Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

28.

Cofnodion: pdf eicon PDF 263 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

 

29.

Strategaeth Rhagor o Gartrefi a Datgarboneiddio'r Stoc Tai Bresennol. pdf eicon PDF 579 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd gyda chymorth y Rheolwr Cynllunio a Chyflwyno Rhaglenni ar gyfer buddsoddiadau'r cyngor a'r Rheolwr Datblygu Rhagor o Gartrefi adroddiad a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Rhagor o Gartrefi a'r rhaglen ddatblygu sy'n dod i'r amlwg ar gyfer cartrefi cyngor newydd a ariennir gan y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd cyfredol a dyheadau'r dyfodol ar gyfer rhaglen ddatblygu'r cyngor.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu'r cynnydd o ran bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, y dull o ddatgarboneiddio stoc tai bresennol y cyngor, a'r cynlluniau peilot sy’n cael eu llunio i brofi egwyddorion a chyfeirio’r strategaeth yn y dyfodol.

 

Manylodd swyddogion ar gefndir y Strategaeth Rhagor o Gartrefi, y Fanyleb Rhagor o Gartrefi – Safon Abertawe, Cynlluniau Gorffenedig a Gweithgarwch Presennol, Cynlluniau'r Dyfodol a Gweithgarwch Cynlluniedig, Cefndir Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a Datgarboneiddio, Cyflawni Effeithlonrwydd Ynni yn y Gorffennol, Rhaglen Datgarboneiddio‘r Dyfodol – Datblygu Polisi Cenedlaethol, Cynigion Drafft Polisi Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, Cyfnod Trosiannol – Cynlluniau Peilot Datgarboneiddio, Strategaeth Datgarboneiddio arfaethedig ar gyfer y dyfodol a Chyfleoedd, Heriau a Risgiau i'r cyngor yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd swyddogion at y cyflwyniad ar Gyngor Abertawe - Adeiladu Cartrefi Gwell a Datgarboneiddio Cartrefi Presennol. Roedd y cyflwyniad yn manylu ar y canlynol:

 

·         Hanes Rhagor o Gartrefi.

·         Manteision disgwyliedig Passivhaus.

·         Y daith tuag at Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

·         Cysyniad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

·         Datblygiadau Safon Abertawe.

·         Technolegau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

·         Canlyniadau.

·         Gweithgareddau cyfredol a chynlluniedig.

·         Datgarboneiddio tai presennol.

·         Gwaith effeithlonrwydd ynni SATC.

·         Buddsoddiad effeithlonrwydd ynni SATC.

·         Gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

·         Manteision y Rhaglen Effeithlonrwydd Ynni.

·         Uwchraddio adeiladwaith allanol - rendro wedi'i inswleiddio.

·         Uwchraddio adeiladwaith allanol - effeithlonrwydd ynni

·         Datblygu polisi datgarboneiddio yn y dyfodol.

·         Cynigion Drafft Polisi Datgarboneiddio.

·         Targedau Datgarboneiddio.

·         Cynlluniau peilot datgarboneiddio.

·         Manyleb datgarboneiddio'r cynllun peilot.

·         Ôl-osod tai cyfan yn Ffordd Ellen i SATC.

·         Cynllun peilot Ôl-osod yn Ffordd Ellen – cyn ac ar ôl.

·         Cyflenwad a storfeydd adnewyddadwy.

·         Ôl-osod tai cyfan yn Lôn y Felin.

·         Ynni adnewyddadwy yn Lôn y Felin.

·         Strategaeth ôl-osod a datgarboneiddio fabwysiedig.

·         Cyfleoedd.

·         Heriau.

·         Risgiau.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau i'r swyddogion am eu hadroddiad cynhwysfawr. Nododd yr aelodau y bu gweithio trawsadrannol eithriadol o ran Safon Abertawe. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet fod SATC wedi creu buddsoddiad mawr o ychydig o dan hanner biliwn o bunnoedd mewn 13,500 o gartrefi cyngor, sydd hefyd yn gwella effeithlonrwydd ynni'n sylweddol. 

 

Yn ogystal â gwella sgiliau'r gweithlu, mae'r cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda cholegau lleol i gysoni’u cyrsiau â thechnolegau adnewyddadwy, sef swyddi'r dyfodol. 

 

Roedd gwaith datgarboneiddio'n her enfawr o hyd i'r cyngor o ran cyllid. Roedd amseru hefyd yn bwysig gan fod angen canolbwyntio'n hymdrechion ar ein buddsoddiad mewn cartrefi newydd ac oddeutu £350m mewn datgarboneiddio cartrefi sydd eisoes yn bodoli.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Ynni at ei rôl o fewn CLlLC wrth iddi gynrychioli Aelod y Cabinet dros Dai. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd Aelod y Cabinet a'r swyddogion:

 

·       Er na chynhelir unrhyw waith adeiladu Passivhaus pellach, teimlwyd bod y peilot wedi bod yn brosiect cychwynnol da ac o ganlyniad, gwnaed penderfyniadau i ddod o hyd i ddeunyddiau'n lleol, gan gefnogi busnesau bach a chanolig lleol. Yn ogystal, roedd caffael deunyddiau'n lleol (o fewn radiws o 15 milltir) yn lleihau'r ôl troed carbon. 

