Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 210 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

 

18.

Diweddariad Rhaglenni Cyflogadwyedd. pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid Allanol adroddiad er gwybodaeth a oedd yn manylu ar raglenni cyflogadwyedd, sgiliau a hyfforddiant allweddol sy'n cael eu darparu gan Gyngor Abertawe.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r cyflawniadau hyd yma ac yn tynnu sylw at gyfleoedd a heriau y dylid eu hystyried wrth ddatblygu a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau olynol, cyllid yn dilyn gadael yr UE.

 

Nododd aelodau y cefndir a’r cyd-destun, prosiectau economaidd a chyflogadwyedd cyfredol (y manylir arnynt yn Atodiad A), materion ac allbynnau a chyfleoedd a heriau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd swyddogion y canlynol:

 

1)    derbynnir £2.5m y flwyddyn drwy arian grant a ddefnyddir ar gyfer staffio prosiectau a chymwysterau.

2)    Er bod gwerth mewn blaengynllunio er mwyn datblygu polisi cyn i'r cyllid ddod i ben, nid yw cyllid grant yn y dyfodol yn hysbys.  Gallai gweithgorau gael eu cynnal yn nghanol 2022 i bennu ffordd ymlaen.  Fodd bynnag, o ystyried yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022, byddai angen i'r PDP ystyried penderfynu ar y pwnc hwn ar ôl Mai 2022.

3)    Mae sgiliau a gafwyd o wybodaeth am y farchnad lafur yn sail i gynllun sgiliau cadarn.  Mae Bwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (PDSRh) Trefniant Rhanbarthol Talent a Sgiliau'r Fargen Ddinesig yn cydlynu'r wybodaeth ac yn asesu'r gofynion ar gyfer y rhanbarth.

4)    Gwnaed cynnydd gydag ysgolion a sefydliadau addysgol ôl-16 er mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau a nodwyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cynnull cyfarfod ar y cyd rhwng PDC yr Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a’r PDC Addysg i archwilio'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â phrinder sgiliau ac ymateb ysgolion a sefydliadau addysgol ôl-16. 

 

Diolchodd y cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad addysgiadol.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

 

19.

Cynllun Gwaith 2021 - 2022. pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2020-2022.

 

Trafododd yr aelodau'r pynciau i'w trafod yng nghyfarfodydd y dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Ailenwi eitem y Cerbydlu Gwyrdd a Llwyd yn 'Strategaeth Cerbydau Allyriadau Tra Isel'.

2)    Nodi cynllun gwaith 2020-2022.