Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: 1)
Y
Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod - Ymateb Aelod y Cabinet mewn perthynas
ag Adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu (Twristiaeth). Rwyf yn Gadeirydd Fforwm Mynediad Lleol
Abertawe. |
|||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor
Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019 fel
cofnod cywir. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd fod yr eitem wedi'i chynnwys er gwybodaeth yn unig gan yr
ymdriniwyd â'r eitem hon eisoes gan y panel craffu a'r Cabinet. Yn ogystal,
cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lleoedd nad oedd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi,
Adfywio a Thwristiaeth yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod ar wyliau. Roedd
cwestiynau/sylwadau aelodau'n cynnwys: 1)
Ystyried
y Cynllun Rheoli Cyrchfannau wedi 2020. 2)
Gofyn
i'r Cabinet ailystyried yr argymhellion a wrthodwyd yn flaenorol o ystyried y
setliad cyllidebol gwell. 3)
Cyfrifoldeb
hyrwyddwyr mewn perthynas â gosod arwyddion a chlirio'r safle'n effeithiol ar
ôl digwyddiad. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Byddai'r
Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyflwyno adroddiad diweddaredig
mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch cyfrifoldebau hyrwyddwyr yn dilyn
digwyddiad. 2)
Bydd
y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth ynghylch ailystyried yr argymhellion a wrthodwyd, a datblygiad
Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2017-2020. |
|||||||
Adborth o ymweliad safle â chartrefi fel gorsafoedd pwer. Cofnodion: Dywedodd aelodau
fod yr ymweliad yn gynhyrchiol. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod: 1)
Y
prosiect yn parhau i fod yn waith ar y gweill. 2)
Caiff
costau cyfalaf eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. 3)
Pe
bai aelodau'n dymuno, gellir hwyluso ymweliadau safle â chynghorau eraill. 4)
Awgrymir
rhoi 15-20mil o arian y Fargen Ddinesig i bob uned, er ni chytunwyd ar hyn yn
swyddogol. 5)
Mae'r
PDP Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol yn
ymdrin ag argyfwng hinsawdd, felly mae angen i ni sicrhau nad yw llwythi gwaith
PDP yn gorgyffwrdd. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||||
Trafodaeth ar y cynllun gwaith ar gyfer 2020. Cofnodion: Darparodd
Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ynghylch buddsoddi yn y ddinas. Nododd yr
aelodau'r caniatâd a lefelau'r cyllid y cytunwyd ei ddyrannu fesul cam. Manylodd yr
Arweinydd ar argaeledd benthyca ar gyfradd ostyngol gan y Trysorlys. Nododd pa
mor bwysig oedd defnyddio unrhyw elw ar gyfer cynlluniau newydd. Manylodd yr
Arweinydd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd ar y cynnydd a wnaed yng nghanol y ddinas, i
goridor yr afon a menter Skyline Diolchodd y
Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Lleoedd am y diweddariad llawn
gwybodaeth, a gadawodd y ddau y cyfarfod. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||||
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 212 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith. Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer
2020/2021 gynnwys y canlynol:
Cafwyd trafodaeth
ynghylch eitemau i'w hystyried ar gyfer Cynllun Gwaith 2020/2021: 1)
Toiledau Cyhoeddus. 2)
Cynllun Rheoli
Cyrchfannau. 3)
Statws Aur Stryd y Gwynt 4)
Newid yn yr Hinsawdd -
goblygiadau posib dros y degawd nesaf (cadernid isadeiledd) 5)
Cymorthdaliadau First
Cymru a lleoliad safleoedd bysus 6)
Ymweliadau â Chartrefi fel
Gorsafoedd Pŵer (awdurdodau lleol eraill) |