Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 108 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

44.

Diweddariad am Brosiect y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. pdf eicon PDF 156 KB

Linda Phillips

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiectau Datblygu Sefydliadol adroddiad ar brosiect y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Amlygodd fod Cyngor Abertawe wedi adrodd am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer staff llawn amser ar 31 Mawrth 2017 ar y wefan .GOV ac ar wefan y cyngor yn unol â gofynion deddfwriaethol. Mae'r ffigyrau a adroddwyd yn cynnwys staff llawn amser yn unig yn unol â'r ddeddfwriaeth ac nid ydynt yn cynnwys staff rhan-amser neu ysgolion. Rhestrir y ffigyrau yr adroddwyd amdanynt ym mharagraff 2 yr adroddiad.

 

Cynrychiolodd staff llawn amser oddeutu 40% o weithlu'r cyngor. Mae dadansoddiad o fwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer staff llawn amser a rhan-amser (heb gynnwys staff ysgolion) ym mharagraff 3 yr adroddiad. Mae cynllun gweithredu i gau'r fwlch cyflog rhwng y rhywiau ym mharagraff 4.3.

 

Gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddog Cyflwyno a ymatebodd iddynt. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·                A yw gweithio rhan-amser yn helpu menywod neu'n eu rhwystro,

·                Cymharu â ffigyrau bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer cynghorau Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg,

·                Gwahaniaethau rhwng bwlch cyflog cyfartal a bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a

·                pha mor ddichonadwy a defnyddiol yw cymariaethau gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Gwasanaeth Sifil.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Linda Phillips a'i chydweithiwr, Cath Bell, am eu gwaith caled ar brosiect y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Roeddent wedi llwyddo i adrodd y data gofynnol ar gyfer Cyngor Abertawe cyn llawer o rai eraill a dylid cymeradwyo hyn gan ystyried yr hinsawdd bresennol. Mae'r data hefyd wedi cael ei gyhoeddi yn y newyddion cenedlaethol.

 

Penderfynwyd: -

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad; a

2)      cheir diweddariad ychwanegol ym mis Medi 2018.

45.

Diweddariad ar Gontractau Dim Oriau.

Cofnodion:

Darparodd y Swyddog AD Abertawe Gynaliadwy ddiweddariad llafar ynghylch contractau dim oriau. Roedd y prosiect wedi cael ei ehangu i gynnwys yr holl drefniadau gweithio hyblyg. Amlygodd fod tîm y prosiect ar hyn o bryd yn gweithio ar y canlynol: -

 

·                Adolygu polisïau gweithio hyblyg yn unol â'r Strategaeth Datblygu Sefydliadol,

·                Arfer gorau ar gyfer gweithio'n hyblyg,

·                Cynnwys y Ganolfan Gwasanaethau ynghylch sut i wella prosesau,

·                Gweithio gyda'r adran TG i greu adroddiad wedi'i deilwra a fydd yn darparu gwybodaeth am y mathau o gysylltiadau sy'n bodoli yn y cyngor. Nid oes cofnod canolog ar hyn o bryd, a

·                chysylltu gwaith â'r Strategaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r Swyddog Cyflwyno a oedd wedi'i gefnogi gan y Cyfarwyddwr Adnoddau a'r Dadansoddwr Prosesau Busnes. Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol:

 

·                Gwahaniaethau rhwng contractau dim oriau a chontractau gweithio hyblyg,

·                Sut cafodd contractau eu hysbysebu,

·                Sawl contract dim oriau sydd yn yr awdurdod,

·                Byddai'r system TG newydd yn helpu i nodi ac adolygu contractau hyblyg yn fwy effeithiol,

·                Gallu contractau hyblyg i ddiwallu anghenion cwsmeriaid ynghyd â staff,

·                Angen staff achlysurol ar gyfer gwaith tymhorol, a

·                Phenderfynu ar y gwahaniaeth rhwng contractau a sut maent yn cael eu hadolygu.

 

Penderfynwyd: -

1)        nodi'r diweddariad; a

2)        darparu diweddariad ychwanegol ynghylch contractau hyblyg.

46.

Trafod Ymweliad Safle â'r Ganolfan Gyswllt Gan Gynnwys Adborth. pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd ddyfyniad o gofnodion y Pwyllgor Cynghori ar y Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2016, gan amlygu'r canlyniadau o'r ymweliad safle blaenorol yn 2016.

 

Adroddodd aelodau eu canlyniadau o'r ymweliad safle ar 27 Mawrth 2018, a oedd yn cynnwys y canlynol: -

 

·                Roedd y fangre ar gyfer y staff wedi'i gwella'n sylweddol,

·                Roedd morâl staff wedi gwella,

·                Mynegwyd pryderon a manteision ynghylch contractau,

·                Roedd problemau wrth gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adnoddau nid oedd unrhyw aelodau staff ar gontractau dim oriau yn y Ganolfan Gyswllt, a byddai'n egluro'r contractau sy'n bodoli. Cadarnhaodd, hefyd, y byddai hi'n archwilio i'r broblem a gododd yn y cyfarfod, sef anhawster wrth gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt, ac ymddangosodd fod hwn yn fater technegol yn hytrach na mater staffio.

 

Penderfynwyd: -

1)    Darparu diweddariad am bob contract staff yn y Ganolfan Gyswllt, ac

2)    Ymdrin â'r problemau o ran cysylltu â'r Ganolfan Gyswllt.

47.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Darparwyd cynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer 2017/2018 er gwybodaeth.

 

Nododd Rheolwr y Rhaglen Abertawe Gynaliadwy y bydd caeau chwarae 3G yn cael eu tynnu oddi ar y cynllun gwaith.

 

Byddai'r Cadeirydd a Rheolwr y Rhaglen Abertawe Gynaliadwy'n llunio diweddariad ar gyfer y cynllun gwaith a chyflawniadau'r PDChP yn ystod y flwyddyn ar gyfer CCB yr arweinwyr ym mis Mai 2018.

 

Bydd y cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei ddatblygu maes o law.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.