Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif: 26 – Rheoli a Chynnal Mannau Agored (Bioamrywiaeth).

 

25.

Cofnodion. pdf eicon PDF 209 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

 

 

26.

Rheoli a Chynnal a Chadw Mannau Agored (Bioamrywiaeth). pdf eicon PDF 519 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Rheoli Gwastraff, gyda chymorth Swyddogion, ddiweddariad cynnydd ar yr adolygiad o reolaeth y cyngor o'i fannau gwyrdd.

 

Manylodd swyddogion ar y cynnydd hyd yma (gan gynnwys rôl y gweithgor), prynu offer, ymgysylltu â chyrff amgylcheddol, arolygon, profion gweithredol, paratoi ar gyfer ehangu profion y tymor nesaf, gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth, ymgynghori â'r gymuned a materion cyffredinol.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Gwastraff y byddai'n ofynnol datblygu polisi strategol yn y lle cyntaf, cyn unrhyw ymgynghoriad ehangach.  Ailadroddodd yr heriau a wynebir gan Aelodau wrth gydbwyso ymrwymiad y cyngor i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd/natur a barn eu cymunedau lleol.  Byddai angen rhoi ymarferion ymgynghori pellach ar waith fesul cam ar ôl i'r fframwaith cyffredinol gael ei gymeradwyo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cynnydd hyd yma a'r cyfeiriad teithio.

2)    Y bydd Chris Howell yn gwahodd y Cadeirydd a'r Cynghorydd P K Jones i gyfarfodydd Gweithgor y Swyddogion yn y dyfodol.

3)    Y caiff Aelodau eu gwahodd i ddod i weithgor i drafod yr ymarfer ymgynghori ar-lein yn y dyfodol.

 

 

27.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran yr Amgylchedd Naturiol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth strategaeth ar gyfer rheoli coed ar/sy'n effeithio ar dir/eiddo dan berchnogaeth y cyngor ac yn nodi dyletswyddau'r cyngor mewn perthynas â choed a warchodir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cytuno ar y Strategaeth Rheoli Coed a'i chyfeirio at y Cabinet i'w chymeradwyo.

 

2)    Cynnal ymarfer mapio i nodi safleoedd/parthau posib ar gyfer plannu ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn amodol ar argaeledd cyllid a chynhaliaeth yn y dyfodol.

 

28.

Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd. pdf eicon PDF 538 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 20 Ionawr 2022.

 

29.

Cynllun Gwaith 2021 - 2022. pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2022 a dywedodd y byddai'r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei thrafod yn y cyfarfod ar 20 Ionawr, 2022.

 

Trafododd yr Aelodau bynciau i'w trafod am weddill y flwyddyn ddinesig ac awgrymwyd y dylid gohirio'r eitem ynghylch Goleuadau Stryd tan y cyfarfod ar 17 Chwefror, 2022.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu cyfarfod rhwng y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i drafod amseriad eitemau yn y dyfodol i'w hystyried ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig.