Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw ddiddordebau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2018 fel
cofnod cywir. |
|
Astudiaeth Dichonoldeb Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Cyflwyniad) Cofnodion: Darparodd Rheolwr
Canol y Ddinas gefndir yr astudiaeth dichonoldeb mewn perthynas â throi Stryd y
Gwynt yn barth i gerddwyr a chyflwynodd awduron yr astudiaeth, Mr O Davies a Mr
E Smith, Owen Davies Consulting, Element
Urbanism. Darparodd Mr O
Davies a Mr I Smith gyflwyniad llawn gwybodaeth a oedd yn manylu ar y: ·
Rhaglen ·
Gweithgarwch
hyd yn hyn ·
Ffactorau
allweddol a adolygwyd ·
Treftadaeth
a thirwedd ·
Gweithgaredd
a defnyddiau ·
Diwrnodau
tawel a nosweithiau bywiog ·
Dosbarthu
nwyddau busnesau ·
Lliniaru
cerbydau diogelwch ·
Dylanwad
datblygiadau eraill ·
Heriau
·
Amcanion
y cynllun ·
Gofynion
allweddol ·
Y
safle (mynediad o'r de/gogledd) ·
Coed:
Buddion ac effeithiau ·
Dadansoddiad
o lwybr yr haul ·
Cysgod
y coed ·
Aliniad
y ffordd ·
Y
safle (unffordd, cynllun presennol etc) ·
Mannau
cyhoeddus ·
Llwytho
a pharcio ·
Presennol ·
Ffordd
gerbydau wedi'i hail-alinio a'i lleihau ·
Arwyneb
a rennir ·
Hunaniaeth
- Cydrannau'r stryd ·
Deunyddiau ·
Celfi ·
Nodweddion
goleuadau ·
Amrywiol ·
Opsiynau
i'w harchwilio Nodwyd mai Opsiwn
2 (h.y. datblygu system unffordd, mewnlenwi'r
cilfachau llwytho a chulhau'r ffordd gerbydau bresennol i wneud mwy o le i
gerddwyr) oedd yr opsiwn a ffefrir. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, nododd yr Ymgynghorwyr; ·
y
byddai angen i'r perchnogion gael hawlen i'w caniatáu i osod hysbysebion bwrdd
dwbl, mannau eistedd/sefyll y tu allan ac ymraniadau ffiniau rhwng lleoliadau
priodol. Byddai hyn yn darparu mwy o reolaeth o'r ardaloedd y tu allan. ·
Roedd
yn hanfodol bod angen gwneud Stryd y Gwynt yn fwy deniadol i amrywiaeth eang o
bobl, gan beidio â cholli'r cynnig gyda'r nos.
Byddai hyn yn gofyn am newid mewn diwylliant. ·
Nid
yw'r prosiect hwn ar wahân i gynlluniau eraill yng nghanol y ddinas (e.e. Y
Faner Borffor etc).
Mae angen i fusnesau fod yn gyfrifol ac mae ymchwil yn nodi bod
cwsmeriaid sy'n eistedd yn dueddol o yfed llai o alcohol na'r rheiny sy'n
sefyll. Gellir gosod amodau ar
sefydliadau i gynorthwyo wrth ddatblygu enw da Stryd y Gwynt. Mae llawer o'r gweithredwyr presennol ar
Stryd y Gwynt yn sefydliadau cadwyn sy'n gweithredu drwy'r DU, ac felly'n dod
ag arfer da drwy eu dulliau o reoli eu sefydliadau. ·
Nid
yw rhai sefydliadau wedi'u cynnal oherwydd strategaethau gwerthiant (e.e. Idols), fodd bynnag, gall y prosiect annog perchnogion i
adnewyddu ac ailddatblygu yn unol â'r sefydliadau eraill ar Stryd y Gwynt. ·
Nid
yw'r oriau lle bydd y ffordd ar gau ar Stryd y Gwynt wedi'u cytuno arnynt eto,
a byddai angen ystyried gofynion gweithredol busnesau, megis amseroedd derbyn
nwyddau a'r posibiliad o ymchwiliad cyhoeddus. ·
Mae
posibiliad y gallai problemau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
gael eu mudo i rannau eraill o'r ddinas. ·
Roedd
treftadaeth yr ardal (yr adeiladau a phresenoldeb y Castell)yn bwerus a dylid
cael ei dathlu. ·
Gallai
ailgyflwyno'r hen gerflun (fel y manylwyd mewn hen luniau o Stryd y Gwynt) fod
yn gyfle. ·
Ni
chyfyngwyd ar yr astudiaeth gan gostau. ·
Gallai'r
palmentydd presennol gael eu defnyddio ar gyfer y prosiect newydd. ·
Gallai'r
prosiect gael ei gyflwyno fesul cam. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Ymgynghorwyr am eu cyflwyniad addysgiadol. Nododd Rheolwr
Canol y Ddinas nad oedd unrhyw gyllideb a ddyrennir
er mwyn troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr.
Fodd bynnag, os yw'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn camau, gall
cyfleoedd fodoli o fewn y cyllidebau presennol a'r ffrydiau ariannu amrywiol. Ceisiodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd farn y pwyllgor mewn perthynas â'r opsiynau. Penderfynwyd: 1)
Y
Cadeirydd i e-bostio aelodau'r pwyllgor yn gofyn am eu barn dim hwyrach na 20
Ebrill 2018; 2)
Cylchredodd
Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gopi o'r cyflwyniad. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 93 KB Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd fod materion sy'n weddill i'w hystyried yn y cynllun gwaith a
cheisiwyd barn mewn perthynas â chyfarfod yn y dyfodol. Penderfynwyd
cynnull cyfarfod arbennig ddydd Mawrth 24 Ebrill 2018 er mwyn ystyried: 1)
Adborth aelodau - Astudiaeth Dichonoldeb - Troi Stryd y
Gwynt yn barth i gerddwyr 2)
Economi ac Isadeiledd PDChP -
Datganiad sefyllfa - Diwedd Blwyddyn 2017/2018 3)
Cynllun Gwaith Economi ac Isadeiledd PDChP
- 2018/2019 |