Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services - tel: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw gysylltiad personol â chofnod 24, "Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd".

 

23.

Cofnodion: pdf eicon PDF 314 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi, yr Amgylchedd ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

 

24.

Cynllun Gweithredu Adfer Economaidd. pdf eicon PDF 462 KB

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Adferiad Economaidd y cyngor gyda chymorth y Rheolwr Datblygu Economaidd ac Ariannu Allanol.

 

Nododd yr aelodau effaith pandemig COVID-19 a'r rhagolwg adferiad economaidd, yn benodol adroddiad UK Economy Beyond Coronavirus: UK Powerhouse a gyhoeddwyd gan Irwin Mitchell a'r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes ar ddiwedd mis Tachwedd 2020, a oedd yn nodi Abertawe fel y chweched ddinas orau o ran twf cyflogaeth yn 2021, a rhagwelir twf 8.1% flwyddyn ar ôl blwyddyn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Roedd y prif brosiectau strategol megis camau 1 a 2 Bae Copr, 71-72 Ffordd y Brenin, gwaith adfywio Gwaith Copr yr Hafod ac adfer Theatr y Palace wedi datblygu'n gyflym er gwaethaf y pandemig.  Roeddent yn darparu arwyddion gweladwy o hyder yn y ddinas, gan godi proffil Abertawe fel lleoliad busnes ac ar ôl eu cwblhau byddent yn  creu cyfleoedd cyflogaeth a thwf economaidd.

 

Roedd cyllid drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn galluogi adeiladau gwag, megis adeilad Kings yng nghanol y ddinas ac Eglwys Sant Ioan yn Nhreforys, i gael eu defnyddio unwaith eto i ddarparu arwynebedd llawr masnachol a chartrefi newydd, a byddai cynllun ail-lunio Wind Street yn creu amgylchedd sy'n ystyriol o deuluoedd ac o ansawdd uchel, a byddai'n gwneud y stryd yn fwy deniadol i fusnesau sy'n dymuno masnachu yn yr awyr agored.   

 

Roedd y cyngor yn parhau i gefnogi cymunedau gwledig a'r diwydiant pysgota lleol drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig a Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe yn eu trefn. Trwy Gyllido Torfol Abertawe, gall sefydliadau cymunedol sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol newydd, gydag 11 cynllun eisoes yn cyrraedd eu nod ariannu yn ystod rowndiau 1 a 2, sy'n golygu bod gwerth £112,837 o brosiectau ar waith. Mae grwpiau cymunedol a thrigolion lleol bellach wedi cael eu gwahodd i gyflwyno'u syniadau ar gyfer y 3edd rownd ariannu.

 

Mae prosiectau cyflogadwyedd lleol fel Gweithffyrdd+, Cymunedau am Waith, prosiect Di-waith yn y Tymor Byr Abertawe, Cam Nesa a Chymunedau am Waith a Mwy yn parhau i gefnogi pobl leol i oresgyn eu rhwystrau i gyflogaeth a hyfforddiant. Yn ogystal, mae menter y Tu Hwnt i Frics a Morter y cyngor wedi parhau i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol, gyda bron i 3,000 o wythnosau recriwtio a hyfforddiant wedi'u targedu wedi'u cyflawni ers mis Ebrill 2020.

 

Mae'r Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd yn cyfeirio'n benodol at y gefnogaeth i'r sectorau Twristiaeth, Hamdden, Digwyddiadau a Lletygarwch - sectorau a oedd wedi'u taro caletaf, sef y busnesau cyntaf i gau ac yn bendant rhai o’r busnesau olaf i agor wrth osod a chodi cyfyngiadau yn 2020/21. Roedd y sector lletygarwch yn unig yn cyflogi miloedd yn lleol - yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.  Roedd dychwelyd i fusnes cyn gynted â phosib yn hanfodol i'r sectorau hyn.  