·      Gwnaed gwaith uwchraddio thermol a bydd gwaith ar ynni adnewyddadwy'n dechrau ar ôl 2025. Y nod oedd blaenoriaethu gweddill yr eiddo nad ydynt wedi'u huwchraddio. Wrth weithio ar yr eiddo hynny, bydd paneli PV a storio’n cael eu hintegreiddio. Rhoddir sylw i atebion gwresogi carbon isel yn ddiweddarach yn y rhaglen.

·       O ran pontio oer, mae'n rhaid i ni hefyd roi hyn ar y ciliau a'r pennau i gael gwared ar bontydd oer. Mae'r mesurau inswleiddio a roddwyd ar waith gennym yn gyson ac nid oes gwendid yn y deunydd inswleiddio a ddefnyddir.

·       Mae targed mewn rheoliadau adeiladu sy'n nodi sawl gwaith yr awr y mae angen newid yr aer. Nod ein Safon Abertawe yw gwella'r ffigur hwnnw.  Mewn perthynas â Pharc yr Helyg, cyflwynir manylion y ffigurau hynny i'r Pwyllgor maes o law. 

·       Nod aerglosrwydd yw lleihau drafftiau a all fynd i mewn i eiddo ac sy'n helpu gyda'r perfformiad thermol a faint o wres a gollir o bosib. O ran aerglosrwydd, cyfradd Passivhaus oedd 0.6, a chyfradd rheoliadau adeiladu safonol yw tua 10 a chyfradd ein Safon Abertawe yw tua 3.4/3.5, felly mae'r gwahaniaeth rhwng Passivhaus a Safon Abertawe yn fach iawn. 

·       Mae strategaeth Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar y stoc tai yng Nghymru gan ei bod yn teimlo bod ganddi fwy o reolaeth dros allu cyflwyno rhaglenni datgarboneiddio mewn tai cymdeithasol. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y gellir defnyddio'r rhaglenni a ddarparwn i annog y sector preifat wrth symud ymlaen felly rydym yn credu eu bod yn edrych ar darged o 2035 ar gyfer darparu tai sector preifat.

·       Mae Llywodraeth Cymru'n archwilio rheoliadau adeiladu mewn perthynas ag effeithlonrwydd thermol ar eiddo newydd. Mae cydbwysedd rhwng cost adeiladu a gwerth ailwerthu'n hanfodol.

·       Mae cynllun Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn aros o hyd am gymeradwyaeth fel prosiect Bargen Ddinesig ac felly nid oes llif arian o ran y prosiect hwn. Rhagwelir y byddai'r cytundeb busnes yn cael ei gymeradwyo yn ystod y 2-3 mis nesaf gan Lywodraeth Cymru a'r DU a byddai ein cynllun yn rhan o'r fargen honno.

·       Monitro offer y rhaglen a osodwyd yn Colliers Way 1, Colliers Way 2 a Pharc yr Helyg.  Fodd bynnag, nid oes ffigurau ar gael oherwydd yr aflonyddwch o ganlyniad i COVID. Bydd systemau newydd yn darparu ffordd fwy effeithiol o fonitro o bell. Bydd ffigurau ar gael pan fydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn gallu cael mynd i mewn i eiddo.

·       Er bod cydnabod y CRT yn gymhleth ac mae'r cynllun busnes yn gymhleth iawn, nid yw'n adlewyrchu unrhyw grantiau y gellir cael gafael arnynt yn y dyfodol. Bydd y cyngor yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol neu bydd ein blaenoriaethau'n cael eu rhannu rhwng cwblhau SATC a'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ac atgyweirio. Mae'n anghyfreithlon benthyca dros yr uchafswm ariannol a rhoi'r CRT mewn dyled. Mae'r cyngor yn ofalus wrth gadw lefel cronfeydd wrth gefn sy'n briodol.

·       O ran prentisiaethau, mae 17 wedi'u recriwtio eleni gyda chyfanswm o 76 ar draws pob disgyblaeth. Nid yw’r broses recriwtio wedi bod yn gysylltiedig ag adeiladu o ran SATC yn unig - mae hefyd yn gysylltiedig â'r rhaglen gyfalaf addysg. Er bod bwlch mewn sgiliau masnach yn bodoli, mae cynnydd yn cael ei wneud i 'ddatblygu' ein talent ein hunain. Yn ogystal â phrentisiaethau, mae'r cyngor, cymdeithasau tai a datblygwyr preifat yn cyflogi unigolion di-waith mewn cymunedau. Mae'r staff presennol wedi'u hyfforddi i sicrhau bod niferoedd priodol o staff i osod a chynnal a chadw'r offer yn yr eiddo hyn gan greu a chadw cynifer o'r swyddi hynny yn ardal Bae Abertawe.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am eu hadroddiad cynhwysfawr.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1.    Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a chadarnhaodd fod y cyd-destun polisi presennol yn parhau i fod yn briodol wrth i'r cyngor ddatblygu ei strategaeth datgarboneiddio o'i stoc tai.

 

30.

Cynllun Gwaith 2020 - 2022. pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynllun gwaith a gofynnodd am gynnwys eitem ychwanegol ynghylch gosod safleoedd bysus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd mai'r Comisiynydd Traffig oedd yn gyfrifol am osod safleoedd bysus ac nid yw hwn yn bolisi y gall y cyngor ei roi ar waith.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r cynllun gwaith.

2)    Ystyried Rheoli a Chynnal Mannau Agored (Polisi Bioamrywiaeth a Choed) yn y cyfarfod ar 22 Ebrill 2021.

3)    Y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn ystyried opsiynau o ran gosod safleoedd bysus.