Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
ddiddordebau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Llafar). Cofnodion: Darparodd Rheolwr
Canol y Ddinas ddiweddariad mewn perthynas â throi Stryd y Gwynt yn barth i
gerddwyr. Nododd yr aelodau
gefndir y cynnig. Mae cynnydd wedi
bod yn gadarnhaol, cyhyd ag y mae ymgynghorwyr wedi bod yn rhan ohono ac mae
cynllun gwaith wedi'i ddatblygu. Roedd y
cynllun gwaith yn cynnwys tri cham: (i)
y broses cynllunio busnes gan gynnwys ymchwil a dadansoddiad (ii) dylunio (iii)
mireinio/costau a dichonoldeb cyllid. Nododd Rheolwr
Canol y Ddinas fod cam 1 bron wedi'i gwblhau a bod gweithdy a oedd yn cynnwys
cynghorwyr a swyddogion wedi bod yn ymarfer llwyddiannus. Byddai'r
astudiaeth dichonoldeb yn cael ei chwblhau a'i hadrodd i'r Pwyllgor erbyn
diwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai 2018. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd Rheolwr Canol y Ddinas y canlynol: ·
Byddai
penderfyniadau sy'n ymwneud â chyllid yn cael eu gwneud pan fydd yr astudiaeth
dichonoldeb wedi'i chwblhau. Bydd
ystyriaeth yn cael ei rhoi i godi arian drwy BID, cytundebau 106 ac opsiynau
cyllid Ewropeaidd; ·
Ymgynghorir
â'r Grŵp Cydgysylltu Anableddau a fydd yn cyflwyno sylwadau o ran eu
dewisiadau; ·
Rhoddwyd
y dasg o archwilio opsiynau o ran Stryd Caer a Stryd y Gwynt i'r ymgynghorwyr; ·
Datganodd
y busnesau lleol ar Stryd y Gwynt y byddai buddion economaidd o ganlyniad i
droi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr; ·
Y
prif ffactor oedd y gwahaniaeth rhwng yr economi gyda'r dydd a chyda'r
hwyr. Byddai strategaeth yn cael ei
datblygu er mwyn ceisio hyrwyddo arallgyfeirio mangreoedd a symud oddi wrth
sefydliadau lle mae swm uchel o yfed'; ·
Mae'r
Heddlu'n cefnogi creu parth i gerddwyr yn gyffredinol; Diolchodd y
Cadeirydd i Reolwr Canol y Ddinas am ei chyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd aildrefnu astudiaeth dichonoldeb troi
Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr ar gyfer cyfarfod 12 Ebrill 2018. |
|
Tai Cydweithredol - Geoff Bacon. PDF 195 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Eiddo adroddiad ar Dai Cydweithredol Cyngor Abertawe. Manylodd ar y
cefndir, y rhesymeg, sut mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu, ymagwedd 'lawr
gwlad', sefydliadau cymunedol sy'n bodoli eisoes, mentrau 'o'r brig i'r
gwaelod' a'r gefnogaeth sydd ar gael i Gyngor Abertawe. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd y Rheolwr Eiddo'r canlynol: ·
Byddai
cylch gorchwyl yn cael ei archwilio; ·
Bydd
strategaethau penodol yn cael eu datblygu er mwyn diogelu sefydliadau 'llawr
gwlad'; ·
Byddai
gan denantiaid lai o ddiogelwch na thenantiaeth y 'Ddeddf Tai'; ·
O ran
cyfrifoldebau, bydd gan y Tai Cydweithredol hawliau a chyfrifoldebau clir; Adroddodd y Rheolwr Eiddo mai'r cam nesaf
yw cael barn fewnol ar yr ymagwedd beilot gyntaf ar sail 'o'r pen i'r gwaelod, o'r
gwaelod i fyny' a phenderfynu ar bartner Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a
lleoliad. Yna, gallai polisi cyngor gael
ei ddatblygu ar dai cydweithredol. Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Eiddo am
ei gyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y byddai'r Rheolwr Eiddo'n darparu'r diweddaraf ar y cynnydd i'r pwyllgor ym mis Mai 2018. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 92 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2017-18. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at yr eitem y Cerbydlu Gwyrdd ac
awgrymodd y gallai hyn fod yn rhan o'r cynllun gwaith ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2018/2019. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd at y Fargen Ddinesig a Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol. Penderfynwyd: 1)
Trefnu
astudiaeth dichonoldeb troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr ar gyfer 12
Ebrill 2018; 2)
Trefnu
Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol ar gyfer cyfarfod arbennig yng nghyfarfod
mis Mai 2018; 3)
Cyflwyno
adroddiad o ddatganiad sefyllfa ar waith y pwyllgor i'w gyflwyno ym mis Mai
2018. |