 

Mae'r Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd yn nodi'r camau ychwanegol yr oedd Partneriaeth Adfywio Abertawe wedi'u nodi yr oedd angen eu cymryd i gefnogi busnesau ac unigolion a gwella cydnerthedd yr economi leol yng ngoleuni'r pandemig. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn ategu'r rhaglenni a'r prosiectau a oedd eisoes ar y gweill cyn COVID-19, ac mae'n defnyddio cyllid ac adnoddau gan Gyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Mae'r Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd yn ehangu ar Gynllun Adfer COVID ehangach y cyngor.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Adferiad Economaidd diwethaf i'r Pwyllgor Datblygu Polisi ym mis Tachwedd 2020 ac mae'r gwaith o gyflawni'r cynllun wedi parhau ers hynny. Mae'r cynnydd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Dyrannwyd dros £1m o gyllid grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol drwy'r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored i gefnogi busnesau lleol i addasu i ofynion cadw pellter cymdeithasol.

·         Parhawyd i ddyrannu cymorth ariannol COVID-19 Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol drwy gynlluniau fel grant dewisol y cyfnod atal byr, grantiau dan gyfyngiadau, grantiau i weithwyr llawrydd y sector diwylliannol a grantiau sefydlu busnes.

·         Recriwtiwyd swyddogion datblygu busnes newydd i ddarparu gwasanaeth sefydlu busnes a menter newydd

·         Lansiwyd ymgyrch Siopa'n Lleol yn Abertawe ym mis Tachwedd, a chynllunnir rhagor o waith hyrwyddo pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio

·         Cymeradwywyd cais Kickstart gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Sefydlwyd lleoliadau gwaith mewnol ac allanol ac mae'r cynllun yn fyw.

·         Cadarnhawyd y gyllideb gychwynnol ar gyfer bwrsariaethau cychwyn busnes bach i gefnogi dechrau busnes/hunangyflogaeth

·         Comisiynwyd y gwaith o baratoi Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd ar gyfer de-orllewin Cymru i ategu Fframwaith Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru sy'n cael ei lunio gan Lywodraeth Cymru.

·         Rydym yn parhau i gefnogi'r sectorau twristiaeth a diwylliannol drwy ymgysylltu â'n cwsmeriaid a chefnogi busnesau. Byddwn yn parhau i gysylltu ag adrannau eraill i helpu i ledaenu grantiau ar draws pob sector.  

 

Nododd yr aelodau fod y Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd yn parhau i esblygu i ymateb i amgylchiadau economaidd newidiol. Darparwyd copi llawn o'r ddogfen waith ddiweddaraf yn Atodiad A.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, nododd swyddogion y canlynol:

 

1)      Ar hyn o bryd mae darpariaeth sylweddol ar waith gyda mentrau fel Y Tu Hwnt i Frics a Morter a rhaglen Kickstart ar gyfer prentisiaethau a chyfleoedd gwaith newydd. Cynigiodd y rhaglen Kickstart 100 o leoliadau ar draws y sector preifat gyda chyflogwyr lleol a sicrhaodd y cais cychwynnol 69 o leoliadau.  Cyflwynir ceisiadau am 22 lleoliad arall.  Archwilir hefyd leoliadau mewnol yn y cyngor sydd wedi'u targedu at bobl ifanc 16-24 oed.  Mae mentrau eraill yn cynnwys Cymunedau am Waith a Bwrsariaethau Busnesau Newydd. Bydd creu swyddi datblygu busnes o fewn y cyngor yn cefnogi'r broses hon.  Cynhelir trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar lefel ranbarthol ynghylch ffyrdd eraill y gallwn weithredu dulliau pellach yn ystod y misoedd nesaf i gael rhagor o gymorth wrth ddechrau busnes.

 

2)      Caiff cynnydd ei fonitro mewn perthynas â gweithio’n rhanbarthol gyda phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth a fframwaith strategol ar gyfer y rhanbarth. Bydd y cynllun cyflawni’n sail i hynny, sy'n cynnwys fframwaith monitro a mesurau perfformiad.  Bydd hyn ar ffurf fersiwn strategol o'r cynllun gweithredu a fydd yn gofyn am hyblygrwydd i ymateb i heriau.

