Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

40.

Cofnodion. pdf eicon PDF 210 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

 

41.

Trosolwg o Gynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Lleoedd drosolwg o'r pynciau a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2019/2020.

 

·         Isadeiledd Gwyrdd.

·         Economi Abertawe (Twristiaeth).

·         Strategaeth Coridor yr Afon

·         Economi Abertawe (Goblygiadau Brexit)

·         Eiddo gwag ar y Stryd Fawr.

·         Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

·         Presenoldeb yr Arweinydd.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a ymatebodd yn briodol.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Ddatblygu ac Adfywio at waith sy'n cael ei wneud mewn perthynas ag ymestyn tymor Twristiaeth Abertawe er mwyn helpu gydag effaith negyddol COVID-19.

 

Cyfeiriwyd at ymchwiliad craffu ynghylch goblygiadau Brexit.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai adroddiad yn cael ei ystyried gan yr Aelod Cabinet perthnasol yn y lle cyntaf.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd a'r gwahanol gysylltiadau ag agweddau eraill ar bolisi'r cyngor (e.e. Strategaeth Tegwch Gwyrdd).

Penderfynwyd:

 

1.    Y byddai'r Cyfarwyddwr Isadeiledd Gwyrdd yn penderfynu a allai'r Pwyllgor ystyried hyn cyn i'r Pwyllgor Cynllunio ei ystyried.

2.    Y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn ystyried effeithiau COVID-19 ar Dwristiaeth Abertawe ac yn paratoi diweddariad ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

42.

Cynllun Gwaith 2019/2020.

Cofnodion:

42          Cynllun Gwaith 2020/2021

 

Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y Cynllun Gwaith.

 

Penderfynwyd y dylai'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2020/2021 gynnwys y canlynol:

 

15 Hydref 2020

1.    Amnest ar Wastraff (Diweddariad)

2.    Teithio Llesol.

3.    Strategaeth Toiledau Leol (Dolen i'w dosbarthu i'r Aelodau)

19 Tachwedd 2020

 

17 Rhagfyr 2020

 

21 Ionawr 2021

 

18 Chwefror 2021

 

18 Mawrth 2021

 

22 Ebrill 2021

 

I’w drefnu

1)    Goblygiadau COVID-19 ar Dwristiaeth Abertawe.

2)    Goblygiadau Brexit.

3)    Eiddo gwag ar y Stryd Fawr.

4)    Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.