Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 215 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi, Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

 

Codwyd ymholiadau mewn perthynas â'r arolwg bioamrywiaeth ar-lein a mesurau tawelu traffig.  Awgrymodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y dylid codi'r materion fel rhan o gynllun gwaith 2020 - 2022.

 

14.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Achos Busnes y Rhaglen Sgiliau a Thalentau. pdf eicon PDF 449 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd ddiweddariad o achos busnes Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cabinet ac archwiliwyd sut y gall hyn gyd-fynd ag eitem agenda datblygu sgiliau lleol PDP yn y dyfodol.

 

Nododd yr aelodau’r cefndir a’r cyd-destun, y cynllun busnes ar gyfer y rhaglen sgiliau a thalent, gwybodaeth am gyllido, cyflwyno'r cyfnodau (gan gynnwys y dadansoddiad bylchau ac a yw'n ofynnol i'r cyngor wneud ymyriadau pellach), yr heriau a wynebir mewn perthynas â bylchau mewn sgiliau, nod y rhaglen a'r effaith ariannol.

 

Trafododd yr aelodau'r canlynol:

 

1)    Datblygu sgiliau a recriwtio lleol a sut y gall y cyngor ddatblygu ei bolisïau i gynorthwyo yn hynny o beth. 

2)    Rôl ysgolion wrth alinio'r cwricwlwm oed ysgol â'r hyn sy'n ofynnol ar ôl 16 oed er mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau enfawr.

3)    Costau ffïoedd ymgynghorwyr a'r angen i sicrhau bod mwyafrif yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu cyfleoedd hyfforddi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am yr adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyflwyno adroddiadau manwl pellach, gan fynd i'r afael â sgiliau lleol a recriwtio, gan gynnwys meysydd ymyrraeth y cyngor a rôl addysg wrth ddatblygu cwricwlwm sy'n mynd i'r afael â'r materion gyda phrinder sgiliau i bobl dros 16 oed.  Mae'r adroddiadau hyn i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 21 Hydref, 2021.

 

15.

Cynllun Gwaith 2021 - 2022. pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gynllun gwaith 2020-2022.

 

Codwyd ymholiadau ynghylch amserlennu adroddiadau pellach mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe (Achos Busnes Sgiliau a Thalent); diweddariad mewn perthynas â'r arolwg Bioamrywiaeth ar-lein a mesurau tawelu traffig.  Awgrymwyd trefnu cyfarfod ar wahân i ail flaenoriaethu eitemau'r cynllun gwaith.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd i drefnu cyfarfod cynllun gwaith sy'n cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, a'r Cyfarwyddwr Lleoedd.