 

3)      Trawsnewid trefi yw ffocws Rhaglenni Adfywio Llywodraeth Cymru bellach. Mae sawl menter yn cwmpasu hynny, megis y Gronfa Benthyciadau Canol Trefi sy'n fenthyciad dim llog. Mae mentrau eraill yn cynnwys y Grant Datblygu a Gwella Eiddo a'r Grant Byw Cynaliadwy, er mwyn defnyddio lle masnachol newydd uwchben siopau fel llety.  Ychwanegwyd cronfa arian ar wahân oherwydd tanwariant rhanbarthol i helpu i greu'r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored o fewn y Grant Gwella Eiddo. Mae'r ddau yn grantiau ar wahân gyda chyllidebau gwahanol.  Sicrhawyd £5m arall ar gyfer Benthyciadau Canol Trefi ar gyfer y sector preifat, sydd wedi'i leoli yng nghanol y ddinas yn bennaf. Fodd bynnag, rhoddwyd caniatâd i fynd y tu allan i ganol y ddinas gyda’r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored a oedd wedi bod o fudd i 230 o fusnesau.

 

4)      Mae'r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored bellach ar gau, ond mae'r cyngor wedi cyfuno cyfartaledd o £1.2 miliwn i £1.4 miliwn, sef tua £600 fesul dyraniad. Mae pob llythyr dyfarnu wedi'i anfon ac mae busnesau'n cyflwyno hawliadau. Rhagwelir y cyflwynir y cynllun newydd, a fydd yn galluogi'r cyngor i ailgychwyn y cynllun yn y flwyddyn ariannol, o 1 Ebrill.  Bydd grantiau nas cymerwyd yn mynd yn ôl i'r Grant Gwella Eiddo. Mae'r cyngor bob amser yn gorymrwymo fel y gellir manteisio i'r eithaf ar y grantiau er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu. Caniateir i Gynghorau Cymuned wneud ceisiadau ar ran busnesau.

 

5)      Mae'r fenter Kickstart yn cynnig cyllid tymor byr ar gyfer lleoliadau swydd 6 mis.   Fodd bynnag, ceir rhagor o gyfleoedd i ailymgeisio.

 

6)      Roedd adroddiad UK Powerhouse, a gyhoeddwyd gan Irwin Mitchell a'r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes, yn rhagweld y bydd economi Abertawe'n tyfu 8.1% o ran swyddi ac adferiad yn rhan olaf 2021.  Rhestrwyd Abertawe fel y chweched ddinas orau o ran twf cyflogaeth yn y rhagolwg hwn.  Er bod hwn yn rhagolwg dymunol, gall amgylchiadau newid er y gorau neu’r gwaethaf. Mae'n bosib bod y dadansoddiad wedi cynnwys bod gan Abertawe gynrychiolaeth gref o 37% o'r economi sy'n deillio o'r sector cyhoeddus, sydd wedi darparu cadernid yn ystod argyfwng COVID. Ar ben hynny, y sector gwasanaethau sy'n dominyddu'r economi. Gall canran is Abertawe o swyddi gweithgynhyrchu na rhannau eraill o'r DU ddiogelu rhag goblygiadau Brexit o ran anawsterau gydag allforion. Mae amrywiaeth eang o faterion y gellid bod wedi'u mesur wrth lunio'r rhagolwg hwn, yn enwedig rhaglen adfywio Abertawe, yn benodol y buddsoddiad yn y Fargen Ddinesig. Yn ogystal, mae Abertawe'n llwyddiannus yn sectorau'r Brifysgol a TG, ac mae cynnal swyddi drwy'r Cynllun Grantiau Awyr Agored wedi bod yn hollbwysig o ran sicrhau bod busnesau'n gallu cadw staff.  

 

7)      Mae unigolion ar ffyrlo neu sy'n dychwelyd o ffyrlo'n dal i gael eu dosbarthu fel rhai a gyflogir.

