Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor
Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021 fel
cofnod cywir. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gofnod rhif 26 a nododd fod cyfarfod wedi'i gynnal i drafod yr
ymgynghoriad. |
|
Newid yn yr hinsawdd. PDF 538 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad 'er gwybodaeth'.
Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at adroddiad y Cabinet a gymeradwywyd
yn ddiweddar ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a Natur (18 Tachwedd 2021) a
oedd yn ystyried y datganiad diweddar ynghylch Argyfwng Natur ar 4 Tachwedd
2021. Er mwyn helpu i flaengynllunio, mae hefyd yn hysbysu’r pwyllgor o statws
presennol pob maes polisi sydd wedi'i gynnwys yn y strwythur llywodraethu. Nododd yr aelodau
gynnydd mewn perthynas â'r canlynol: Y diweddaraf am Lywodraethu; Y diweddaraf
am Strategaeth a Pholisi; Cynllun Bioamrywiaeth/Adran 6/Cynllun Gweithredu
Adfer Natur; Datblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy; Strategaeth Rheoli
Coed; Adeiladau Ysgol Newydd; Caffael; Tai; Polisi Strategaeth Gwastraff
2022-25; Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd; Cynllun Datblygu Lleol; Cynllun Ynni a
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Dywedodd Aelod y Cabinet
dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau fod y Strategaeth yn
'ddogfen fyw' gydag elfennau pellach yn cael eu datblygu. Cyfeiriodd at y gwaith cyffredinol gyda
sefydliadau eraill a chanmolodd swyddogion am eu gwaith rhagorol wrth gyflawni'r
strategaeth. Cyfeiriodd
Rheolwr y Prosiect at y gwaith cydweithredol a oedd yn cynnwys holl Awdurdodau
Cymru a mewnbwn Abertawe yng nghynllun diweddar COP Cymru. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at faint o waith a geir ym mhob un o'r meysydd polisi a
nodir uchod a'r cynnydd parhaus ynddynt. Diolchodd y
Cadeirydd i'r holl swyddogion am eu gwaith parhaus wrth gyflawni'r strategaeth
ac awgrymodd y gallai fod yn rhan o'r cynllun gwaith ar gyfer y PDP yn y
flwyddyn ddinesig sydd ar ddod. |
|
Mesurau rheoli cyflymder mewn ardaloedd preswyl i gynnwys terfynau cyflymder 20mya. PDF 159 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Uwch-beiriannydd adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg byr ar y cefndir a'r
materion sy'n gysylltiedig â chyflwyno mesurau rheoli cyflymder i gefnogi
terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl. Rhoddodd Aelod y
Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd drosolwg o'r heriau sy'n
gysylltiedig â rhoi’r mesurau ar waith a oedd yn cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth
â'r cynllun; goblygiadau ariannol ac ymgynghoriad. Cyfeiriodd yr
Uwch-beiriannydd at yr wyth cynllun peilot yng Nghymru a dywedodd y byddai
Llywodraeth Cymru yn asesu'r data sy'n deillio o bob cynllun peilot. Dywedodd
mai prin oedd yr wybodaeth a gafwyd yn lleol ynglŷn â chydymffurfiaeth a
hepgoriadau o ganlyniad i ardaloedd rheoli cyflymder. Dywedodd y
Pennaeth Priffyrdd a Chludiant fod llawer o heriau gwrthdrawiadol yn
gysylltiedig â'r cynllun a oedd yn gofyn am ystyriaeth ofalus cyn ei roi ar
waith. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i swyddogion am eu hadroddiad addysgiadol ac awgrymodd y gallai'r
mater fod yn rhan o gynllun gwaith y PDP yn y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod. |
|
Work Plan 2020 - 2022. PDF 188 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd cynllun gwaith 2020-2022. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |