Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffonl: (01792( 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 17
Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|||||||||||||
Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy. PDF 436 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd, gyda chymorth y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, y
Rheolwr Trafnidiaeth Integredig a'r Swyddog Prosiect (Priffyrdd) adroddiad a
oedd yn manylu ar y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer datblygu Strategaeth Trafnidiaeth
Gynaliadwy. Cafodd adroddiad
ei ystyried gan y Cabinet ar 3 Rhagfyr 2020, a dynnodd sylw at ymagwedd a
argymhellir at gyflawni ymrwymiad y cyngor i'w Ddatganiad Argyfwng Hinsawdd. Er mwyn
galluogi'r cyngor i wneud cynnydd, un o'r camau gweithredu allweddol oedd
adolygu'r fframwaith polisi presennol a sut y gallai hyn gyfrannu at gyflawni
ymateb net di-garbon ac argyfwng hinsawdd. Adolygwyd dros
100 o bolisïau'r cyngor gan nodi'r agweddau pwysicaf i greu 8 thema allweddol a
fframwaith polisi. Nodwyd bod grwpio
polisïau allweddol mewn fframwaith wedi helpu i nodi 'bylchau' a derbyniwyd y
byddai Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy, yn unol â grwpiau strategol eraill,
yn ychwanegiad dilys. Un o argymhellion
eraill yr adroddiad oedd y dylid rhannu'r ymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn
yr hinsawdd yn ddwy ffrwd waith sydd wedi'u diffinio'n glir: Ffrwd Waith 1 –
Cyngor Abertawe yn ymdrechu i fod yn ddi-garbon net
erbyn 2030 ar ei ben ei hun o ran allyriadau cwmpas. Ffrwd Waith 2 –
Sut y gall Dinas a Sir Abertawe, ei phrif gyflogwyr, ei dinasyddion a'i
busnesau sicrhau eu bod yn ddi-garbon net erbyn 2050. Yr argymhelliad
blaenorol i'r Cabinet oedd: Y datblygir
Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy, ar ôl nodi'r angen i goladu gweithgarwch
mewn un ddogfen: mae prosiectau cyfredol eisoes yn cynnwys Strategaeth Cerbydlu Gwyrdd, Adolygiad Teithio Busnes a Rhaglen Amnewid
Goleuadau LED. Bydd y tair thema
hyn i gyd yn cyfrannu at ein targed ar gyfer 2030 ac maent ar wahanol gamau
datblygu. Byddai'r ymagwedd
hon yn caniatáu i'r cyngor integreiddio'r mentrau hyn a mentrau eraill a'u
datblygu ymhellach, fel rhan o un strategaeth teithio a thrafnidiaeth
gynaliadwy. Er bod y ffocws
cychwynnol ar yr elfennau sy'n cyfrannu at dargedau 2030, byddai ffrydiau
gwaith eraill sy'n parhau ochr yn ochr â hyn, er enghraifft Teithio Llesol,
isadeiledd gwefru cerbydau trydan a Rhaglen Metro De-orllewin Cymru, yn cael eu
cynnwys yn y Strategaeth hon maes o law. Y rheswm dros yr
ymagwedd dau gam hwn oedd bod Llywodraeth Cymru'n datblygu Llwybr-Newydd
(Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru) a oedd yn destun ymgynghoriad ar hyn o
bryd. Bwriedir datblygu'r rhaglenni
gwaith lleol a rhanbarthol sy'n cyd-fynd â'r strategaeth gyffredinol hon gydag
amserlen ddangosol ym mis Mai 2022. O ran polisi, y
Strategaeth Cerbydlu Gwyrdd oedd y mwyaf cyflawn o'r
darnau gwaith hyn. Cytunwyd ar y
Strategaeth Cerbydlu Gwyrdd ym mis Rhagfyr 2018 ac
mae'n ymrwymedig i leihau allyriadau'r cerbydlu 5%
bob blwyddyn. Byddai hyn yn arwain at
ostyngiad o 50% yn 2030, sy'n arbed 2,350 t/CO2. Ystyrir bod y
targedau hyn yn heriol ond yn gyraeddadwy er y byddai llawer yn dibynnu ar
ddatblygiadau technolegol. Er bod y
cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran disodli cerbydau llai â cherbydau trydan amrywiol,
ystyriwyd yn flaenorol fod cerbydau mwy yn llai priodol. Fodd bynnag, mae hwnnw'n faes sy'n datblygu y
byddai'r cyngor yn parhau i'w fonitro. Trefnir bod y
Polisi Cerbydlu Gwyrdd yn cael ei adolygu bob tair
blynedd, felly caiff ei adolygu yn 2022. Cafodd copi o'r strategaeth gyfredol
ei gynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol: 1.
