Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. 

 

56.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

 

57.

Goblygiadau cadarnhaol/negyddol o BREXIT. (Y Dirprwy Brif Weithredwr i fod yn bresennol).

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr gyflwyniad ar oblygiadau cadarnhaol a negyddol Brexit.

 

Nododd y cyflwyniad:

 

1.     Y Fargen (yr hyn y dylai ei gynnwys)  

2.     Dim Bargen (dim cyfnod trawsnewid)

3.     Busnes fel Arfer - Cynllun Parhad Busnes "Cyflwr Sefydlog"

 

4.     Elfennau Negyddol y DU

 

5.     Elfennau Cadarnhaol y DU

 

6.     Ymagwedd Abertawe

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r Dirprwy Brif Weithredwr a ymatebodd yn briodol.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Dirprwy Brif Weithredwr am ei gyflwyniad addysgiadol ar ran y pwyllgor.

 

Penderfynwyd y dylai Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd anfon copi o'r cyflwyniad i'r holl aelodau.

 

 

58.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r Cynllun Gwaith:

 

 

18/04/19

1.     Adroddiad Diwedd Blwyddyn Drafft

2.     Dug Beaufort/Coridor yr afon

3.     Aelod perthnasol y Cabinet i fod yn bresennol a darparu awgrymiadau cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig i ddod.

Diweddariadau ar gyfer y dyfodol/meysydd i'w hystyried yn 2019/2020

1.     Goblygiadau economi ehangach.

2.     Parcio yn y Ddinas

3.     Y Fargen Ddinesig

4.     Gweithdy Glannau Afon Tawe; (22/10/18).

5.     Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer - Ymweliad Safle.

6.     Tai Cydweithredol - Y Diweddaraf am y Cynnydd.

7.     Strategaeth Coridor Afon Tawe - Y Diweddaraf am y Cynnydd

8.     Metro De-orllewin Cymru - Y Diweddaraf am y Cynnydd.

9.     Troi Stryd y Gwynt yn Ardal i Gerddwyr - Y Diweddaraf am y Cynnydd.