Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Services - Tel: 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi ar yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 10 Awst 2017 fel cofnod cywir. |
|
Cerdyn Dinesydd. (Cyflwyniad - Sarah Caulkin). Cofnodion: Wedi'i chynorthwyo
gan Arweinydd y Tîm Meddalwedd, bu'r Cyfarwyddwr Adnoddau'n trafod datblygu
Cerdyn Dinesydd neu Gerdyn Gostyngiad Preswylydd a fyddai'n darparu modd i
breswylwyr Abertawe a rhai o'r tu allan i Abertawe ryngweithio â gwasanaethau
ar-lein Abertawe a defnyddio cyfleusterau hamdden. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol: ·
Byddai'r
Cerdyn Dinesydd ar gael i unigolion o oed pleidleisio. ·
Bydd
cyflwyno'r Cerdyn Dinesydd yn cysylltu'r wefan rheng flaen â'r swyddfa gefn ac
yn galluogi unigolion i gyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau (e.e. adrodd
am dipio anghyfreithlon, talu Treth y Cyngor, cyflwyno ceisiadau am swyddi
gwag). Yn ogystal, byddai'n galluogi defnyddwyr i gael mynediad i ostyngiadau
ar gyfleusterau'r cyngor a'i bartneriaid. ·
Byddai
opsiwn i ddefnyddio'r cerdyn gostyngiad ar 'ap' ffôn clyfar neu fel cerdyn
ffisegol. ·
Gallai'r
system ryngwynebu Modern.Gov â System Rheoli Gwaith Achos y Cynghorwyr (CCMS) a
fyddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gynghorwyr drwy gysylltu gwybodaeth. ·
Byddai'r
cerdyn yn cynorthwyo'r cyngor wrth reoli a diogelu data yn unol â deddfwriaeth
newydd a ddaw i rym ym mis Mai 2018.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cosbi sefydliadau nad oes ganddynt broses
a gweithdrefnau priodol ar gyfer rheoli data. ·
Byddai'r
cerdyn yn cysylltu â systemau rheoli Rhyddid Gwybodaeth sy'n cael eu datblygu
ar hyn o bryd. ·
Bydd
gweithwyr perthnasol yr awdurdod yn cadw gwybodaeth a ddarperir gan
ddinasyddion, na fyddai'n cynnwys data sensitif. ·
Gallai
gweithwyr yr awdurdod gael mynediad i wybodaeth wrth wneud eu gwaith yn unig,
fel rhan o'u hamodau a'u telerau dan ddeddfwriaeth diogelu data. Byddai uniondeb sylweddol o ran diogelwch
cofnodion sylfaenol. ·
Byddai
dinasyddion yn cael yr opsiwn o gadw eu gwybodaeth neu fel arall gallant ei mewnbynnu bob tro y maent yn defnyddio'r system.
·
Croesewir
awgrymiadau ar gyfer enw gwell. ·
Caiff
grŵp defnyddwyr ei sefydlu gyda chynghorwyr er mwyn gwella llif
gwybodaeth. ·
Er
gwaethaf cyflwyno'r Cerdyn Dinesydd, byddai amrywiaeth o opsiynau ar gyfer
cyfathrebu â'r cyngor yn dal i gael eu cynnig i aelodau'r cyhoedd. ·
£50,000
fyddai'r gost sefydlu yn ogystal â £700 y mis. Nid yw cost y cardiau ffisegol
wedi'i chadarnhau eto, ond ni ddisgwylir iddynt fod yn ddrud iawn. Hefyd,
rhagwelir y bydd llawer o unigolion yn dewis defnyddio 'ap' ffôn clyfar. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd: 1)
Y
bydd Arweinydd y Tîm Meddalwedd yn gwahodd pob cynghorydd i fod yn rhan o
grŵp defnyddwyr System Rheoli Gwaith Achos y Cynghorwyr (CCMS); 2) Y dylid nodi'r adroddiad. |
|
Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Cyflwyniad - Lisa Wells). Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolaeth Canol y Ddinas yr wybodaeth ddiweddaraf am droi Stryd y Gwynt yn
barth i gerddwyr. Dywedodd fod y cynllun
wedi'i ystyried yn wreiddiol gryn amser yn ôl pan oedd posibilrwydd o gyllid
Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae'r cyllid wedi'i ailgyfeirio at gynllun arall. Roedd cynrychiolwyr
Rhanbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe yng nghanol y ddinas wedi lobïo'r cyngor,
gan dynnu sylw at y manteision economaidd a allai ddeillio o gyflwyno'r
cynllun. Roedd gwerthusiad
gan Reolaeth Canol y Ddinas ar ran yr Is-adran Priffyrdd wedi tynnu sylw at
gefnogaeth gynhwysol. Roedd busnesau a phreswylwyr o'r farn y byddai'n gwella
ffyniant y ddinas ac yn cynnig arallgyfeirio o ran: y galw gwahanol rhwng yr economi ddydd a'r
economi nos; cynyddu nifer yr ymwelwyr â lleoliadau drwy annog pobl nad ydynt
yn breswylwyr i ddod i'r ardal; newidiadau ym marn pobl am yr ardal; gwelliannau
i olwg yr ardal a mwy o ddiogelwch. Yn ystod yr
ymgynghoriad, anogwyd busnesau i gyflwyno atebion i dagfeydd traffig a chefnogi
ymwelwyr hŷn ac anabl, a oedd wedi'u nodi'n bryderon. Cyflwynwyd
canlyniadau'r ymgynghoriad i'r PCC blaenorol ar Ddatblygu, gyda'r argymhelliad
y dylid datblygu astudiaeth dichonoldeb. Trosglwyddwyd y
prosiect i Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas ym mis Gorffennaf 2017. Ers y
trosglwyddiad, sicrhawyd cefnogaeth ehangach i ymgymryd â'r astudiaeth
dichonoldeb a phrofi opsiynau ar gyfer creu parth i gerddwyr. Byddai'r
astudiaeth dichonoldeb yn nodi sut gellid datblygu ac ariannu'r cynllun. Mae
cyllid ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb wedi'i sicrhau drwy bartneriaeth â
BID Abertawe ac roedd cyfarfod wedi'i drefnu o fewn yr wythnos nesaf i lunio
cynllun. Roedd yr
ymgynghoriad wedi cyflwyno cyfeiriad clir er mai cyllid yw'r her fwyaf yn ôl
pob tebyg. Mae opsiwn ar gyfer tri model, sef cynlluniau efydd, arian ac aur.