Cymerwyd y ffigur gwaelodlin o ostyngiad o 5% bob
blwyddyn o ffigurau 2016/17. Cyfrifwyd y
gostyngiad targed o 50% dros y cyfnod 2018-2030. 2.
Roedd cyfrifo canran y Cerbydlu
a allai fod yn rhydd o danwydd ffosil erbyn 2030 yn heriol oherwydd yr ystod
amrywiol o gerbydau (yn enwedig HGV) a chynnydd datblygiadau technolegol. 3.
Roedd dadansoddiad manwl wedi'i gynnal ar 'Gerbydlu Llwyd' y Cyngor.
Gwnaed cynnydd o ran datblygu dull o adolygu'r defnydd o ddefnydd
gweithwyr o gerbydau preifat. Roedd
defnyddio cerbydau trydan a mentrau fel cynlluniau clwb ceir ar waith. Fodd
bynnag, roedd Pandemig COVID-19 wedi amharu ar
gynnydd. Roedd swyddogion yn defnyddio
'hierarchaeth ddiffiniedig' i geisio dileu'r angen i deithio. Wrth edrych ar y math hwn o deithio, mae ceir
preifat ar waelod yr hierarchaeth ac yn gostus iawn i'r Awdurdod. 4.
Mae'r cerbydlu'n cynnwys 750 o
gerbydau, cyfuniad o geir i'w rhannu, faniau bach a
mawr, bysiau Gwasanaethau Cymdeithasol a faniau
sbwriel. Roedd y Polisi Cerbydlu Gwyrdd yn cynnwys
pob cerbyd a bydd Swyddogion yn nodi'r holl opsiynau i newid/addasu cerbydau ym
mhob adnewyddiad. 5.
Roedd darparu gorsafoedd gwefru priodol yn her. Roedd
datblygiad Hydrogen yn araf ac yn ddrud. Wrth i'r dechnoleg a'r adeiladwaith
ddatblygu, gall y cyngor fynd yn ei flaen ar gromlin cyflymach. Er bod pwyntiau gwefru o fewn depos ar hyn o
bryd, mae llawer o weithwyr yn mynd â cherbydau adref ac felly'n creu rhai
heriau logistaidd. Gellid archwilio
materion fel y cyngor yn buddsoddi mewn pecynnau gwefru gartref yn ddiweddarach
yn y flwyddyn. 6.
Roedd datblygu fferm cerbydau trydan fewnol a rhwydwaith
gwefru'n fater arall i benderfynu arno'n ddiweddarach
yn y flwyddyn. Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd fod
ceisiadau am gyllid wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau trydan
mewn safleoedd sy'n eiddo i'r cyngor. Cyfeiriodd swyddogion at yr adolygiad o drefniadau teithio busnes o ran
staff yn teithio, lle mae staff yn defnyddio'u cerbydau eu hunain at ddibenion
teithio busnes ac yn cael eu had-dalu drwy hawliadau milltiroedd. Cyfeirir at hyn yn eang fel y Cerbydlu Llwyd. Amlygodd yr Adolygiad Teithio Busnes fod y Cerbydlu
Llwyd wedi teithio 2.5 miliwn o filltiroedd yn 2017-2018 (tua 2017-2018). Y gost ariannol gysylltiedig oedd £1.2
miliwn. Byddai hyn hefyd yn cyfrif am
bron 700 t/CO2e (tua 300 tunnell). Roedd argymhellion yr adolygiad yn awgrymu y gellid cyflawni arbedion
sylweddol yn ariannol (£200k+) ac o ran t/CO2e (tua 300 tunnell). Er mwyn cyflawni'r arbedion hyn cynigiwyd cyfres o argymhellion a oedd yn
canolbwyntio ar: a)
Gyflwyno Hierarchaeth Deithio i leihau milltiroedd y Cerbydlu Llwyd; b)
Gwell darpariaeth rhannu ceir (o bosib drwy 'glwb ceir'); c)
Hyrwyddo dewisiadau amgen megis cerdded, beicio a
chludiant cyhoeddus; a ch) Lleihau
teithio gwirioneddol drwy newid ymddygiad. Roedd Pandemig COVID-19 wedi arwain at leihad
sylweddol mewn milltiroedd busnes a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio sydd
wedi'u derbyn (yn gyffredinol). Mae
gweithio gartref a defnyddio technoleg i gynnal cyfarfodydd bellach wedi dod yn
fwy arferol er ni fyddai arbedion a wnaed o'r newid gweithredol yn gwbl weladwy
tan ar ôl diwedd y flwyddyn. Byddai amcangyfrif ceidwadol yn awgrymu bod
arbedion o fwy na 50% eisoes wedi'u cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol
gyfredol. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, dywedodd Swyddogion y byddai symud o'r
Ganolfan Ddinesig yn golygu na fyddai darpariaeth barcio i staff, a allai annog
staff i beidio â gyrru i'r gwaith. Mae angen i'r cyngor ddatblygu mwy o
eglurder ynghylch model gweithredu'r dyfodol a sut y byddai hyn yn cyd-fynd â'i
strategaeth llety a gweithio ystwyth. Manylodd swyddogion ar y mentrau staff presennol a oedd yn cynnwys teithio
am bris gostyngol ar ffurf talebau a oedd yn cynnig gostyngiad o 20% ar gyfer
teithio ar ddiwrnodau arferol. Gallai staff dalu am y rhain drwy gynlluniau
aberthu cyflog. Yn ogystal, roedd cynllun ar waith i staff brynu beiciau am bris gostyngol
o Halfords.
