Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 19 Medi 2019 fel cofnod cywir yn amodol ar gynnwys ymddiheuriadau'r Cynghorydd P Downing.

 

22.

Economi Abertawe (Twristiaeth).

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Twristiaeth a Marchnata ynghyd ag Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol a'r Rheolwr Strategol ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau gyflwyniad ar effeithiau cadarnhaol y diwydiant twristiaeth ar economi Abertawe.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

·         Ffigurau STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor) (2018) a oedd yn dangos bod twristiaeth yn werth £447.7m i'r economi leol.

·         Cafwyd 4.78m o ymwelwyr yn 2018.

·         Mathau o hysbysebu (Bwrdd Padlo ar eich Traed).

·         Dulliau hysbysebu (Twitter/Youtube/canolfannau cludiant/canolfannau siopa)

·         Gwerth cysylltiadau cyhoeddus a chroesawu newyddiadurwyr (blogwyr a flogwyr).

·         Cynllun Rheoli Cyrchfannau ar gyfer Bae Abertawe 2017-2020.

·         Cymorth busnes i gyfleoedd twristiaeth.

·         Nifer y rhai sy'n mynd i'r wefan.

·         Buddsoddi yn y wefan a'i datblygu.

 

Manylodd y Rheolwr Strategol - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau ar y ddau frand a ddefnyddir i hyrwyddo Abertawe; Joio Bae Abertawe a Chroeso Bae Abertawe.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd swyddogion y canlynol:

 

·         Er nad oes cyswllt uniongyrchol â chwmnïau teithio, cânt eu targedu ar gyfer y digwyddiadau mawr megis y Sioe Awyr a Gorymdaith y Nadolig.

·         Mae gwestai yn Abertawe yn cynnig pecynnau pan gynhelir digwyddiadau mawr yn y ddinas.

·         Mae cadw ymwelwyr yn ardal Abertawe yn her.

·         Gwnaed ymdrechion yn flaenorol i weithio gyda phartneriaid cludiant.

·         Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Trwyddedu Tacsis cyn digwyddiadau mawr (cyngherddau etc).

·         Er ei bod hi'n bwysig bod adrannau'r cyngor yn gweithio gyda'i gilydd wrth lunio polisïau a allai effeithio ar feysydd gwasanaeth eraill, pan fo cyllidebau'n gyfyngedig, daw hyn yn dipyn o her. 

 

Cyfeiriwyd at adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu a oedd yn archwilio ymagwedd y cyngor at hyrwyddo twristiaeth. Nodwyd y byddai ymateb Aelod y Cabinet yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd, 2019.

 

Dywedodd y Rheolwr Strategol - Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau y cynhelir arolwg ymwelwyr bob 3 i 4 blynedd. Dadansoddir yr wybodaeth hon i bennu a oes tueddiadau o ran canfyddiadau pobl (e.e. ymwelwyr yn cwyno am faterion penodol a hynny’n digwydd dro ar ôl tro). Bob blwyddyn mae 37% i 40% o ymwelwyr yn ymweld eto â'r ddinas.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y bydd y Rheolwr Twristiaeth a Marchnata yn dosbarthu manylion yr holl gysylltiadau/ddolenni sy'n ymwneud â hyrwyddo Abertawe.

2)    Cynnwys ymateb Aelod y Cabinet i'r ymchwiliad craffu i hyrwyddo twristiaeth yn Abertawe yn y cynllun gwaith i'w drafod yn y cyfarfod a gynhelir ar 14 Tachwedd 2019.

 

23.

Gwelliannau Teithio Llesol. pdf eicon PDF 11 MB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth gyflwyniad ar y Strategaeth Teithio Llesol.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

 

·         Nifer yr aelwydydd heb fynediad at gar neu fan.

·         Cyfran y bobl 20 i 29 oed heb drwydded yrru.

·         Y cynnydd mewn traffig ers 2013 (+7.5).

·         Mynediad aelwydydd at geir yn ôl ACEHI.

·         Sut mae pobl yn teithio i'r gwaith.

·         Rhwystrau i deithio llesol.

·         Deddf Teithio Llesol (Cymru).

·         Fframwaith y Polisi.

·         Map llwybrau presennol 2017

·         Dyfyniadau gan yr Ymgynghorydd Trafnidiaeth Gweinidogol a Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd.

·         Cronfeydd Cyfalaf Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

·         Twf y Rhwydwaith 2016-2020.

·         Cyswllt Townhill - prosiect heriol.

·         Cyswllt Townhill - trawstoriad.

·         Pwysau cystadleuol.

·         Beiciau Santander - cyfanswm y beiciau a logwyd yn ôl yr orsaf y'u benthycwyd ohonynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

24.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynllun gwaith.

 

Penderfynwyd y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer 2019/2020 gynnwys y canlynol:

 

 

14 Tachwedd 2019

 

1)      Economi Abertawe (Goblygiadau Brexit)

2)      Eiddo gwag ar y Stryd Fawr.

 

3)      Ymateb Aelod y Cabinet mewn perthynas ag Adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu (Twristiaeth).

 


19 Rhagfyr 2019

 

 

16 Ionawr 2020

 

 

20 Chwefror 2020

 

 

19 Mawrth 2020

 

 

16 Ebrill 2020

 

 

I’w drefnu

1)      Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer - Ymweliad Safle â Chastell-nedd Port Talbot.

2)      Toiledau Cyhoeddus - Gweithdy.