Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 221 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 22 Ebrill a 20 Mai, 2021 fel cofnod cywir.

 

6.

Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwaith Arfaethedig 2021-2022. pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2021-2022.

 

Nododd yr Aelodau'r pynciau a drafodwyd yn ystod y Flwyddyn Ddinesig flaenorol.

 

Trafododd yr Aelodau eitemau arfaethedig y cynllun gwaith a gofynnwyd cwestiynau i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, a ymatebodd yn unol â hynny.

 

Awgrymodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth fod y Pwyllgor yn archwilio ansawdd a chysondeb torri glaswellt ar draws Dinas a Sir Abertawe.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1.    Y dylid nodi'r adroddiad.

2.    Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynnwys yr arolwg ar-lein Rheoli Mannau Agored (Bioamrywiaeth) cyn ei gymeradwyo.

3.    Caiff y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ei chynnwys yn y cynllun gwaith.

4.    Gweithlu Canol y Ddinas y Dyfodol i gynnwys Trefniant Rhanbarthol Talent a Sgiliau'r Fargen Ddinesig.

5.    Gwella traffig i'w gynnwys yn y pwnc twmpath cyflymder.

6.    Cynnwys Goleuadau Stryd.

7.    Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn llenwi'r cynllun gwaith â dyddiadau awgrymedig ac yn blaenoriaethu pynciau i'r materion hynny y gellir ymdrin â hwy yn ôl amserlenni byrrach a hirach.