 

8)      Mae datblygu gwledig yn cael ei archwilio.

 

9)      O ran elfen algorithm y Nodau Twristiaeth, bydd swyddogion yn casglu rhagor o wybodaeth ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.  

 

10)   Mae canolfannau siopa masnachol yn cael eu treialu (yn Nhreforys ac i raddau llai yng Nghlydach). Defnyddir y data a gesglir o gynllun peilot Treforys fel prosiect cwmpasu gyda'r bwriad o ddatblygu cynllun gweithredu ehangach ar gyfer ardaloedd eraill. 

 

11)   Mae 'Rhandiroedd yn Abertawe' bellach yn gyfrifol am reoli rhandiroedd yn Abertawe.

 

12)   Bydd swyddogion yn rhoi ystyriaeth briodol i argymhellion y Panel Craffu ar Dwristiaeth (a wnaed tua 18 mis yn ôl) ynghylch eco-dwristiaeth o ran datblygiadau o fewn y Diwydiant Twristiaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth.  Nodwyd y byddai'r Cynllun Adferiad Economaidd yn cael ei ystyried gan y Cabinet o fewn y mis nesaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)      y dylid nodi'r adroddiad.

2)      Cyflwynir adroddiad diweddaru pellach i'r Pwyllgor ym mis Mai/Mehefin 2021.

3)      Bydd yr adroddiad yn cynnwys manylion nifer y sefydliadau sy'n elwa o gyllid a ddyrannir o grantiau mewn perthynas â'r grant Trawsnewid Trefi a'r Grant Datblygu a Gwella Eiddo a manylion yr algorithm twristiaeth.

 

25.

Beth all y Cyngor ei wneud i annog mwy o siopau a chefnogi Adfywio'r Stryd Fawr? pdf eicon PDF 232 KB

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i annog mwy o siopau a chefnogi Adfywio'r Stryd Fawr gyda chymorth y Rheolwr Datblygu Economaidd ac Ariannu Allanol.

 

Manylwyd ar darddiad hanesyddol Stryd Fawr Abertawe ynghyd â'r modelau busnes newidiol sydd wedi cael effaith ar yr ardal.

 

Mae'r Cynllun Adferiad Economaidd yn nodi'r ystod o fentrau sy'n ffurfio'r pecyn ehangach o gymorth y mae ei angen ar gyfer strydoedd manwerthu craidd canol y ddinas a'r parthau ategol fel y Stryd Fawr. Mae hyn yr un mor berthnasol i strydoedd mawr ein hardaloedd. Ar gyfer Stryd Fawr Abertawe, mae amrywiaeth o raglenni eisoes yn cael eu gweithredu drwy becyn mesurau Trawsnewid Trefi, gan gynnwys grant gwella eiddo ar gyfer lle masnachol newydd a chyllid 'Cartrefi Uwchben Siopau' i ryddhau lloriau uchaf gwag ar gyfer tai'r farchnad. Theatr y Palace, yn unol â Fframwaith Adfywio Ardal Ganolog Abertawe, yw'r adeilad a oedd yn gatalydd ar gyfer rhan uchaf y Stryd Fawr, wrth i'r gwaith adnewyddu bellach gael ei hysbysebu. Mae'r ystod o fesurau sydd ar y gweill yn helaeth, ac maent wedi’u nodi'n fanwl gydag amserlenni yn y Cynllun Adferiad Economaidd. Mae detholiad o'r rhain sy'n berthnasol i gwestiwn y Stryd Fawr yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cefnogi busnesau i addasu i fasnachu yn yr awyr agored/cadw pellter cymdeithasol drwy ddarparu Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored Trawsnewid Trefi (TT) mewn dinasoedd a chanolfannau ardal.

·         Archwilio'r potensial ar gyfer gweithgarwch dros dro (sy'n gysylltiedig â bwyd, sinema, digwyddiadau diwylliannol etc.) yng nghanol dinasoedd ac ardaloedd ger y traeth.

