Abertawe Gynaliadwy y cynllun gwaith arfaethedig a oedd yn
cynnwys y canlynol: - 1) Gweithio er mwyn helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o foderneiddio'r polisi oriau gweithio 2) Cais am Gerdyn Dinesydd 3) Caffael y Cynllun Gweithredu PDChP blaenorol - Chwalu rhwystrau i gyflenwyr lleol 4) Strategaeth Cydgynhyrchu/Egwyddorion ar gyfer Dinas a Sir Abertawe 5) Cyfathrebu'r cyngor 6) Datblygu sefydliadol - Gweithlu'r 21ain Ganrif. Trafodwyd materion y cynllun gwaith. Cwestiynau a thrafodaethau dan sylw: - Cynllun Gwaith - Eitem 1 · Awgrymwyd y dylai’r pwyllgor ymweld â’r timau peilot cytunedig ar gyfer y Polisi Gweithio Hyblyg unwaith y ceir cytundeb, i weld sut mae’n gweithio. · Gofynnodd y pwyllgor am eglurder ynghylch yr amrediad a'r gwahaniaeth rhwng contractau cyflogaeth, i.e. hyblyg, tymhorol, dim oriau. Cynllun Gwaith - Eitem 2 · Gofynnodd y Cadeirydd am restr o'r hyn y byddai'n cael ei gynnwys yn yr ap ar gyfer y pwyllgor pan fydd gwaith ar Eitem 2 yn cychwyn. · Nodwyd nad oes gan bawb ffôn symudol er mwyn defnyddio'r ap. Cynllun Gwaith - Eitem 3 · Caiff y newidiadau i'r Rheolau Gweithredu Contractau, a ddatblygwyd gan y pwyllgor yn y flwyddyn ddinesig ddiwethaf, eu cwblhau. · Gellir dechrau rhoi'r camau gweithredu a oedd yn deillio o'r gweithdai ar waith, e.e. marchnata Cynllun Gwaith - Eitem 4 · Ystyr cydgynhyrchu Cynllun Gwaith - Eitem 5 · Cyfathrebu â'r cyhoedd, yn enwedig yr oslef a'r iaith a ddefnyddir mewn gohebiaeth. · Safoni cyfathrebu a brandio corfforaethol, yn enwedig ar lofnodion e-bost. · Posibilrwydd cyflwyno arolygon mewnol er mwyn creu darlun o'r cyfathrebu gwahanol a geir ar draws y cyngor. Cynllun Gwaith - Eitem 6 · Byddai trosolwg o'r Strategaeth Sefydliadol yn cael ei roi i'r pwyllgor er mwyn nodi meysydd i'w trafod. Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen Abertawe Gynaliadwy y byddai'n datblygu Amserlen Busnes o'r cynllun gwaith. Penderfynwyd: - 1) nodi'r cynllun gwaith; 2) egluro'r contractau cyflogaeth amrywiol i'r pwyllgor; 3) Cynnal ymweliadau gan y pwyllgor â’r timau sy’n treialu egwyddorion y Polisi Gweithio Hyblyg. Timau i’w nodi unwaith y bydd y cynlluniau peilot wedi dechrau; a 4) datblygu Amserlen Busnes. |