Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr C Anderson a P M Matthews gysylltiad personol â Chofnod 9 "Gosod Arosfannau Bysus".

 

8.

Cofnodion. pdf eicon PDF 206 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

 

9.

Lleoliad Safleoedd Bysus. pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd yr adroddiad.

 

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig drosolwg cynhwysfawr o berchnogaeth, math, lleoliad a gwaith cynnal a chadw arosfannau a chysodfannau bysus. Nodwyd bod Swyddogion yn defnyddio canllawiau yn hytrach na bod polisi ffurfiol ar waith.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol iddynt. Anogwyd yr Aelodau i anfon neges ar wahân at y Tîm Cludiant ynghylch unrhyw bryderon diogelwch neu lendid posib.

 

Cytunodd yr Aelodau y dylid llunio polisi i'w ddefnyddio yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r Swyddog am yr adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Y dylid nodi'r adroddiad.

2)      Bydd Arweinydd y Tîm Cludiant i Deithwyr yn drafftio polisi (yn seiliedig ar y canllawiau gweithredol cyfredol) ac yn ymchwilio i bolisïau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol eraill.  

 

10.

Mesurau Arafu Traffig. pdf eicon PDF 336 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Diogelwch Ffyrdd drosolwg o’r cefndir a'r materion i'w hystyried sy'n gysylltiedig â chyflwyno gwaith tawelu traffig.

 

Nododd yr Aelodau'r ystyriaethau tawelu traffig.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol iddynt.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd Aelod y Cabinet y canlynol:

 

1)    Mae parthau 20 mya yn rhoi budd cymedrol i faterion amgylcheddol.

2)    Mae angen monitro/gorfodi parthau 20 mya hefyd i sicrhau cydymffurfiaeth.

3)    Mae cyflwyno mesurau tawelu traffig yn cael effaith negyddol ar isadeiledd priffyrdd ac ar hyn o bryd nid oes cyllid ychwanegol ar gael i wrthsefyll hyn.

4)    Ymgynghorir â'r holl wasanaethau brys cyn cyflwyno mesurau tawelu traffig ac ystyrir eu sylwadau.

5)    Mae ymgynghori â'r cyhoedd yn hanfodol wrth bennu priodoldeb y gwahanol fathau o fesurau tawelu traffig.

6)    Nid yw tawelu traffig yn cael effaith andwyol ar argaeledd cilfachau parcio i breswylwyr.

7)    Fodd bynnag, byddai swyddogion yn gallu cynorthwyo Gweithgor, ond nid oes gan y Tîm Rheoli Traffig adnoddau ar hyn o bryd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r Swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

1)    Y dylid nodi'r adroddiad.

 

11.

Cynllun Gwaith 2021 - 2022. pdf eicon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd gynllun gwaith 2021-2022.  Dywedodd, yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, fod amserlenni a manylion swyddogion bellach wedi'u cynnwys yn y cynllun.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn rhoi diweddariad interim i'r Pwyllgor ynghylch arolwg ar-lein Rheoli Mannau Agored (Bioamrywiaeth) cyn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ym mis Medi 2021.

2)    Caiff y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ei chynnwys yn y cynllun gwaith.

3)    Gan gynnwys pwyntiau 1) a 2) uchod, cymeradwyo'r cynllun gwaith ar gyfer 2021-2022.