·         Archwilio'r potensial ar gyfer chwilio am le gwag dan do (manwerthu, hamdden, masnachol) i'w ddefnyddio yn y cyfamser i gefnogi twf a chynaliadwyedd busnesau newydd a phresennol.

·         Cyflymu'r buddsoddiad mewn cyfleoedd byw mewn eiddo preifat a rentir/eiddo preifat yng nghanol y ddinas

·         Gweinyddu grantiau cymorth ariannol COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau lleol.

·         Gwasanaeth cychwyn busnesau a menter aml-ganolbwynt.

·         Grantiau busnes ar raddfa fach (cyfalaf a refeniw) i gefnogi dechrau busnesau newydd.

·         Ymgyrch Siopa'n Lleol yn Abertawe i gefnogi busnesau lleol.

·         Darparu safleoedd busnes hyblyg, rhad (swyddfa, manwerthu, hamdden) ar delerau mynediad hawdd i'w gwneud yn haws i ddechrau busnes newydd.

·         Parhau i ddarparu arwynebedd llawr a mannau cydweithio modern a hyblyg i letya busnesau newydd sy'n tyfu.

·         Datblygu cysyniad canolfan leol.

·         Cynyddu'r cymorth ar gyfer sefydlu a datblygu busnes.

·         Unedau cadw bwyd ar gyfer busnesau newydd. 

·         Pecyn cymorth llwybr busnes – adnoddau ar-lein.

·         Ymestyn ac addasu darpariaeth cyflogadwyedd i barhau i gefnogi cleientiaid, gan gynnwys y rheini sydd newydd golli eu swyddi.

·         Defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur a busnes a gafwyd drwy gyflwyno rhaglenni, rhwydweithiau a swyddogaethau datblygu busnes i nodi tueddiadau swyddi gwag ac anghenion sgiliau i helpu i lywio'r broses o ddarparu gwasanaethau a chreu llwybrau gyrfa.

·         Adnodd pwrpasol i gefnogi hunangyflogaeth/entrepreneuriaeth.

·         Sefydlu bwrsariaethau cychwyn busnesau bach i gefnogi dechrau busnesau/hunangyflogaeth.

·         Hyrwyddo buddsoddiad mewn isadeiledd gwyrdd drwy gyflawni'r cynlluniau Isadeiledd Gwyrdd peilot.

 

Mae camau gweithredu'r Cynllun Adferiad ar y gweill ac yn cael eu cyflawni, gan addasu wrth i ni ddysgu mwy am dueddiadau a gofynion sy'n dod i'r amlwg. Mae pwyntiau allweddol sy'n arbennig o berthnasol o ran adfywio'r Stryd Fawr yn cynnwys y canlynol:

 

·                Arian grant a ddyrannir i fusnesau lleol drwy'r Grant i Addasu Mangre ar gyfer yr Awyr Agored, i gefnogi busnesau lleol i addasu i ofynion cadw pellter cymdeithasol.

·                Parhau i ddyrannu cymorth ariannol COVID-19 Llywodraeth Cymru i fusnesau lleol drwy gynlluniau fel grant dewisol y cyfnod atal byr, grantiau dan gyfyngiadau, grantiau i weithwyr llawrydd y sector diwylliannol a grantiau sefydlu busnes.

·                Recriwtio swyddogion datblygu busnes newydd i ddarparu gwasanaeth sefydlu busnes a menter newydd.

·                Lansio ymgyrch Siopa'n Lleol yn Abertawe ym mis Tachwedd, a chynllunnir rhagor o waith hyrwyddo pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

·                Cymeradwyo cais Kickstart gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Sefydlwyd lleoliadau gwaith mewnol ac allanol ac mae'r cynllun yn fyw.

·                Cadarnhau'r gyllideb gychwynnol ar gyfer bwrsariaethau cychwyn busnes bach i gefnogi dechrau busnes/hunangyflogaeth.

