Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

60.

Cofnodion. pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

61.

Adroddiad Diwedd Blwyddyn.

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Lleoedd drosolwg o'r eitemau a drafodwyd gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn.  Amlygodd yr eitemau y gall aelodau ddymuno iddynt gael eu cynnwys yn y Cynllun Gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Coridor Afon Tawe

 

Darperir diweddariad yn y flwyddyn ddinesig nesaf.  Darparwyd diweddariad yn flaenorol, a oedd yn manylu ar yr uwchgynllun ar gyfer yr ardal honno.  Gwnaed cynnydd a bwriedir i'r pwyllgor fewnbynnu i'r strategaeth wrth symud ymlaen.

 

 

Troi Stryd y Gwynt yn Barth i Gerddwyr

 

Mae adroddiad yn cael ei lunio i'w anfon i'r Cabinet er mwyn ceisio cyllid ar gyfer y cynnig 'Aur' (sy'n cynnwys dynodi Stryd y Gwynt yn llwybr un ffordd).  Datblygir yr holl faterion, gan gynnwys yr asesiad effaith cydraddoldeb, yn yr adroddiad i'r Cabinet.

 

Polisi Cerbydlu Gwyrdd

 

Archwiliwyd mewnbwn y pwyllgor mewn perthynas â'r opsiwn gwyrddaf o ran caffael ynghyd â hierarchaeth. 

 

Strategaeth Trafnidiaeth

 

Cafwyd sawl trafodaeth o fewn cyd-destunau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.  Mae cyfarfodydd â First Cymru (fel rhan o'n strategaeth) mewn perthynas â phrosiectau penodol wedi bod yn gadarnhaol. 

 

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

 

Mae gwaith wedi dechrau ar safle Parc yr Helyg.  Trefnir ymweliad safle i weld y gwaith ôl-osod cyntaf (yn unol ag agenda ddatgarboneiddio Llywodraeth Cymru) a wnaed i rai o eiddo'r cyngor yng Nghraig-cefn-parc.

 

Polisi Tai Corfforaethol

 

Mae fframwaith polisi wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet. 

 

Polisi Isadeiledd Gwyrdd

 

Bydd fersiwn ddrafft ar gael ym mis Mai 2019 i'r pwyllgor ddarparu sylwadau arni. 

 

Goblygiadau Brexit

 

Caiff diweddariad pellach ei drefnu maes o law.

 

I grynhoi, dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod y pwyllgor wedi cael blwyddyn brysur a chynhyrchiol iawn, gyda mewnbwn i 2-3 strategaeth a oedd wedi'u cymeradwyo/i gael eu cymeradwyo.

 

 

62.

Dug Beaufort/Coridor yr afon.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

63.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at bynciau a all fod yn sail i'r Cynllun Gwaith ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020:

 

1)    Strategaeth Ddrafft Coridor Afon.

 

2)    Strategaeth Trafnidiaeth (gan gynnwys parcio yng nghanol y ddinas).

 

3)    Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

 

4)    Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd (goblygiadau economaidd).

 

5)    Economi Abertawe.

 

6)    Toiledau cyhoeddus (wedi'u lleoli'n bennaf yng nghanol y ddinas).

 

7)    Y Stryd Fawr.