Mae angen ystyried y rhaglen adfywio helaeth sydd yn yr arfaeth ar gyfer canol
y ddinas a sut byddai'r cynllun hwn yn cyd-fynd â'r cyd-destun ar gyfer
cyflwyno'r rhaglen ehangach. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd Rheolwr Canol y Ddinas y canlynol: 1)
Mae
gan y rhan fwyaf o fusnesau Stryd y Gwynt fynediad cefn ar gyfer dosbarthu
nwyddau ac maent yn barod i weithio gyda'r cyngor i nodi atebion. Byddai
busnesau ar eu hennill gan y gellid arallgyfeirio'r ardal a'i gwneud yn fwy
deniadol i ddefnyddwyr eistedd yn yr awyr agored/wylio digwyddiadau awyr
agored, etc. 2)
Cynllun
creu parth i gerddwyr yw'r un efydd, gan ehangu'r hyn sydd ar waith ar hyn o
bryd (e.e. defnyddio bolardiau ac ychydig iawn o waith ar yr isadeiledd), a
byddai'n rhad. Mae'r un arian yn cynnwys portreadu'r strydlun ac yn ceisio
creu'r argraff fod yr ardal yn un i gerddwyr yn y cynllun presennol. Mae'r un
aur o'r un safon â'r hyn a geir mewn dinasoedd mawr (Caerdydd, Barcelona). 3)
Byddai
angen i'r astudiaeth dichonoldeb ystyried y broses o gydymffurfio â'r Ddeddf
Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. 4)
Nid oes
unrhyw safleoedd tacsi ar Stryd y Gwynt ar hyn o bryd; fodd bynnag, mae
safleoedd cyfagos yn gwasanaethu'r ardal. 5)
Nid
oes unrhyw arwydd clir o'r costau cysylltiedig â'r cynllun efydd, arian ac aur.
Byddai hyn yn un o nodau'r astudiaeth dichonoldeb. 6)
Mae
gan Stryd y Gwynt statws 'Baner Borffor' sy'n destun anrhydedd yn yr economi
nos ac yn dangos bod yr ardal wedi bodloni'r safonau gofynnol. Mae gwaith
partneriaeth yn parhau i newid barn pobl am Stryd y Gwynt a'r ardaloedd ymylol.
Mae ystadegau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn nodi bod Stryd y
Gwynt yn fwy diogel nag erioed ac mae'r Faner Borffor yn achredu hynny'n
ffurfiol. Mae troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr yn rhan o waith mwy
sylweddol o ran y Faner Borffor a datblygu strategaeth tymor hir ar gyfer
sector yr economi gyda'r hwyr a'r nos. 7)
Mae
cyflwyno mathau gwahanol o fusnesau wedi newid o'r sefydliadau yfed alcohol
sylweddol ar sefyll blaenorol. Mae busnesau'n ystyried anghenion y defnyddiwr
sy'n galw am brofiad llawer mwy hamddenol gyda newid i strydlun a naws yr
ardal. 8)
Mae
pryderon yn deillio o rai busnesau a bydd angen gwneud gwaith i ymdrin â'r
materion hyn fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb. 9)
Mae'r
holl sylwadau gan fusnesau a phreswylwyr a ddaeth i law wedi'u cynnwys mewn
ardal i'r PCC ar Ddatblygu petai aelodau'r pwyllgor am eu gweld. 10) Ffordd tymor byr a thymor hir o ystyried
arallgyfeirio'r economi gyda'r hwyr a'r nos. Mae'r ffordd tymor byr yn cynnwys gweithgareddau
a gynhelir ar ôl 4pm ac yn cyflwyno digwyddiadau stryd megis Penwythnos Mawr
Abertawe, a fydd cyn bo hir yn dathlu'r economi gyda'r hwyr a'r nos ac yn
cynnwys bwyd stryd a digwyddiadau dros dro. Y ffordd tymor hir fyddai gwella'r
amrywiaeth a gynigir drwy'r cynlluniau adfywio sy'n
cael eu datblygu, h.y. yr arena a safle Dewi Sant. Diolchodd y
Cadeirydd i Reolwr Canol y Ddinas am ei chyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. Cofnodion: Ceisiodd y Cadeirydd
gyngor y Cyfarwyddwr Lleoedd ar eitemau'r cynllun gwaith. Yna bu trafodaeth
ynghylch strategaeth cludiant y dyfodol, mwy o gartrefi a darparu tai
fforddiadwy ac yng nghanol y ddinas (gan archwilio cysylltiadau rhwng y cynllun
cludiant a thai fforddiadwy), ac adfywio coridor yr afon (y gwaith copr). Penderfynwyd y
byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfodydd y dyfodol
ar: 1)
Strategaeth
cludiant y dyfodol a thai; a 2) Choridor yr Afon. |