Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Chwefror
2021 fel cofnod cywir. |
|
Strategaeth Rhagor o Gartrefi a Datgarboneiddio'r Stoc Tai Bresennol. PDF 579 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd gyda chymorth y Rheolwr Cynllunio a Chyflwyno
Rhaglenni ar gyfer buddsoddiadau'r cyngor a'r Rheolwr Datblygu Rhagor o
Gartrefi adroddiad a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Rhagor o Gartrefi a'r
rhaglen ddatblygu sy'n dod i'r amlwg ar gyfer cartrefi cyngor newydd a ariennir
gan y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd
cyfredol a dyheadau'r dyfodol ar gyfer rhaglen ddatblygu'r cyngor. Roedd yr
adroddiad hefyd yn amlinellu'r cynnydd o ran bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, y
dull o ddatgarboneiddio stoc tai bresennol y cyngor, a'r cynlluniau peilot sy’n
cael eu llunio i brofi egwyddorion a chyfeirio’r strategaeth yn y dyfodol. Manylodd
swyddogion ar gefndir y Strategaeth Rhagor o Gartrefi, y Fanyleb Rhagor o
Gartrefi – Safon Abertawe, Cynlluniau Gorffenedig a Gweithgarwch Presennol,
Cynlluniau'r Dyfodol a Gweithgarwch Cynlluniedig, Cefndir Safon Ansawdd Tai
Cymru (SATC) a Datgarboneiddio, Cyflawni Effeithlonrwydd Ynni yn y Gorffennol,
Rhaglen Datgarboneiddio‘r Dyfodol – Datblygu Polisi Cenedlaethol, Cynigion
Drafft Polisi Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, Cyfnod Trosiannol – Cynlluniau
Peilot Datgarboneiddio, Strategaeth Datgarboneiddio arfaethedig ar gyfer y
dyfodol a Chyfleoedd, Heriau a Risgiau i'r cyngor yn y dyfodol. Cyfeiriodd swyddogion at y cyflwyniad ar
Gyngor Abertawe - Adeiladu Cartrefi Gwell a Datgarboneiddio Cartrefi Presennol.
Roedd y cyflwyniad yn manylu ar y canlynol: ·
Hanes
Rhagor o Gartrefi. ·
Manteision
disgwyliedig Passivhaus. ·
Y
daith tuag at Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. ·
Cysyniad
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. ·
Datblygiadau
Safon Abertawe. ·
Technolegau
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. ·
Canlyniadau. ·
Gweithgareddau
cyfredol a chynlluniedig. ·
Datgarboneiddio
tai presennol. ·
Gwaith
effeithlonrwydd ynni SATC. ·
Buddsoddiad
effeithlonrwydd ynni SATC. ·
Gwelliannau
effeithlonrwydd ynni. ·
Manteision
y Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni. ·
Uwchraddio
adeiladwaith allanol - rendro wedi'i inswleiddio. ·
Uwchraddio
adeiladwaith allanol - effeithlonrwydd ynni ·
Datblygu
polisi datgarboneiddio yn y dyfodol. ·
Cynigion
Drafft Polisi Datgarboneiddio. ·
Targedau
Datgarboneiddio. ·
Cynlluniau
peilot datgarboneiddio. ·
Manyleb
datgarboneiddio'r cynllun peilot. ·
Ôl-osod
tai cyfan yn Ffordd Ellen i SATC. ·
Cynllun
peilot Ôl-osod yn Ffordd Ellen – cyn ac ar ôl. ·
Cyflenwad
a storfeydd adnewyddadwy. ·
Ôl-osod
tai cyfan yn Lôn y Felin. ·
Ynni
adnewyddadwy yn Lôn y Felin. ·
Strategaeth
ôl-osod a datgarboneiddio fabwysiedig. ·
Cyfleoedd. ·
Heriau. ·
Risgiau. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Ynni a
Thrawsnewid Gwasanaethau i'r swyddogion am eu hadroddiad
cynhwysfawr. Nododd yr aelodau y bu gweithio trawsadrannol eithriadol o
ran Safon Abertawe. Dywedodd Aelod y Cabinet fod SATC wedi
creu buddsoddiad mawr o ychydig o dan hanner biliwn o bunnoedd mewn 13,500 o
gartrefi cyngor, sydd hefyd yn gwella effeithlonrwydd ynni'n sylweddol. Yn ogystal â gwella sgiliau'r gweithlu,
mae'r cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda cholegau lleol i gysoni’u cyrsiau â
thechnolegau adnewyddadwy, sef swyddi'r dyfodol. Roedd gwaith datgarboneiddio'n her
enfawr o hyd i'r cyngor o ran cyllid. Roedd amseru hefyd yn bwysig gan fod
angen canolbwyntio'n hymdrechion ar ein buddsoddiad mewn cartrefi newydd ac
oddeutu £350m mewn datgarboneiddio cartrefi sydd eisoes yn bodoli. Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Ynni at
ei rôl o fewn CLlLC wrth iddi gynrychioli Aelod y
Cabinet dros Dai. Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau,
dywedodd Aelod y Cabinet a'r swyddogion: · Er na chynhelir unrhyw waith adeiladu Passivhaus
pellach, teimlwyd bod y peilot wedi bod yn brosiect cychwynnol da ac o
ganlyniad, gwnaed penderfyniadau i ddod o hyd i ddeunyddiau'n lleol, gan
gefnogi busnesau bach a chanolig lleol. Yn ogystal, roedd caffael
deunyddiau'n lleol (o fewn radiws o 15 milltir) yn lleihau'r ôl troed
carbon. · Gwnaed gwaith uwchraddio thermol a bydd gwaith ar ynni adnewyddadwy'n
dechrau ar ôl 2025. Y nod oedd blaenoriaethu gweddill yr eiddo nad ydynt
