Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)    Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod - Ymateb Aelod y Cabinet mewn perthynas ag Adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu (Twristiaeth).  Rwyf yn Gadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Abertawe.

 

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 236 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

 

31.

Ymateb Aelodau'r Cabinet Mewn Perthynas ag adroddiad Panel yr ymchwiliad craffu (Twristiaeth). pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod yr eitem wedi'i chynnwys er gwybodaeth yn unig gan yr ymdriniwyd â'r eitem hon eisoes gan y panel craffu a'r Cabinet. Yn ogystal, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Lleoedd nad oedd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth yn bresennol yn y cyfarfod am ei fod ar wyliau.

 

 

Roedd cwestiynau/sylwadau aelodau'n cynnwys:

 

1)    Ystyried y Cynllun Rheoli Cyrchfannau wedi 2020.

2)    Gofyn i'r Cabinet ailystyried yr argymhellion a wrthodwyd yn flaenorol o ystyried y setliad cyllidebol gwell.

3)    Cyfrifoldeb hyrwyddwyr mewn perthynas â gosod arwyddion a chlirio'r safle'n effeithiol ar ôl digwyddiad.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyflwyno adroddiad diweddaredig mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch cyfrifoldebau hyrwyddwyr yn dilyn digwyddiad.

2)    Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ynghylch ailystyried yr argymhellion a wrthodwyd, a datblygiad Cynllun Rheoli Cyrchfannau 2017-2020.

 

32.

Adborth o ymweliad safle â chartrefi fel gorsafoedd pwer.

Cofnodion:

Dywedodd aelodau fod yr ymweliad yn gynhyrchiol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod:

 

1)    Y prosiect yn parhau i fod yn waith ar y gweill.

2)    Caiff costau cyfalaf eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

3)    Pe bai aelodau'n dymuno, gellir hwyluso ymweliadau safle â chynghorau eraill.

4)    Awgrymir rhoi 15-20mil o arian y Fargen Ddinesig i bob uned, er ni chytunwyd ar hyn yn swyddogol.

5)    Mae'r PDP Cydraddoldebau a Chenedlaethau'r Dyfodol yn ymdrin ag argyfwng hinsawdd, felly mae angen i ni sicrhau nad yw llwythi gwaith PDP yn gorgyffwrdd.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

33.

Trafodaeth ar y cynllun gwaith ar gyfer 2020.

Cofnodion:

Darparodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ynghylch buddsoddi yn y ddinas.

 

Nododd yr aelodau'r caniatâd a lefelau'r cyllid y cytunwyd ei ddyrannu fesul cam. 

 

Manylodd yr Arweinydd ar argaeledd benthyca ar gyfradd ostyngol gan y Trysorlys. Nododd pa mor bwysig oedd defnyddio unrhyw elw ar gyfer cynlluniau newydd. 

 

Manylodd yr Arweinydd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd ar y cynnydd a wnaed yng nghanol y ddinas, i goridor yr afon a menter Skyline

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Lleoedd am y diweddariad llawn gwybodaeth, a gadawodd y ddau y cyfarfod.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

34.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynllun gwaith.

 

Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer 2020/2021 gynnwys y canlynol:

 

20 Chwefror 2020

 

1)     Amnest Gwastraff (diweddariad)

19 Mawrth 2020

 

1)     Adroddiad Blynyddol 2019/2020

2)     Goblygiadau Teithio Llesol yn Abertawe

16 Ebrill 2020

 

 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch eitemau i'w hystyried ar gyfer Cynllun Gwaith 2020/2021:

 

1)    Toiledau Cyhoeddus.

2)    Cynllun Rheoli Cyrchfannau.

3)    Statws Aur Stryd y Gwynt

4)    Newid yn yr Hinsawdd - goblygiadau posib dros y degawd nesaf (cadernid isadeiledd)

5)    Cymorthdaliadau First Cymru a lleoliad safleoedd bysus

6)    Ymweliadau â Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (awdurdodau lleol eraill)