Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 213 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

16.

Strategaeth Seilwaith Gwyrdd. pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd D H Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau, Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd a Penny Gruffydd, Swyddog Polisi Cynaliadwy adroddiad y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y pwyllgor cyn ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror 2021.

 

Amlinellwyd y cynlluniwyd y strategaeth i gefnogi Rhwydwaith Isadeiledd Gwyrdd Strategol Polisi ER 2 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar Isadeiledd Gwyrdd sy'n cael eu datblygu  Cyfrannodd y strategaeth at ddyletswyddau'r cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a bydd yn cefnogi'r defnydd o Safon SDCau (Systemau Draenio Cynaliadwy) Statudol 2019. Roedd hefyd yn cyflawni un o'r camau yn amcan llesiant y Cyngor: Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe ac amcan Gweithio gyda Natur Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

Ychwanegwyd bod y broses o lunio'r strategaeth yn cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid perthnasol y cyngor o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, preswylwyr, ymwelwyr a defnyddwyr Ardal Ganolog Abertawe wrth ddatblygu'r strategaeth ddrafft, ac yna ymgynghoriad 5 wythnos ar y strategaeth ddrafft.

 

 Roedd yr adroddiad yn nodi sut yr oedd Adran Amgylchedd Naturiol y cyngor yn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Green Infrastructure Consultancy i ddatblygu Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ddrafft ar gyfer Ardal Ganolog Abertawe; Ardal Ganolog Abertawe – Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt, a gynhwyswyd yn Atodiad A.  Cynlluniwyd y strategaeth i wireddu nodau isadeiledd gwyrdd Fframwaith Adfywio Ardal Ganolog Abertawe a sicrhau bod canol y ddinas yn elwa ar welliannau isadeiledd gwyrdd a gynlluniwyd yn strategol wrth gynllunio datblygiadau newydd ac adnewyddu adeiladau a mannau cyhoeddus sy'n bodoli eisoes.

 

Roedd y strategaeth yn nodi manteision a chost-effeithiolrwydd isadeiledd gwyrdd, a fyddai'n galluogi'r cyngor a rhanddeiliaid i gymryd ymagwedd wybodus a chydlynol tuag at sicrhau'r manteision mwyaf posib, a  magu hyder buddsoddwr mewn isadeiledd gwyrdd yng nghanol y ddinas.

 

Rhoddodd yr adroddiad fanylion am ddatblygiad y  strategaeth, gan gynnwys gweledigaeth y strategaeth a sut y byddai'r cyngor yn defnyddio'r strategaeth yn gorfforaethol.  Cafodd holl sylwadau a chamau gweithredu'r arolygon cyhoeddus, e-byst, sesiynau ysgol a llyfrgell eu crynhoi yn Atodiad B.  Amlinellwyd yr egwyddor datblygu cynaliadwy a'r ffyrdd o weithio a fu'n ganolog i ddatblygiad y strategaeth hon ers ei syniadaeth, yn Atodiad C.    

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Gweithio mewn partneriaeth mewn ffordd gadarnhaol iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gynhyrchu'r strategaeth ragorol;

·         Pwysigrwydd gwella ansawdd aer o fewn y Sir hefyd;

·         Canolbwyntio'r strategaeth bresennol ar ganol y ddinas, 'prynu i mewn' gan ddatblygwyr a datblygu'r strategaeth ledled y Sir fel rhan o broses tri chyfnod;

·         Oedi a achoswyd gan bandemig COVID-19;

·         Cyllido'r prosiect yn y dyfodol;

·         Gweledigaeth y strategaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth fod y Cabinet yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau adfywio ac ychwanegodd fod llawer o ddiddordeb wedi'i greu gan y strategaeth, a gefnogwyd yn eang.

 

Penderfynwyd cytuno ar y strategaeth a'i hanfon ymlaen i'r Cabinet i'w mabwysiadu ym mis Chwefror 2021.

 

17.

Cynllun Gwaith 2020/2021. pdf eicon PDF 379 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad y cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2020-2021.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Lleoedd sylw at agwedd drafnidiaeth y cynllun adfer o COVID-19, i'w thrafod ym mis Ionawr 2021. Cyfeiriodd at y nod o sut y gellid diwygio a gwella polisi'r cyngor i gefnogi'r gwaith o gyflawni nod y cyngor i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030, o fewn gwasanaethau a gweithrediadau'r cyngor. 

 

Ychwanegodd fod hyn yn eang ei gwmpas ac y byddai'n caniatáu i'r pwyllgor gyfrannu at yr adroddiad, a fyddai'n fframwaith trafod.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.