Roedd y cyfleuster llogi beiciau yn Abertawe yn gyfyngedig ar hyn o
bryd, ac roedd y ddarpariaeth bresennol wedi'i sicrhau gan Brifysgol Abertawe a
Santander. Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd at
fanteision tocynnau cyfnewidiadwy rhwng masnachfraint y rheilffyrdd a dywedodd
y byddai canolfannau beicio'n cael eu hehangu o amgylch y Cwadrant a'r Orsaf
Drenau. Dywedwyd bod datblygiad Ffordd y Brenin wedi llwyddo i annog pobl i beidio
â defnyddio ceir yng nghanol y ddinas. Nid oes polisi ffurfiol ar waith ar gyfer Goleuadau Stryd a byddai hyn yn
cael sylw fel rhan o'r Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy. Roedd rhaglen goleuadau stryd newydd wedi bod yn gweithredu ers 2011 ac
mae'r gwasanaeth wedi uwchraddio 21,506 o oleuadau i LED, sy'n cynrychioli 74%
o'r ystâd bresennol. Yn ogystal â'r goleuadau LED, mae 3,854 o SONs
(llusernau sodiwm gwasgedd uchel) y gellir eu pylu wedi'u gosod. Mae hyn yn
arwain at gyfanswm o 25,360 o oleuadau ynni effeithlon (88.13% o gyfanswm
rhestr oleuadau'r cyngor). Mae'r mentrau hyn gyda'i gilydd wedi lleihau allyriadau carbon goleuadau
stryd ers 2010/11 o 4,194 t/CO2. Nodwyd y byddai cynnydd yn y dyfodol yn cael ei gyfyngu gan gyfyngiadau
cyllidebol. Roedd y gyllideb goleuadau stryd yn cynnwys defnyddio ynni yn
ogystal â chostau cynnal a chadw ac uwchraddio. Mae'n dilyn yn naturiol, wrth i
brisiau ynni godi, fod llai o le i wario ar gynnal a chadw a gwelliannau. Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd Swyddogion y byddai
lleihau'r defnydd o ynni drwy ddiffodd goleuadau stryd yn fater dadleuol. Fodd
bynnag, gellid cynnwys hyn yn yr adroddiad Polisi LED. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1.
Trefnwyd
y bydd adolygiad tair blynedd y Strategaeth Cerbydlu
Gwyrdd yn cael ei gynnal yng nghyfarfod y PDP ar ddiwedd 2021 neu ddechrau
2022. 2.
Mae'r
PDP yn cymeradwyo'r angen i ddatblygu Polisi Cerbydlu
Llwyd newydd fel rhan o'r Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ehangach a'i
chynnwys yn ei flaengynllun gwaith. 3.
Mae'r
PDP yn cymeradwyo'r angen i ddatblygu Polisi Goleuo Strydoedd ac y dylid
cyflwyno adroddiad pellach i'r PDP maes o law. 4.
Cyflwynir
adroddiad pellach i'r PDP unwaith y bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar
ddatblygu Llwybr-Newydd (Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru) wedi dod i ben. |
|||||||||||||
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 378 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at yr eitemau y trefnwyd eu trafod yn y
cyfarfod ar 18 Chwefror 2021. Dywedodd y byddai'r eitemau'n cynnwys adroddiad cyfunol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Bydd Adroddiad ar
y Cyd ar yr Ymateb i'r Economi Leol a Rhanbarthol ac Adferiad (gan gynnwys
Adfywio'r Stryd Fawr) yn cael ei ystyried yn y cyfarfod ar 18 Chwefror 2021. 2)
Mae eitemau'r Cynllun Gwaith
am weddill y flwyddyn yn cynnwys:
|