 

Mae cynigion Canolfan Gymunedol Dyfaty ynghylch yr unedau siopau gwag yn darparu cyfle gwych i leoli a phrofi'r dulliau hyn, gan weithio'n agos gyda'r holl wasanaethau cymorth perthnasol. Bydd hefyd yn rhoi cyfle gwirioneddol i weithredu fel galluogwyr i roi’r offer y mae eu hangen ar bobl leol i gryfhau'r gymuned a chreu cyfleoedd cadarnhaol i ficro-fusnesau. Yr hyn sy’n bwysig yw integreiddio'r gweithgareddau hyn – nid oes gan unrhyw un sector na maes gwaith yr holl atebion, ond mae'r cyfle i greu amgylchedd cadarnhaol a chost-effeithiol i alluogi pobl i wireddu eu dyfodol eu hunain yn wirionedd, gyda phecyn cyfannol o gymorth ar gael ar yr adeg gywir.

 

Fel yr amlinellir uchod, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gynnydd cadarnhaol fel rhan o'r adferiad cyffredinol a sut y gall y camau hyn helpu'n benodol i adfywio'r Stryd Fawr.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, nododd y swyddog y canlynol:

 

1)       Mae adfywio rhan uchaf y Stryd Fawr (yn enwedig Dyfaty) yn cynnwys mewnbynnau gan yr Adran Dai.  Bydd swyddogion yn cynnwys rhagor o fanylion am ddatblygu gwaith mewn adroddiad diweddaru pellach i'r Pwyllgor.

2)       Gall y cyngor ddylanwadu ar y rhaglen drwy gysylltu â busnesau sydd â blaenau siop gwael. Mae'r peilot a gynhelir yn Nhreforys yn rhoi syniad o gostau, pa ddeunyddiau sy'n briodol, faint maen nhw'n eu costio, gwerth am arian, etc.  Cydnabyddir pan fydd arian yn dynn, efallai na fydd busnesau'n ystyried blaenau siopau fel prif flaenoriaeth.  Fodd bynnag, gellir defnyddio grantiau gwella eiddo ochr yn ochr â'r benthyciadau canol tref, sydd o fudd i fusnesau.   Rhaid nodi bod pob eiddo yn unigryw a bod ganddo hunaniaeth unigryw, ond mae'r cyngor yn canolbwyntio ar ansawdd y deunyddiau, cysondeb a safonau dylunio.   

3)       Mae materion sy'n ymwneud ag ymgysylltu â pherchennog yn codi pan fydd trydydd parti'n berchen ar eiddo ac nad oes ganddo berthynas ag Abertawe.  Fodd bynnag, mae gan y cyngor bŵer mynediad, ond rhaid cyfiawnhau hyn.   Mae'r cyngor eisoes wedi gweithio gyda BID i ryngweithio â'r perchnogion hynny nad ydynt yn ymgysylltu.  Mae mentrau wedi cynnwys gosod finyl ar ffenestri a deunyddiau 'yn y cyfamser' a fydd yn helpu gydag ardrethi busnes.  Mae hyfforddiant Llywodraeth Cymru wedi ein helpu i archwilio opsiynau a allai ceisio gorfodi perchnogion i ddefnyddio pwerau fel gorchmynion prynu gorfodol (er bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel dewis olaf) lle mae'r eiddo'n effeithio ar y strydlun.  Mae angen i'r cyngor archwilio'r pwerau hyn gyda'r bwriad o'u defnyddio yn y dyfodol. Dangosodd ddadansoddiad o berchnogaeth y Stryd Fawr fod nifer bach o eiddo yn y categori hwn. Mae gan y mwyafrif gynlluniau ar gyfer adnewyddu ac ailddefnyddio neu ddymchwel i'w datblygu. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad addysgol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    y dylid nodi'r adroddiad.

2)       Cyflwynir adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor ym mis Mai/Mehefin 2021 gyda’r Cynllun Adferiad Economaidd.

 

26.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 197 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd y cynllun gwaith.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y dylid nodi'r cynllun gwaith.

2)    Ystyried mwy o dai Rhagor o Gartrefi a Strategaeth Dat-garboneiddio yn y cyfarfod ar 18 Mawrth, 2021.