Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Services - Tel: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd y
dylid cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac
Isadeiledd a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021, fel cofnod cywir yn amodol ar yr
ychwanegiadau canlynol: 1)
Ychwanegu
enw'r Cynghorydd A S Lewis, Aelod y Cabinet dros Ynni a Thrawsnewid
Gwasanaethau at y rhestr o fynychwyr; a 2)
Newid
y gwall teipograffyddol 'a nodwyd' i 'wedi'i leoli'. |
|
Rheoli a Chynnal a Chadw Mannau Agored (Bioamrywiaeth). PDF 167 KB Cofnodion: Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd
a Rheoli Isadeiledd at Bolisïau'r Cyngor sydd ar waith i reoli mannau agored ac
ymrwymiad y cyngor i fioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd. Manylodd ar y
materion sy'n gysylltiedig â dolydd blodau gwyllt, torri glaswellt a'r angen i
sicrhau ymgynghori/ymgysylltu â chymunedau er mwyn cael cyfaddawd a chadw at
fioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd. Rhoddodd y
Pennaeth Rheoli Gwastraff, gyda chymorth Swyddogion, grynodeb o'r arferion
cynnal a chadw presennol a chynigiodd feysydd i'w
hystyried ar sut y gallai'r cyngor reoli ei fannau gwyrdd yn wahanol er mwyn
cyflawni'r flaenoriaeth gorfforaethol o gynnal a gwella adnoddau naturiol a
bioamrywiaeth Abertawe - fel ein bod yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth, yn
lleihau ein hôl troed carbon, yn gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'n
hamgylchedd naturiol ac yn sicrhau budd i iechyd a lles. Nododd yr
Aelodau'r cwmpas, ymylon ffyrdd, ardaloedd glaswelltog eraill a mannau
amwynder, meysydd posib i'w hystyried o ran adolygu a materion cyffredinol. Cyfeiriodd at wall
teipograffyddol yn rhif 4.2 o'r adroddiad sy'n cyfeirio at dorri ardaloedd
amwynder 2 waith y flwyddyn. Mae'r
ardaloedd hyn yn cael eu torri hyd at 14 gwaith y flwyddyn. Roedd
trafodaethau'r Aelodau'n canolbwyntio ar: 1)
Ymylon
glaswellt ar ochr y ffordd a'r angen i yrwyr fod yn ymwybodol o'u gweithredoedd
wrth barcio cerbydau. 2)
Glaswellt
hir ar fanciau/llethrau sy'n denu sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw cŵn. 3)
Cynnwys
ysgolion mewn unrhyw ymgynghoriad. 4)
Argymhellion
yr Adolygiad o Ymchwiliad yr Amgylchedd Naturiol (a gynhaliwyd yn 2019). 5)
Ymwybyddiaeth
o Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (2016) a'r dyletswyddau y mae'n eu gosod ar y
cyngor. 6)
Sicrhau
yr ymgynghorir â phob grŵp (Plantlife, Buglife a'r RSBP). 7)
Mathau
o gymysgeddau hadau blynyddol a'r defnydd o dyweirch blodau gwyllt. 8)
Eiddo
lleol sy'n cymryd drosodd ymylon a rôl y sefydliadau sy'n cynnal cylchfannau'r cyngor. 9)
Cymorth
ar gyfer y cynllun peilot cerbydau torri a chasglu. 10) Yr angen i sicrhau'r gwahaniaeth barn yn y
gymuned ynghylch rheoli mannau agored. Cyfeiriodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth at ymgynghori/ymgysylltu â
sefydliadau fel Plantlife, Buglife
a'r RSPB, ynghyd â'r etholwyr. Roedd yr
angen i gynnal cydbwysedd o fewn ein parciau o ran galluogi cyfranogiad mewn
chwaraeon wrth ystyried materion bioamrywiaeth yn hollbwysig. Cyfeiriodd at
ddatblygu cynllun gweithredu a chynnwys Llywodraeth Cymru wrth gefnogi'r
mentrau hyn drwy gyllid grant. Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol: a)
Mae
angen ystyried defnyddio cymysgeddau lluosflwydd a thyweirch blodau gwyllt. b)
Byddai
angen ymgynghori â chydweithwyr yn yr adrannau Priffyrdd a Chynllunio ynghylch
cyfreithlondeb aelwydydd sy'n cymryd drosodd ymylon glaswellt. c)
Roedd
difrod cerbydau i ymylon yn fater priffyrdd a byddai angen ystyried pob safle
yn ôl ei haeddiant. ch) Mae
caniatáu i laswellt dyfu'n rhydd yn golygu bod angen casglu sbwriel ac mae planhigion dreiniog yn peri problem. d)
Mae
ymgysylltu ag ysgolion yn ystyriaeth gadarnhaol gan eu bod yn fwy diogel o ran
dylanwadau allanol. dd) Er
bod ymgynghori â sefydliadau a phreswylwyr lleol yn hollbwysig, mae gofynion
statudol yn aml yn gwrthdaro â'r hyn y byddai orau gan y rhan fwyaf o
breswylwyr. e)
Mae
angen i'r cyhoedd fod yn fwy ymwybodol o fentrau, e.e., coridor pryfed
peillio'r Mwmbwls i Fargam. f)
Wrth
archwilio ardaloedd bach o awdurdod lle byddem yn gadael rheoli glaswellt fel y
mae, ac ardaloedd lle byddem yn ei newid, byddai angen ei gyflwyno mewn modd
rheoledig. Yn y pen draw, mae angen i
benderfyniadau fod yn weithredol hylaw ac yn fforddiadwy. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD: 1)
y
bydd cwmpas yr adolygiad hwn yn cael ei gyfyngu i ddechrau i gynnal ardaloedd
glaswelltog. 2)
y
bydd Timau Gweithrediadau Parciau a Chadwraeth Natur yn cysylltu â Plantlife a sefydliadau perthnasol eraill mewn perthynas ag
adolygiad o drefn cynnal mannau gwyrdd y cyngor. 3)
y
bydd adroddiad pellach yn cael ei ddwyn yn ôl i'r PDP maes o law yn nodi'r
cyd-destun polisi arfaethedig yn y dyfodol cyn gofyn am gymeradwyaeth gan y
Cabinet. 4)
y
trefnir gweithdy i bennu dull cydgysylltiedig ac
effeithiol o ymgynghori er mwyn sicrhau parhad.
|
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2022. PDF 197 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith. Nodwyd y
byddai Dyddiadur y Cyngor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022 yn cael ei
ystyried yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ar 20 Mai 2021. Dywedodd y
Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfarfod cyntaf Pwyllgor Datblygu
Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 17
Mehefin 2021. Penderfynwyd : 1)
y
byddai'r Adroddiad Blynyddol yn cael ei ystyried yng nghyfarfod cyntaf y
Flwyddyn Ddinesig. 2)
y
byddai'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022 yn cael ei gyflwyno i'w ystyried. |