Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd M B Lewis yn Gadeirydd
Dros Dro. Bu'r Cynghorydd M B Lewis, y Cadeirydd Dros Dro,
yn llywyddu. |
|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a
gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf am y Gweithdy Caffael. Cofnodion: Darparodd Rheolwr
Rhaglen Abertawe Gynaliadwy'r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithdy caffael. Roedd y
gweithdy'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Rhwystrau
i fusnesau lleol sy'n ceisio ennill contractau lleol ·
Sut i
nodi cyflenwyr lleol ·
Gofynion
deddfwriaethol Awgrymwyd y
diffiniad canlynol o 'gyflenwr lleol' yn y gweithdy: - "O fewn y
ffiniau rhanbarthol gyda phwyslais ar gyflogi pobl leol o fewn y ffiniau
daearyddol a gaiff eu sefydlu o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar
gyfer ad-drefnu llywodraeth leol." Y canlynol oedd y
camau gweithredu allweddol a nodwyd: - 1)
Datblygu
a gwella hysbysebu a marchnata; 2)
Y
posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth i gynorthwyo cyflenwyr lleol yn y broses
gaffael; a 3)
Bydd
y pwyllgor yn darparu argymhellion i'r Gweithgor Cyfansoddiadol er mwyn rhoi'r
newidiadau angenrheidiol ar waith. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Trafodaeth ar Amser Cyfarfodydd. Cofnodion: Trafododd
aelodau'r pwyllgor eu hargaeledd a'r amser gorau ar gyfer cyfarfodydd yn y
dyfodol. Penderfynwyd symud cyfarfodydd i 14:00 yn y dyfodol os
oes modd. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 81 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
Gynllun Gwaith 2017/18 i'w ystyried. Nododd y pwyllgor
fod ganddo ddiddordeb mawr yn y diweddariad am 'gyfeillion parciau' a
pherchnogaeth gymunedol. Gofynnwyd i Reolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy drafod
â'r Pennaeth Rheoli Gwastraff i weld a ellid symud y diweddariad i'r cyfarfod
nesaf. Penderfynwyd symud y diweddariad am 'gyfeillion
parciau' a pherchnogaeth gymunedol i'r cyfarfod ar 27 Chwefror 2018 os oes
modd. |