wedi'u huwchraddio. Wrth weithio ar yr eiddo hynny, bydd paneli PV a
storio’n cael eu hintegreiddio. Rhoddir sylw i atebion gwresogi carbon
isel yn ddiweddarach yn y rhaglen. · O ran pontio oer, mae'n rhaid i ni hefyd roi hyn ar y
ciliau a'r pennau i gael gwared ar bontydd oer. Mae'r mesurau inswleiddio
a roddwyd ar waith gennym yn gyson ac nid oes gwendid yn y deunydd inswleiddio
a ddefnyddir. · Mae targed mewn rheoliadau adeiladu sy'n nodi sawl gwaith
yr awr y mae angen newid yr aer. Nod ein Safon Abertawe yw gwella'r ffigur
hwnnw. Mewn perthynas â Pharc yr Helyg, cyflwynir manylion y
ffigurau hynny i'r Pwyllgor maes o law. · Nod aerglosrwydd yw lleihau
drafftiau a all fynd i mewn i eiddo ac sy'n helpu gyda'r perfformiad thermol a
faint o wres a gollir o bosib. O ran aerglosrwydd,
cyfradd Passivhaus oedd 0.6, a chyfradd rheoliadau
adeiladu safonol yw tua 10 a chyfradd ein Safon Abertawe yw tua 3.4/3.5, felly
mae'r gwahaniaeth rhwng Passivhaus a Safon Abertawe
yn fach iawn. · Mae strategaeth Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar y
stoc tai yng Nghymru gan ei bod yn teimlo bod ganddi fwy o reolaeth dros allu
cyflwyno rhaglenni datgarboneiddio mewn tai cymdeithasol. Mae’r Llywodraeth yn
gobeithio y gellir defnyddio'r rhaglenni a ddarparwn i annog y sector preifat
wrth symud ymlaen felly rydym yn credu eu bod yn edrych ar darged o 2035 ar
gyfer darparu tai sector preifat. · Mae Llywodraeth Cymru'n archwilio rheoliadau adeiladu
mewn perthynas ag effeithlonrwydd thermol ar eiddo newydd. Mae cydbwysedd rhwng
cost adeiladu a gwerth ailwerthu'n hanfodol. · Mae cynllun Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn aros o
hyd am gymeradwyaeth fel prosiect Bargen Ddinesig ac felly nid oes llif arian o
ran y prosiect hwn. Rhagwelir y byddai'r cytundeb busnes yn cael ei gymeradwyo
yn ystod y 2-3 mis nesaf gan Lywodraeth Cymru a'r DU a byddai ein cynllun yn
rhan o'r fargen honno. · Monitro offer y rhaglen a osodwyd yn Colliers
Way 1, Colliers Way 2 a Pharc yr Helyg. Fodd bynnag, nid oes
ffigurau ar gael oherwydd yr aflonyddwch o ganlyniad i COVID. Bydd
systemau newydd yn darparu ffordd fwy effeithiol o fonitro o bell. Bydd
ffigurau ar gael pan fydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn gallu cael mynd i mewn i
eiddo. · Er bod cydnabod y CRT yn gymhleth ac mae'r cynllun busnes
yn gymhleth iawn, nid yw'n adlewyrchu unrhyw grantiau y gellir cael gafael
arnynt yn y dyfodol. Bydd y cyngor yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru
am gyllid ychwanegol neu bydd ein blaenoriaethau'n cael eu rhannu rhwng cwblhau
SATC a'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ac atgyweirio. Mae'n
anghyfreithlon benthyca dros yr uchafswm ariannol a rhoi'r CRT mewn
dyled. Mae'r cyngor yn ofalus wrth gadw lefel cronfeydd wrth gefn sy'n
briodol. · O ran prentisiaethau, mae 17 wedi'u recriwtio eleni gyda
chyfanswm o 76 ar draws pob disgyblaeth. Nid yw’r broses recriwtio wedi bod yn
gysylltiedig ag adeiladu o ran SATC yn unig - mae hefyd yn gysylltiedig â'r
rhaglen gyfalaf addysg. Er bod bwlch mewn sgiliau masnach yn bodoli, mae
cynnydd yn cael ei wneud i 'ddatblygu' ein talent ein hunain. Yn ogystal â
phrentisiaethau, mae'r cyngor, cymdeithasau tai a datblygwyr preifat yn cyflogi
unigolion di-waith mewn cymunedau. Mae'r staff presennol wedi'u hyfforddi
i sicrhau bod niferoedd priodol o staff i osod a chynnal a chadw'r offer yn yr
eiddo hyn gan greu a chadw cynifer o'r swyddi hynny yn ardal Bae Abertawe. Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet
a'r swyddogion am eu hadroddiad cynhwysfawr. Penderfynwyd ar y canlynol: 1. Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a chadarnhaodd fod
y cyd-destun polisi presennol yn parhau i fod yn briodol wrth i'r cyngor
ddatblygu ei strategaeth datgarboneiddio o'i stoc tai. |
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2022. PDF 196 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith a gofynnodd am gynnwys eitem ychwanegol ynghylch
gosod safleoedd bysus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd mai'r Comisiynydd Traffig
oedd yn gyfrifol am osod safleoedd bysus ac nid yw hwn yn bolisi y gall y
cyngor ei roi ar waith. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynllun gwaith. 2)
Ystyried
Rheoli a Chynnal Mannau Agored (Polisi Bioamrywiaeth a Choed) yn y cyfarfod ar
22 Ebrill 2021. 3)
Y
bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn ystyried opsiynau o ran gosod safleoedd bysus. |