Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 214 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

22.

Strategaeth Cerbydau Allyriadau Tra Isel. pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Cerbydlu adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar y Strategaeth Allyriadau Isel Iawn newydd a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i gefnogi ymagwedd y cyngor a'i Bolisi Cerbydlu Gwyrdd hollgyffredinol.

 

Trafododd yr Aelodau'r canlynol: gwella sgiliau technegwyr i Safonau Cymhwysedd Sefydliad y Diwydiant Moduro; cyfleoedd prentisiaethau; galw am isadeiledd gwefru cerbydau trydan; cerbydau tanwydd hydrogen a'r cynllun aberthu cyflog.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyfarwyddwr Lleoedd, cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn fodlon ar yr 20 gweithred y manylwyd arnynt yn y cynllun trawsnewid.

 

Mynegodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau a Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd eu diolchgarwch i Swyddogion am eu gwaith caled i gyflwyno'r strategaeth heriol a sensitif o ran amser.

 

23.

Cynllun Gwaith 2021 - 2022. pdf eicon PDF 38 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2022.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet ac awgrymodd fod y Pwyllgor (wrth ystyried y mater yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr) yn nodi elfennau'r strategaeth lle gellid archwilio camau gweithredu allweddol yn fanylach.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y diweddariad am Raglenni Cyflogadwyedd (a ystyriwyd yn y cyfarfod ym mis Hydref 2021) a nododd y byddai ef a'r Is-Gadeirydd yn trafod unrhyw faterion trawsbynciol yn uniongyrchol â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2020-2022.