Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

 

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 216 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir..

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gofnod rhif 26 a nododd fod cyfarfod wedi'i gynnal i drafod yr ymgynghoriad.

 

32.

Newid yn yr hinsawdd. pdf eicon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad 'er gwybodaeth'.  Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at adroddiad y Cabinet a gymeradwywyd yn ddiweddar ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a Natur (18 Tachwedd 2021) a oedd yn ystyried y datganiad diweddar ynghylch Argyfwng Natur ar 4 Tachwedd 2021. Er mwyn helpu i flaengynllunio, mae hefyd yn hysbysu’r pwyllgor o statws presennol pob maes polisi sydd wedi'i gynnwys yn y strwythur llywodraethu.

 

Nododd yr aelodau gynnydd mewn perthynas â'r canlynol: Y diweddaraf am Lywodraethu; Y diweddaraf am Strategaeth a Pholisi; Cynllun Bioamrywiaeth/Adran 6/Cynllun Gweithredu Adfer Natur; Datblygu Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy; Strategaeth Rheoli Coed; Adeiladau Ysgol Newydd; Caffael; Tai; Polisi Strategaeth Gwastraff 2022-25; Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd; Cynllun Datblygu Lleol; Cynllun Ynni a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau fod y Strategaeth yn 'ddogfen fyw' gydag elfennau pellach yn cael eu datblygu.  Cyfeiriodd at y gwaith cyffredinol gyda sefydliadau eraill a chanmolodd swyddogion am eu gwaith rhagorol wrth gyflawni'r strategaeth.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Prosiect at y gwaith cydweithredol a oedd yn cynnwys holl Awdurdodau Cymru a mewnbwn Abertawe yng nghynllun diweddar COP Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at faint o waith a geir ym mhob un o'r meysydd polisi a nodir uchod a'r cynnydd parhaus ynddynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl swyddogion am eu gwaith parhaus wrth gyflawni'r strategaeth ac awgrymodd y gallai fod yn rhan o'r cynllun gwaith ar gyfer y PDP yn y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.

 

33.

Mesurau rheoli cyflymder mewn ardaloedd preswyl i gynnwys terfynau cyflymder 20mya. pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-beiriannydd adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg byr ar y cefndir a'r materion sy'n gysylltiedig â chyflwyno mesurau rheoli cyflymder i gefnogi terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd drosolwg o'r heriau sy'n gysylltiedig â rhoi’r mesurau ar waith a oedd yn cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynllun; goblygiadau ariannol ac ymgynghoriad.

 

Cyfeiriodd yr Uwch-beiriannydd at yr wyth cynllun peilot yng Nghymru a dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn asesu'r data sy'n deillio o bob cynllun peilot. Dywedodd mai prin oedd yr wybodaeth a gafwyd yn lleol ynglŷn â chydymffurfiaeth a hepgoriadau o ganlyniad i ardaloedd rheoli cyflymder.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Chludiant fod llawer o heriau gwrthdrawiadol yn gysylltiedig â'r cynllun a oedd yn gofyn am ystyriaeth ofalus cyn ei roi ar waith.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am eu hadroddiad addysgiadol ac awgrymodd y gallai'r mater fod yn rhan o gynllun gwaith y PDP yn y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.

 

34.

Work Plan 2020 - 2022. pdf eicon PDF 188 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd cynllun gwaith 2020-2022.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith.